Father watching daughter using a tablet

Sut mae Ofcom yn helpu plant i fod yn fwy diogel ar-lein – canllaw i rieni

Cyhoeddwyd: 24 Ebrill 2025
Diweddarwyd diwethaf: 20 Ebrill 2026

Bydd plant yn y DU yn gallu byw bywyd mwy diogel ar-lein o dan fesurau diogelu newydd Ofcom sy’n gosod safonau diogelwch newydd uchelgeisiol i gwmnïau technoleg.

Ofcom yw rheoleiddiwr diogelwch ar-lein y DU ac mae diogelu plant yn flaenoriaeth iddo. Rydym yn benderfynol o wneud y byd ar-lein yn lle gwell iddyn nhw – ac i roi tawelwch meddwl i rieni y bydd eu plant yn cael eu diogelu’n well rhag y risgiau posibl.

Mae treulio amser ar-lein yn rhan o fywyd bob dydd i bawb yn y DU – gan gynnwys plant. Rydym yn gwerthfawrogi’r gwerth y mae plant a theuluoedd yn ei gael o ddefnyddio gwasanaethau ar-lein, ac rydym wedi siarad â llawer o blant a rhieni wrth lunio’r disgwyliadau rydym yn eu gosod ar gwmnïau.

Rydym eisiau i blant allu mwynhau manteision bod ar-lein, gan roi sicrwydd i rieni y bydd gwasanaethau fel gwefannau, llwyfannau cyfryngau cymdeithasol, gemau ac apiau yn fwy cyfrifol nag erioed am wneud yn siŵr bod mannau ar-lein yn fwy diogel i’r plant sy’n eu defnyddio.

Dyna pam ein bod wedi gosod y mesurau newydd hyn y mae’n rhaid i wasanaethau ar-lein eu rhoi ar waith i wella eu mesurau diogelwch, yn enwedig i ddiogelu plant. Mae hynny’n golygu atal plant rhag dod ar draws y cynnwys mwyaf niweidiol sy’n ymwneud â hunanladdiad, hunan-niweidio, anhwylderau bwyta, a phornograffi. Rhaid i safleoedd ac apiau hefyd weithredu i ddiogelu plant rhag deunydd sy’n gysylltiedig â chasineb at fenywod a deunydd treisgar, cas neu sarhaus, bwlio ar-lein a heriau peryglus.

Dyma’r camau diweddaraf yn ein gwaith diogelwch ar-lein, ac mae rhagor ar y gweill. Rydym yn gwerthfawrogi na fydd y mesurau hyn yn datrys holl broblemau’r byd ar-lein, ond rydym yn hyderus y byddan nhw’n helpu i gymryd cam mawr ymlaen o ran diogelwch ar-lein i blant yn y DU. Dyna ein haddewid i rieni.  

Beth yw’r Ddeddf Diogelwch Ar-lein?

Mae mesurau heddiw yn rhan o’r rheolau diogelwch ar-lein ehangach. Mae’r Ddeddf Diogelwch Ar-lein yn gyfres newydd o gyfreithiau sy’n diogelu pawb rhag cynnwys anghyfreithlon ar-lein, ac sy’n diogelu plant rhag cynnwys niweidiol.

Mae’n gwneud cwmnïau technoleg yn gyfreithiol gyfrifol am ddiogelwch eu defnyddwyr. Ac mae’n rhoi pwerau i Ofcom fel rheoleiddiwr diogelwch ar-lein i orfodi’r cyfreithiau hyn – gan gynnwys cymryd camau yn erbyn cwmnïau nad ydynt yn cydymffurfio â’u dyletswyddau diogelwch ar-lein.  

Bydd pob safle ac ap y gallai plant eu defnyddio – p’un a ydynt yn cael eu defnyddio ar ffôn clyfar, tabled, cyfrifiadur neu lwyfan gemau – yn gorfod ddilyn ein rheolau newydd, er mwyn i blant gael profiadau mwy diogel ar-lein.

Ydy’r Ddeddf Diogelwch Ar-lein yn atal plant rhag defnyddio cyfryngau cymdeithasol?

Ddim eto. Ar hyn o bryd, nid yw'r ddeddf yn gwahardd plant o gyfryngau cymdeithasol, nac yn gosod isafswm oedran i'w ddefnyddio.

Fodd bynnag, ym mis Mehefin 2026 cyhoeddodd llywodraeth y DU ei chynlluniau i ddiogelu plant ymhellach ar-lein- sy'n cynnwys gwaharddiad ar wasanaethau cyfryngau cymdeithasol i blant dan 16 oed a gosodiadau diofyn ar gyfer pobl ifanc 16 ac 17 oed i'w helpu i reoli eu hamser ar-lein.  Cyhoeddodd y llywodraeth hefyd gyfyngiadau i blant o swyddogaethau peryglus fel ffrydio byw a chyfathrebu gyda dieithriaid.  Rydym yn disgwyl y bydd yr amddiffyniadau newydd hyn yn dod i rym o 2027.

Beth allwch chi ei wneud fel rhiant

Rydym yn gwerthfawrogi efallai eich bod yn poeni am ddiogelwch eich plant ar-lein. Ac rydym hefyd yn gwybod bod y rhan fwyaf o blant wedi dod ar draws cynnwys a gweithgarwch niweidiol ar-lein. Mae’n gallu cael effaith ddifrifol ar lesiant corfforol a meddyliol plant.

Er bod y cwmnïau technoleg yn gyfrifol am gadw plant yn ddiogel – ac rydym ni’n eu dal i gyfrif i wneud yn siŵr eu bod yn gwneud hynny – dyma ambell awgrym i helpu rhieni i reoli’r risgiau i’w plant ar-lein:

  1. Siaradwch yn rheolaidd â’ch plant am yr hyn maen nhw’n ei wneud pan fyddan nhw ar-lein. Anogwch nhw i ddweud wrthych chi os ydyn nhw wedi gweld rhywbeth ar-lein sy’n niweidiol yn eu barn nhw.
  2. Gwnewch yn siŵr bod eich plant yn cofrestru â gwasanaethau ar-lein gan ddefnyddio eu hoedran go iawn, er mwyn helpu i’w hatal rhag cael gafael ar gynnwys sy’n addas i unigolion hŷn yn unig.
  3. Gwnewch yn siŵr eu bod yn gwybod sut mae riportio cynnwys amhriodol neu niweidiol, sut mae rhwystro cyfrifon sy’n ei rannu a’u hannog i beidio â’i rannu eu hunain. Os yw’r cynnwys yn anghyfreithlon, rhowch wybod i’r heddlu. Ni all Ofcom ddelio â chwynion unigol am gynnwys ar-lein.
  4. Mae Rheolaethau rhieni yn adnodd defnyddiol, sy’n eich helpu i fonitro a chyfyngu ar yr amser mae eich plant yn ei dreulio ar-lein, a’r hyn maen nhw’n ei wneud pan fyddan nhw yno.

Mae amrywiaeth o adnoddau defnyddiol ar gael hefyd gan wahanol sefydliadau:

  • Mae gan wefan y Llywodraeth amrywiaeth o wybodaeth i rieni, gan gynnwys sut i siarad â'ch plant a gwybodaeth ymarferol fel rheolaethau rhieni.
  • Mae gan The Safer Internet Centre – y corff sy’n gyfrifol am Ddiwrnod Defnyddio’r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel, y mae Ofcom yn ei gefnogi – wybodaeth i’ch helpu i gadw eich plant yn ddiogel ar-lein.
  • Mae gan yr NSPCC hefyd hyb diogelwch ar-lein sy’n cynnwys cyngor i rieni ac i blant, gan gynnwys awgrymiadau ar sut i siarad â’ch plant am ddiogelwch ar-lein.
  • Mae Internet Matters yn cynnig gwybodaeth a chyngor i rieni ac i ofalwyr i helpu eu plant i fynd i’r afael â’r byd digidol – gan gynnwys pecyn cymorth digidol y gallwch ei deilwra yn ôl anghenion eich teulu.

Sut bydd eich plant yn cael eu cadw’n fwy diogel?

Mae ein rheolau’n cynnwys nifer o fesurau a fydd yn helpu i wella diogelwch i bawb sydd dan 18 oed pan fyddan nhw ar-lein.

  • Gwiriadau oedran effeithiol. Rhaid i lwyfannau roi gwiriadau oedran cadarn ar waith i atal plant rhag cael gafael ar gynnwys niweidiol, gan gynnwys pornograffi, anhwylderau bwyta, hunan-niweidio a chynnwys am hunanladdiad.
  • Ffrydiau mwy diogel. Ni chaiff algorithmau argymell cynnwys niweidiol i blant yn eu ffrydiau.
  • Gweithredu’n gyflym. Rhaid i bob safle ac ap fod â phrosesau ar waith i adolygu, asesu a mynd i’r afael yn gyflym â chynnwys niweidiol pan fyddant yn dod i wybod amdano.
  • Mwy o ddewis a chefnogaeth. Mae’n rhaid i safleoedd ac apiau roi mwy o reolaeth i blant dros eu profiad ar-lein. Mae hyn yn cynnwys caniatáu iddynt nodi pa gynnwys nad ydynt yn ei hoffi, derbyn neu wrthod gwahoddiadau i sgyrsiau grŵp, rhwystro a thewi cyfrifon ac analluogi sylwadau ar eu postiadau eu hunain. Rhaid cael gwybodaeth gefnogol i blant a allai fod wedi dod ar draws, neu fod wedi chwilio am, gynnwys niweidiol.
  • Trefn haws i riportio a chwyno. Rhaid iddi fod yn hawdd i blant riportio cynnwys neu gwyno am lwyfan, a dylai darparwyr ymateb drwy gymryd y camau priodol. Rhaid i’r telerau gwasanaeth hefyd fod yn ddigon clir i’r plant allu eu deall.
  • Mwy o gyfrifoldeb. Rhaid i bob gwasanaeth enwi person sy’n gyfrifol am ddiogelwch plant, a dylai uwch gorff gynnal adolygiad blynyddol o’r mesurau diogelwch sydd ganddynt ar waith.

Mae’r mesurau hyn yn adeiladu ar y rheolau eraill sydd ar waith i ddiogelu defnyddwyr, gan gynnwys plant, rhag niwed anghyfreithlon ar-lein - fel meithrin perthynas amhriodol.

Yn hollbwysig, does dim ots ble mae cwmni: os oes modd i blant yn y DU gael gafael wefan neu ap, mae’r cyfreithiau’n berthnasol – ac rydym yn barod i’w gorfodi.