News consolation HERO (1336 × 560px)

Ymgynghoriad ar newid y rheolau darlledu ynghylch ‘gwleidyddion fel cyflwynwyr’

Cyhoeddwyd: 12 Mai 2025

Heddiw, mae Ofcom yn ymgynghori ar newid i Reol 5.3 y Cod Darlledu a’r Canllawiau cysylltiedig, sy’n ymwneud â gwleidyddion yn cyflwyno newyddion.

Nod y newid arfaethedig yw ei gwneud yn glir i ddarlledwyr na ellir defnyddio gwleidydd fel darllenydd newyddion, cyfwelydd newyddion na gohebydd newyddion mewn unrhyw fath o raglen, oni bai fod cyfiawnhad golygyddol eithriadol. Mae’r rheol bresennol yn datgan na cheir defnyddio unrhyw wleidydd fel darllenydd newyddion, cyfwelydd na gohebydd mewn ‘unrhyw raglenni newyddion’.

Byddai gwleidyddion yn dal i allu cyflwyno rhaglenni o dan y newid hwn i’r rheol. Ond ni fyddent yn gallu cyflwyno newyddion – ni waeth beth fo natur y rhaglen – heb gyfiawnhad golygyddol eithriadol.

Rydym yn cynnig y newid hwn yn dilyn Dyfarniad yr Uchel Lys: GB News v Ofcom a oedd yn egluro, yn ôl y gyfraith, na all rhaglen gael ei hystyried yn rhaglen newyddion ac yn rhaglen materion cyfoes ar yr un pryd.

Mae’r newid arfaethedig hefyd yn adlewyrchu’n well realiti’r amgylchedd cyfryngau sy’n esblygu, lle mae’r gwahaniaeth rhwng cynnwys newyddion a materion cyfoes wedi dod yn fwy aneglur, a lle mae hi wedi dod yn fwy cyffredin defnyddio gwleidyddion i gyflwyno rhaglenni.

Mewn tirwedd cyfryngau sy’n fwyfwy tameidiog, mae’n hanfodol bod ein rheolau didueddrwydd dyladwy yn cael eu diweddaru. O ganlyniad, mae cynulleidfaoedd yn elwa o sector darlledu sy’n cyrraedd safonau cywirdeb dyladwy a didueddrwydd dyladwy. Mae darlledwyr, yn eu tro, yn elwa o’r ymddiriedaeth a’r hygrededd cryfach y mae bodloni’r rhwymedigaethau hyn yn eu rhoi iddynt. 

Y dyddiad cau ar gyfer ymateb yw 23 Mehefin 2025.

Yn ôl i'r brig