Datganiad: Newidiadau i BBC Radio Foyle a BBC Asian Network

Cyhoeddwyd: 30 Gorffennaf 2025
Ymgynghori yn cau: 26 Mehefin 2025
Statws: Datganiad ar y gweill (Wedi'i Gau)
Diweddarwyd diwethaf: 31 Gorffennaf 2025

Datganiad 31 Gorffennaf  2025

Heddiw, yn dilyn ymgynghoriad, rydym wedi penderfynu cymeradwyo cais y BBC i ddiwygio ei Drwydded Weithredu i leihau'r cwotâu newyddion a materion cyfoes ar BBC Radio Foyle a BBC Asian Network.

Cais y BBC

Cyhoeddodd y BBC newidiadau i'w wasanaethau yng Ngogledd Iwerddon yn 2022, a oedd yn cynnwys disodli'r rhaglen frecwast dwy awr ar BBC Radio Foyle gyda sioe newydd, fyrrach.

Dylai'r BBC fod wedi gofyn am ostyngiad yn y cwota newyddion a materion cyfoes yn ei Drwydded Weithredu ar y pryd. Fodd bynnag, oherwydd gwall a wnaeth y BBC wrth gyfrifo ei allbwn, credai ar gam nad oedd angen iddo wneud hynny.

I gywiro hyn, yn gynharach eleni cyflwynodd y BBC gais i leihau ei chwota newyddion a materion cyfoes ar gyfer BBC Radio Foyle o 1,043 awr i 710 awr ym mhob blwyddyn ariannol.

Ar wahân, mae'r BBC yn bwriadu adnewyddu BBC Asian Network fel ei fod yn gwasanaethu gwrandawyr iau yn well. Felly, mae wedi gofyn i'w chwota newyddion a materion cyfoes ar gyfer BBC Asian Network gael ei leihau o leiaf 1,224 awr i o leiaf 675 awr ym mhob blwyddyn ariannol. Esboniodd y BBC y bydd hyn yn ei alluogi i ddisodli rhai o'i raglenni newyddion a materion cyfoes gyda sioeau newydd sy'n canolbwyntio ar gerddoriaeth.

Ein penderfyniad

Wrth i wylwyr a gwrandawyr barhau i fudo ar-lein, mae angen i'r BBC allu addasu a buddsoddi i gwrdd ag arferion cynulleidfa sy'n esblygu, gan ddarparu cynnwys lle mae pobl fwyaf tebygol o ddod o hyd iddo ac ymgysylltu ag ef.

Ein barn ni yw y byddai'r cwotâu diwygiedig yn briodol ar gyfer ei gwneud yn ofynnol i'r BBC gyflawni ei Genhadaeth a hyrwyddo ei Ddibenion Cyhoeddus, ac mae gan y newidiadau y potensial i ddiwallu anghenion newidiol y gynulleidfa. Felly rydym wedi cymeradwyo cais y BBC.

Rydym yn disgwyl i'r BBC fonitro effaith y newidiadau a wnaed i BBC Radio Foyle a BBC Asian Network ar ymgysylltu â chynulleidfaoedd, er mwyn sicrhau ei fod yn parhau i addasu i wasanaethu cynulleidfaoedd yn well. 

Mewn perthynas â BBC Radio Foyle, rydym yn siomedig bod y BBC wedi torri amodau ei drwydded, a byddwn yn ystyried hyn yng nghyd-destun cydymffurfiaeth yn ein hadroddiad Blynyddol ar y BBC yn ddiweddarach eleni.

Yn fwy cyffredinol, rhaid i'r BBC hefyd fod yn dryloyw ynglŷn â sut mae'n cyflawni ar gyfer cynulleidfaoedd, a byddwn yn ei ddwyn i gyfrif, gan gynnwys parhau i asesu ei berfformiad.

Cysylltwch

Cyfeiriad

Content Policy Team
Ofcom
Riverside House
2A Southwark Bridge Road
London SE1 9HA