
Mae ffigyrau newydd a gyhoeddwyd heddiw gan Ofcom, yn dangos bod cwynion gan gwsmeriaid am brif ddarparwyr band eang y DU wedi gostwng i'w lefelau isaf erioed.
Mae Ofcom yn cyhoeddi data chwarterol sy’n olrhain tueddiadau cwynion gan gwsmeriaid am ddarparwyr telethrebu a theledu-trwy-dalu. Mae’r ffigyrau diweddaraf – sy’n cwmpasu Ionawr i Mawrth 2026 – yn datgelu bod cwynion am fand eang wedi lleihau’n fawr, o’r nifer mwyaf erioed yn 2011 pan oedd 40 o gŵynion 40 fesul 100,000 o gwsmeriaid, i’r nifer isaf erioed gyda chwe chwyn fesul 100,000 o gwsmeriaid yn Ch1 2026.
Trwy ein gwaith rydym yn helpu defnyddwyr yn y DU i gael mwy am eu harian, ac elwa ar wasanaethau dibynadwy o ansawdd uchel am brisiau fforddiadwy. Ar draws marchnadoedd telathrebu cystadleuol y DU, mae bargeinion gwych ar gael ac mae cwmnïau'n parhau i fuddsoddi yn eu rhwydweithiau i gynnig mwy o ddewis a gwella ansawdd.
Gall ein data ar gŵynion helpu cwsmeriaid i weld sut mae eu darparwr yn perfformio o gymharu â’i gystadleuwyr. O'i ystyried ochr yn ochr â mesurau eraill fel pris, argaeledd ac ansawdd, gall y data fod yn ffynhonnell ddefnyddiol o wybodaeth i helpu pobl i benderfynu pa wasanaeth sy'n iawn iddyn nhw. Yn y pen draw, os nad yw pobl yn fodlon â'u darparwr, mae’n haws nag erioed iddynt bleidleisio â'u traed a newid.
Er nad yw Ofcom yn gallu gweithredu ar gŵynion unigol, mae'r data hefyd yn ein helpu i ddeall yn well y rhesymau dros anfodlonrwydd cwsmeriaid ar draws y sector a gall helpu i nodi unrhyw faterion systemig y gallai bod cyfiawnhad i ni edrych yn fanylach arnynt ar ran defnyddwyr.
Darparwyr gorau a gwaethaf yn ôl y ffigurau diweddaraf
Wrth edrych ar y darlun tymor byr, mae ein ffigurau diweddaraf yn datgelu, gyda’i gilydd, fod cwynion am ddarparwyr llinell dir, band eang, telathrebu a theledu-trwy-dalu wedi gostwng ym mis Ionawr i fis Mawrth 2026 o gymharu â'r chwarter blaenorol (Ch4 2025, Hydref i Ragfyr):
Band eang
- TalkTalk oedd y darparwr band eang a y cwynwyd amdano fwyaf, gyda'u cwynion yn aros ar lefelau tebyg i'r chwarter blaenorol (Ch4 2025). Roedd cwynion yn bennaf yn ymwneud â diffygion, gwasanaeth a darpariaeth, y dull o ymdrin â chwynion a phroblemau gyda bilio, prisio a thaliadau.
- Plusnet a Sky oedd y darparwyr band eang sefydlog a gafodd y nifer lleiaf o gŵynion.
Llinell dir
- Plusnet a TalkTalk oedd y darparwyr llinell dir a gafodd y nifer mwyaf o gŵynion - gwelodd y ddau gynnydd mewn cwynion o gymharu â'r chwarter blaenorol.
- EE, Sky, Utility Warehouse, Virgin Media a Vodafone oedd y darparwyr llinell dir y cwynwyd amdanynt lleiaf.
Ffôn symudol
- Sky Mobile oedd y cwmni symudol a gafodd y nifer mwyaf o gŵynion. Cwynodd cwsmeriaid yn bennaf am brofiadau wrth newid darparwr.
- Cafodd EE, Giffgaff, Tesco Mobile, Three a Vodafone y lleiaf o gŵynion am wasanaethau symudol.
Teledu-trwy-Dalu
- EE a Virgin Media oedd y darparwyr teledu-trwy-dalu y cwynwyd amdanynt fwyaf. Cwynodd cwsmeriaid yn bennaf am sut y cafodd eu cwynion eu trin (EE) a phroblemau gyda bilio, prisio a thaliadau (Virgin Media).
- Y darparwyr teledu-trwy-dalu a gafodd y nifer lleiaf o gŵynion oedd Sky a TalkTalk.
Dywedodd Cristina Luna-Esteban, Cyfarwyddwr Defnyddwyr a Marchnadoedd Manwerthu Ofcom: "Mae’n galonogol gweld cwynion band-eang yn disgyn i'w lefelau isaf ers dechrau ein cofnodion, rhaid i gwmnïau beidio â bod yn hunanfodlon ac rydym yn disgwyl iddynt ymdrechu'n barhaus i wella eu gwasanaethau a darparu profiad gwych i gwsmeriaid.
"Rydym yn annog unrhyw gwsmeriaid sy’n anfodlon â'u darparwr presennol i bleidleisio â'u traed. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, rydym wedi ei gwneud hi'n haws nag erioed i bobl siopa o gwmpas ac arbed arian, trwy gyflwyno rhybuddion diwedd contract, crynodebau contract symlach, a phrosesau i’w gwneud hi’n haws newid contractau band eang a symudol."
Defnyddiwch y siartiau isod i weld y ffigurau yn llawn.
Cynnwys cysylltiedig