Datganiad a gyhoeddwyd ar 23 Ebrill 2025
Mae Deddf Cyfryngau 2024 wedi cyflwyno trefn amlygrwydd ac argaeledd ar-lein newydd sy’n canolbwyntio ar lwyfannau teledu cysylltiedig sy’n galluogi pobl i ddewis a chael gafael ar raglenni a chwaraewyr teledu sy’n cael eu darparu drwy’r chwaraewyr hynny. Bydd y drefn newydd hon yn mynnu bod llwyfannau teledu cysylltiedig sydd wedi’u dynodi gan yr Ysgrifennydd Gwladol yn sicrhau bod BBC iPlayer, ac unrhyw chwaraewyr teledu darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus eraill sydd wedi’u dynodi gan Ofcom, yn ogystal â’u cynnwys gwasanaeth cyhoeddus, ar gael, yn amlwg ac yn hygyrch.
O ran llwyfannau teledu cysylltiedig, y cyfeirir atynt yn y Ddeddf fel ‘gwasanaethau dethol teledu’, ein rôl ni yw darparu adroddiad i’r Ysgrifennydd Gwladol yn nodi ein hargymhellion ar ddynodi’r gwasanaethau hyn. Cyn gwneud hynny, rhaid i ni gyhoeddi datganiad am yr egwyddorion a’r dulliau y byddwn yn eu defnyddio wrth baratoi ein hadroddiad.
Ym mis Rhagfyr, fe wnaethom gyhoeddi ymgynghoriad sy’n nodi ein Datganiad o Egwyddorion a Dulliau arfaethedig. Ar ôl ystyried ymatebion rhanddeiliaid, a oedd yn gefnogol i’r Datganiad drafft i raddau helaeth, rydym wedi penderfynu peidio â gwneud unrhyw newidiadau a bwrw ymlaen â’r Datganiad fel y nodir yn yr ymgynghoriad. Felly, rydym yn cyhoeddi’r Datganiad o Egwyddorion a Dulliau terfynol, ynghyd â dogfen sy’n crynhoi’r sylwadau a gawsom am ein Datganiad arfaethedig, ein hymatebion i’r sylwadau hynny a’r rhesymeg dros ein penderfyniad.
Yn yr ymgynghoriad, fe wnaethom ofyn hefyd am farn ar ein syniadau newydd ar sut i fynd i’r afael â’n hadroddiad cyntaf i’r Ysgrifennydd Gwladol. Rydym yn ddiolchgar i randdeiliaid am eu hymgysylltiad ar y pwyntiau hyn, a byddwn yn ystyried eu sylwadau wrth gynhyrchu’r adroddiad hwnnw, y bwriadwn ymgynghori arno yn ystod haf 2025.
Ymatebion
Gwybodaeth cyswllt
Tîm Polisi Cynnwys
Ofcom
Riverside House
2A Southwark Bridge Road
London SE1 9HA