Mae’r ymgynghoriad hwn yn nodi safbwynt cychwynnol Ofcom ar gais y BBC i wneud dau newid i’w Drwydded Weithredu.
Mae wedi gofyn am leihau’r cwota newyddion a materion cyfoes ar gyfer BBC Radio Foyle o 1,043 awr i 710 awr ym mhob blwyddyn ariannol. Mae hefyd wedi gofyn am leihau’r cwota newyddion a materion cyfoes ar gyfer BBC Asian Network o 1,224 awr i 675 awr y flwyddyn. Yn y ddau achos, mae’r BBC wedi egluro bod y newidiadau’n cael eu sbarduno gan ei nod o wasanaethu anghenion cynulleidfaoedd yn well ac o ganlyniad i fuddsoddi mwy mewn gwasanaethau ar-lein a digidol ar adeg o gyfyngiadau ariannol sylweddol.
O dan Ddiben Cyhoeddus 1, mae’n rhaid i’r BBC ddarparu newyddion a gwybodaeth ddiduedd i helpu pobl i ddeall ac ymgysylltu â'r byd o’u cwmpas. Wrth i arferion cynulleidfaoedd barhau i newid, mae’n bwysig bod y BBC yn gallu darparu allbwn newyddion a materion cyfoes lle mae cynulleidfaoedd yn fwyaf tebygol o ddod o hyd iddo, ac mewn ffyrdd sy’n taro tant â nhw.
Mae cynulleidfaoedd o bob oed, ac yn enwedig y rhai dan 35 oed, yn parhau i symud ar-lein, gan ddibynnu llai ar wasanaethau teledu a radio a ddarlledir traddodiadol. Nid yw’r tueddiadau’n wahanol yng Ngogledd Iwerddon ac er bod radio lleol yn dal yn ffynhonnell allweddol ar gyfer newyddion a gwybodaeth, mae llwyfannau ar-lein bellach yn cael eu nodi fel un o’r prif ffyrdd (ochr yn ochr â theledu) y mae cynulleidfaoedd yn cael gafael ar newyddion yng Ngogledd Iwerddon. Mae cynulleidfaoedd Asiaidd Prydeinig yn adlewyrchu’r tueddiadau hyn. Ar yr un pryd, mae proffil oedran cynulleidfa gorsaf BBC Asian Network, sy’n targedu cynulleidfaoedd o dan 35 oed, wedi codi. Yn y cyd-destun hwn, mae’r BBC wedi gwneud cais i newid amodau ei Drwydded Weithredu ar gyfer BBC Radio Foyle a BBC Asian Network.
Yr hyn rydyn ni’n ei gynnig
Rydyn ni’n cynnig cymeradwyo ceisiadau’r BBC i leihau’r cwotâu newyddion a materion cyfoes ar BBC Radio Foyle a BBC Asian Network. Rydyn ni’n credu y byddai’r cwotâu newyddion diwygiedig yn briodol ar gyfer mynnu bod y BBC yn cyflawni ei Genhadaeth ac yn hyrwyddo ei Ddibenion Cyhoeddus, ac mae gan y newidiadau’r potensial i fodloni anghenion cynulleidfaoedd o ystyried newidiadau mewn arferion gwylio.
Byddem yn disgwyl i’r BBC fonitro effaith unrhyw newidiadau ar ymgysylltiad cynulleidfaoedd, er mwyn sicrhau, lle bo angen, ei fod yn parhau i addasu i wasanaethu cynulleidfaoedd yn well. Er mwyn dal y BBC i gyfrif, yn ogystal â sicrhau ei fod yn cydymffurfio â’i gwotâu, byddem yn parhau i asesu perfformiad. Byddai hyn yn cynnwys sut mae’r BBC yn darparu cynnwys newyddion a materion cyfoes i gynulleidfaoedd ar draws ei holl wasanaethau, gan gynnwys monitro bodlonrwydd cynulleidfaoedd, ac adrodd ar hyn fel rhan o’n Hadroddiad Blynyddol. Nodwn hefyd ein gallu parhaus i ymyrryd os bydd pryderon yn codi ynghylch perfformiad y BBC.
Rydyn ni nawr yn gofyn am safbwyntiau gan bartïon â diddordeb neu bartïon y mae hyn yn effeithio arnynt ynghylch y cynigion a nodir yn yr ymgynghoriad hwn erbyn 26 Mehefin 2025.
Crynodeb byr ar lefel uchel yn unig yw’r adran drosolwg yn y ddogfen hon. Mae’r cynigion rydyn ni’n ymgynghori yn eu cylch a’n rhesymeg wedi’u nodi yn y ddogfen lawn.
Ymateb i'r ymgynghoriad hwn
Cyflwynwch ymatebion gan ddefnyddio'r ffurflen ymateb i'r ymgynghoriad erbyn 5pm ar 26 Mehefin 2025.
Dogfennau ategol (Mae'r cynnwys hwn ar gael yn Saesneg yn unig)
Sut i ymateb
Content Policy Team
Ofcom
Riverside House
2A Southwark Bridge Road
London SE1 9HA