
Heddiw, mae Ofcom wedi cyhoeddi adroddiad blynyddol ei ar y BBC, sy'n asesu perfformiad y gorfforaeth o ran diwallu anghenion gwylwyr a gwrandawyr yn ystod y cyfnod Ebrill 2024 i Fawrth 2025. Mae'r adroddiad hefyd yn cynnwys canfyddiadau ail 'Adolygiad Cyfnodol' Ofcom o'r BBC.
Gan dynnu ar ymchwil gynulleidfaoedd, data diwydiant a gwybodaeth i randdeiliaid, mae'r adroddiad heddiw yn darparu sylfaen dystiolaeth y gall y Llywodraeth ei defnyddio wrth iddi gynnal ei hadolygiad Siarter.
Yn erbyn cefndir o bwysau ariannu a thirwedd cyfryngau sy'n newid yn gyflym, mae'r adroddiad yn canfod bod y BBC yn parhau i fod yn boblogaidd gyda chynulleidfaoedd, gydag 83% o oedolion y DU yn defnyddio ei wasanaethau’n wythnosol yn 2024/25. Mae'r BBC hefyd wedi cyflawni lefelau cryf o foddhad cynulleidfa cyffredinol (60% yn 2024/25), tra bod arwyddion cynnar bod ymgysylltu â chynulleidfaoedd iau yn gwella.
Mae cynnal ymddiriedaeth y gynulleidfa mewn newyddion yn bwysicach nag erioed
Dangosa ein hymchwil cynulleidfaoedd mai'r BBC yw'r ffynhonnell newyddion fwyaf poblogaidd yn ystod cyfnod presennol y Siarter (ers 2017). Dangosodd ffigurau diweddaraf Ofcom o fis Mai 2025 fod 70% o wylwyr newyddion teledu rheolaidd y BBC wedi rhoi sgôr uchel i’r BBC am gywirdeb, gyda chyfran debyg o ran ymddiriedaeth (68%).
Fodd bynnag, mae'r BBC wedi wynebu argyfwng sylweddol yn ddiweddar sy'n ymwneud â gwneud penderfyniadau golygyddol wrth wraidd ei allbwn newyddion a materion cyfoes. Mae Ofcom wedi rhybuddio o'r blaen – a heddiw rydym yn ailddatgan – bod yn rhaid i Fwrdd a Gweithrediaeth y BBC gymryd gafael mwy cadarn a gweithredu'n gyflym ac yn dryloyw pan fydd dadleuon neu fethiannau’n codi.
Mae mynd i'r afael â phryderon y gynulleidfa ynghylch ddidueddrwydd a dwyn ei hun i gyfrif pan fydd pethau'n mynd o chwith yn hanfodol i'r BBC gynnal ymddiriedaeth y gynulleidfa. Rhaid i hyn fod yn ffocws cadarn i'r BBC wrth iddo ailosod i gyflawni ar gyfer cynulleidfaoedd yn y cyfnod Siarter nesaf a thu hwnt.
Er mwyn darparu lens allanol, byddwn yn ymgymryd â gwaith sy'n edrych ar yr hyn sy’n sbarduno ymddiriedaeth y gynulleidfa yn y BBC a byddwn yn cyhoeddi Cylch Gorchwyl yn gynnar y flwyddyn nesaf.
Rhaid i'r BBC chwarae i'w gryfderau
Fel y nodwyd gennym yn ein hadolygiad o’r Cyfryngau Gwasanaeth Cyhoeddus, Argyfwng Darlledu, mae sicrhau llwyddiant a chynaliadwyedd y system CGC yn y dyfodol, yn gofyn am weithredu ar y cyd gan ddarlledwyr, y Llywodraeth, y cyfryngau cymdeithasol ac Ofcom.
Er mwyn mynd i’r afael â'r heriau hyn ac i barhau i fod yn berthnasol yn y dyfodol, dylai'r BBC - sydd wrth wraidd y system CGC - chwarae i'w gryfderau, gan barhau i fynd i'r afael â meysydd lle mae angen iddo wella, gan gynnwys trwy:
- dyfnhau ei ymgysylltiad â chynulleidfaoedd sydd lleiaf bodlon – gan gynnwys y rhai ar incwm is;
- arloesi a chymryd risgiau i gyffroi ac ymgysylltu, sicrhau bod cynnwys ar gael lle mae pobl eisiau ei wylio, megis ar lwyfannau trydydd parti;
- adeiladu ar lwyddiannau ei strategaeth 'Ar draws y DU' i ddarparu ystod o gynnwys wedi'i wneud ar gyfer cymunedau amrywiol gwledydd a rhanbarthau'r DU, gan gefnogi eu heconomïau creadigol;
- buddsoddi mewn llythrennedd yn y cyfryngau i helpu cynulleidfaoedd i ymgysylltu'n feirniadol â newyddion a gwasanaethau ar-lein.
Byddwn yn trafod ein hadroddiad gyda'r Llywodraeth fel rhan o'i Hadolygiad Siarter. Bydd hyn hefyd yn cynnwys sut y gellir diweddaru'r fframwaith rheoleiddio i roi'r hyblygrwydd i'r BBC ddarparu ar draws gwasanaethau llinol traddodiadol ac ar-lein – gan barhau i gael ei ddwyn i gyfrif.
Cynnwys cysylltiedig