Ymgynghoriad: Cod Ymarfer ar gyfer Gwasanaethau Dethol Radio Dynodedig

Cyhoeddwyd: 14 Medi 2026
Ymgynghori yn cau: 9 Tachwedd 2026
Statws: Agor

Cyflwynodd Ddeddf y Cyfryngau 2024 fframwaith rheoleiddio newydd ar gyfer radio rhyngrwyd a ddarperir trwy gynorthwywyr llais er mwyn diogelu mynediad cynulleidfaoedd i radio darlledu a  ffrydir ar-lein. Mae ein Cod drafft yn  argymell camau y dylai gwasanaethau cynorthwywyr llais dynodedig eu cymryd i gydymffurfio â’u dyletswyddau newydd o dan y Ddeddf.

Mae radio yn parhau i fod yn ffynhonnell bwysig o newyddion ac adloniant i gynulleidfaoedd y DU, ac mae'r ffordd y mae pobl yn ei gyrchu yn newid. Mae mwy o wrando ar radio byw bellach yn digwydd ar-lein na thrwy radio analog (FM ac AM), gyda llawer o wrandawyr yn defnyddio siaradwyr clyfar a dyfeisiau eraill a reolir gan lais i gael mynediad at eu hoff orsafoedd.

Cyflwynodd Ddeddf y Cyfryngau 2024 fframwaith rheoleiddio newydd i ddiogelu argaeledd ffrydiau ar-lein o radio darlledu yn y DU ar wasanaethau cynorthwywyr llais. Nod hyn yw sicrhau y bydd cynulleidfaoedd yn parhau i gael mynediad at radio rhyngrwyd yn y dyfodol fel y maent heddiw.

Mae Cod Ymarfer Ofcom yn disgrifio set o gamau gweithredu a argymhellir y dylai darparwyr gwasanaethau cynorthwyydd llais dynodedig eu dilyn i gydymffurfio â'u dyletswyddau. Mae'r ymgynghoriad hwn yn nodi ein hargymhellion arfaethedig. Mae dogfen Cod Ymarfer drafft hefyd ynghlwm i'r ymgynghoriad.

Byddwn yn cyhoeddi datganiad ynghyd â'r Cod Ymarfer terfynol y flwyddyn nesaf, gan ystyried unrhyw ymatebion i'r ymgynghoriad hwn.

Ymateb i'r Alwad hon am Dystiolaeth

Cyflwynwch ymatebion gan ddefnyddio'r ffurflen ymateb erbyn 5pm, 9 Tachwedd fan bellaf.

Sut i ymateb

Cyfeiriad

Media Act Part 6
Ofcom
Riverside House
2A Southwark Bridge Road
London SE1 9HA