
Mae pobl anabl yn parhau i fod heb gynrychiolaeth ddigonol ar draws y maes teledu a radio, ac mae’r data ar gynrychiolaeth dosbarth hefyd yn parhau i fod yn is, yn ôl astudiaeth ddiweddaraf Ofcom ar gyfansoddiad gweithlu’r diwydiant darlledu.
Mae nawfed adroddiad blynyddol Ofcom ar degwch, amrywiaeth a chynhwysiant ym maes darlledu yn dangos bod pobl anabl yn parhau i gael eu tangynrychioli ar draws y diwydiant, gan gyfrif am 12% o weithwyr teledu a 9% o weithwyr radio yn 2025. Er bod cynrychiolaeth yn cynyddu ychydig yn flynyddol, mae dal i fod yn is na chyfartaledd y boblogaeth sy’n gweithio o 18%.
Ar lefel rheoli, mae'r ffigurau’n fwy llym fyth, gyda dim ond un o bob deg (10%) o uwch rolau teledu yn cael eu dal gan staff anabl.
Yn yr un modd, o'r data economaidd-gymdeithasol cyfyngedig sydd ar gael, mae'n ymddangos mai dim ond chwarter (27%) o weithwyr sy'n dod o gefndir dosbarth gweithiol, yn erbyn meincnod y DU o 39%.
Mae Ofcom yn galw ar ddarlledwyr i ddyblu eu hymdrechion, gan adeiladu ar y mentrau sydd ar draws y sector, i ysgogi gwelliannau mewn cynrychiolaeth anabledd yn y flwyddyn i ddod. Byddwn yn parhau i hwyluso ymgysylltu a gweithredu traws-ddiwydiant.
Rydym hefyd eisiau gweld y bylchau sylweddol mewn casglu data economaidd-gymdeithasol yn cael eu datrys. Bydd Ofcom yn ymgynnull bord gron y diwydiant i gytuno ar fetrig tebyg a sut y dylid eu casglu a'u defnyddio.
Mae canfyddiadau nodedig eraill o adroddiad heddiw yn cynnwys:
- bu twf cyson mewn swyddi darlledu y tu allan i Lundain, gyda bron i hanner (49%) o weithlu teledu a radio’r DU bellach wedi'i leoli y tu allan i Lundain yn y Cenhedloedd a'r Rhanbarthau - i fyny o 48% y llynedd.
- mae cynrychiolaeth menywod (44%) a phobl o grwpiau ethnig lleiafrifol (9%) mewn rolau gwneud penderfyniadau uwch yn parhau i fod yn is na meincnodau gweithlu’r DU.