Cynlluniau ac adroddiadau blynyddol
Adroddiadau blynyddol
Holl adroddiadau blynyddol Ofcom ers ein hadroddiad cyntaf yn 2003.
Adroddiad Blynyddol 2020/21
Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon Ofcom
Ar gyfer y cyfnod rhwng 1 Ebrill 2020 a 31 Mawrth 2021
Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon Ofcom 2019/20 (PDF, 7.7 MB)
Ar gyfer y cyfnod rhwng 1 Ebrill 2019 a 31 Mawrth 2020
Section 400 Licence Fees and Penalties Account (PDF, 786.4 KB)
Year ended 31 March 2020 (Saesneg yn unig)
Adroddiad a Chyfrifon Blynyddol y Swyddfa Gyfathrebiadau (PDF, 2.7 MB)
Am y cyfnod 1 Ebrill 2018 i 31 Mawrth 2019
Section 400 Licence Fees and Penalties Account (PDF, 592.4 KB)
Year ended 31 March 2019 (Saesneg yn unig)
Adroddiad Blynyddol 2013 - 14
Adroddiad Blynyddol Ofcom 2013-14
Dogfen Saesneg
Section 400 Licence Fees and Penalities Account (PDF, 211.3 KB)
Adroddiad Blynyddol 2012 - 13
Adroddiad Blynyddol Ofcom 2012-13 (PDF, 2.8 MB)
Dogfen Saesneg
Section 400 Licence Fees and Penalities Account (PDF, 211.3 KB)
Adroddiad Blynyddol 2011 - 12
Adroddiad Blynyddol Ofcom 2011-12 (PDF, 2.2 MB)
Dogfen Saesneg
Section 400 Licence Fees and Penalities Account (PDF, 88.2 KB)
Adroddiad Blynyddol 2010 - 11
Adroddiad Blynyddol Ofcom 2010-11 (PDF, 2.7 MB)
Dogfen Saesneg
Section 400 Licence Fees and Penalities Account (PDF, 77.2 KB)
Adroddiad Blynyddol 2009 - 10
Adroddiad Blynyddol Ofcom 2009-10 (PDF, 3.1 MB)
Dogfen Saesneg
Section 400 Licence Fees and Penalities Account (PDF, 79.7 KB)
Adroddiad Blynyddol 2008 - 09
Adroddiad Blynyddol Ofcom 2008 – 2009 (PDF, 3.2 MB)
Dogfen Saesneg
Section 400 Licence Fees and Penalties Account (PDF, 78.5 KB)
Adroddiad Blynyddol 2007 - 08
Adroddiad Blynyddol 2007-08 Ofcom (PDF, 2.3 MB)
Dogfennau Saesneg
Section 400 Licence Fees and Penalties Account (PDF, 65.5 KB)
Expenses of Ofcom Board Members (PDF, 33.0 KB)
Adroddiad Blynyddol 2006 - 07
Ofcom Annual Report 2006/7 – Full Document (PDF, 352.0 KB)
Dogfen Saesneg
Section 400 Licence Fees and Penalties Accounts (PDF, 98.3 KB)
Adroddiad Blynyddol 2005 - 06
Dogfennau Saesneg yn unig
Annual Report 2005/06 – Full Document (PDF, 4.2 MB)
Section 400 Licence Fees and Penalties Accounts (PDF, 357.6 KB)
Adroddiad Blynyddol 2004 - 05
Dogfennau Saesneg yn unig
Section 400 – Licence Fees and Penalties Accounts (PDF, 82.7 KB)
Annual Report 2004-05 – Full Document (PDF, 6.2 MB)
Adroddiad Blynyddol 2003 - 04
Dogfen Saesneg yn unig
Full report (printed version) (PDF, 5.0 MB)
Adroddiadau rheoleiddwyr y gorffennol
Dogfennau Saesneg yn unig.
Broadcasting Standards Commission 2003 (PDF, 337.1 KB)
ITC Financial Report and Accounts 2003 (PDF, 207.9 KB)
Oftel Annual Report 2003 (PDF, 348.2 KB)
Radio Authority Annual Report, 2003 (PDF, 177.5 KB)
Cynlluniau blynyddol
Holl gynlluniau blynyddol Ofcom ers ein cynllun cyntaf yn 2004.
Cynllun Gwaith 2022/23
Heddiw rydym wedi cyhoeddi ein cynllun gwaith ar gyfer 2022/23, yn amlinellu themâu yn ein rhaglen waith ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf.
Mae'r cynllun arfaethedig yn ymdrin â blwyddyn pan fydd Ofcom yn paratoi ar gyfer cyfrifoldebau ychwanegol sy'n ymwneud â diogelwch ar-lein a diogelwch seiber a fydd yn ychwanegol at ein dyletswyddau presennol ym meysydd telathrebu, y post, rheoli sbectrwm a darlledu, sy'n hanfodol i bobl a busnesau ar hyd a lled y DU. Mae'r cynllun yn nodi sut y byddwn yn cyflawni ein cenhadaeth o sicrhau bod cyfathrebiadau’n gweithio i bawb.
Wrth i nifer y gwasanaethau ar-lein dyfu, rydym am i bobl gael rhyngrwyd y gallant ddibynnu arnynt boed gartref, yn y gwaith neu wrth deithio.
Mae'r ffordd y mae pobl yn hygyrchu teledu a radio yn parhau i newid ond mae rhaglennu Prydeinig o ansawdd uchel yn parhau i fod yn hanfodol i filiynau ledled y DU; byddwn yn cefnogi cyfryngau y gall pobl ymddiried ynddynt a'u gwerthfawrogi.
Mae pobl o bob oed yn mynd ar-lein am amrywiaeth eang o resymau, a phan fyddant yn gwneud hynny, rydym am sicrhau eu bod yn byw bywyd mwy diogel ar-lein.
Byddwn hefyd yn cryfhau Ofcom ar gyfer y dyfodol drwy ddatblygu ein sgiliau, galluoedd a'n partneriaethau i sicrhau ein bod yn gallu parhau i gyflawni deilliannau da i bobl ledled y DU.
Rydym yn ymgynghori ar y Cynllun Gwaith hwn i drafod ein blaenoriaethau gyda'n rhanddeiliaid a'r cyhoedd.
Cynllun gwaith arfaethedig Ofcom 2022/23 (PDF, 2.6 MB)
Mae'r ddogfen hon yn cyflwyno ein nodau ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf, a sut rydyn ni'n bwriadu eu cyflawni.
Rydym yn cyhoeddi'r cynigion hyn wrth i'r coronafeirws barhau i gyflwyno heriau i'r DU. Drwy gydol y pandemig, rydym wedi gweld bod gwasanaethau cyfathrebu dibynadwy o ansawdd uchel wedi bod yn bwysicach nag erioed i fywydau pobl. Rydym yn cydnabod yr heriau sylweddol a ddaw yn sgil y coronafeirws i'r cwmnïau rydym yn eu rheoleiddio, a'u hymdrechion i'w cyflawni. Wrth i ymdrechion barhau i oresgyn y pandemig, byddwn yn ceisio darparu rheoleiddio cefnogol – tra'n dwyn cwmnïau i gyfrif a sicrhau eu bod yn gwasanaethu eu cwsmeriaid a'u cynulleidfaoedd i'r safon orau bosibl.
Rydym am sicrhau bod buddsoddiad yn parhau mewn rhwydweithiau band eang gigabit a rhwydweithiau symudol 5G, fel bod mwy o bobl yn gallu manteisio ar rwydweithiau diogel o ansawdd uchel – gan gynnwys mewn ardaloedd gwledig. Byddwn hefyd yn sicrhau bod cwsmeriaid yn cael eu trin yn deg gan eu darparwyr.
Mae'r sector darlledu wrth wraidd diwydiant creadigol y DU. Byddwn yn parhau i gefnogi ei ymdrechion i ymateb i heriau gwylwyr a gwrandawyr sy'n symud ar-lein. Mae angen i'r cynulleidfaoedd hynny hefyd deimlo'n ddiogel a gallu ymddiried yn yr hyn y maent yn ei weld a'i glywed, fel y maent yn ei wneud ar y teledu a'r radio.
Wrth i'r dirwedd gyfathrebu barhau i esblygu, mae angen i Ofcom gadw fyny. Rydym yn buddsoddi yn ein sgiliau, gan arloesi'r ffordd rydym yn gweithio ac yn adeiladu gweithlu mwy amrywiol sy'n adlewyrchu'r DU gyfan.
Rydym yn ymgynghori ar y cynllun gwaith hwn i annog trafodaeth gyda chwmnïau, llywodraethau a'r cyhoedd.
Mae'r ddogfen hon yn nodi ein blaenoriaethau a'n rhaglen waith ar gyfer y flwyddyn ariannol newydd.
Bydd eleni yn flwyddyn anarferol, wrth i Ofcom – a'r sefydliadau rydym yn gweithio gyda nhw – ganolbwyntio ar ymateb i argyfwng coronafeirws (COVID-19). Mae’r bobl, y busnesau a’r marchnadoedd rydym yn eu rheoleiddio yn wynebu amgylchiadau heriol unigryw.
Rydym wedi addasu ein cynllun i ystyried yr amgylchiadau eithriadol sydd wedi dod i’r fei ers ein hymgynghoriad. Yn ogystal â chefnogi pobl a busnesau drwy’r heriau presennol, mae gennym raglen waith bwysig ar gyfer y flwyddyn nesaf.
Rydym yn canolbwyntio ar gyflawni’r gwaith rydym wedi’i gynllunio’n llawn yn ystod y flwyddyn. Ond byddwn yn monitro’r sefyllfa sy’n esblygu o ran y coronafeirws yn agos ac yn cadw ein cynlluniau’n hyblyg. Er mwyn adlewyrchu hyn, byddwn yn cyhoeddi cynllun wedi’i ddiweddaru ym mis Medi, yn ogystal â diweddariadau chwarterol ar ein cynnydd yn erbyn y cynllun.
Mae’r ddogfen hon yn cynnwys ein rhaglen waith ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf. Mae hyn yn dilyn ymgynghoriad ynghylch ein cynlluniau arfaethedig, a ddaeth i ben ar 8 Chwefror 2019. Mae'r cynigion yn ystyried y dyletswyddau a roddwyd i ni gan Senedd Prydain, y marchnadoedd rydyn ni’n eu rheoleiddio a'n blaenoriaethau strategol.
Mae ein blaenoriaethau ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf yn adlewyrchu'r adborth a gafodd ei gyflwyno yn ystod y broses ymgynghori. Cawsom adborth gan bobl o bob cwr o’r DU, gan gynnal digwyddiadau cyhoeddus yng Nghaerdydd, Belfast, Caeredin a Llundain. Cawsom ymatebion ysgrifenedig hefyd.
Yn ystod ein cyfnod ymgynghori, cyhoeddodd y Llywodraeth ddatganiad drafft o'i blaenoriaethau strategol ar gyfer telegyfathrebiadau, rheoli sbectrwm radio a phost. Rydyn ni’n esbonio yn Adran 3 sut rydyn ni wedi ystyried y datganiad drafft hwn wrth lunio ein cynllun.
Isod rydyn ni’n rhoi trosolwg o’n blaenoriaethau ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf. Mae adrannau 3 a 4 yn cynnwys rhagor o fanylion am y blaenoriaethau hyn, ac am ein gwaith rhaglennol, ac mae adran 5 yn cynnwys prif bwyntiau ein gwaith penodol yn y gwledydd. Mae Atodiad 2 yn cynnwys ein cynllun gwaith ehangach.
Cynllun Blynyddol 2014/15
Cynllun Blynyddol ar gyfer 2014/15 (PDF, 1.4 MB)
Cipolwg ar y Cynllun Blynyddol (PDF, 419.0 KB)
Dogfennau Saesneg
Programme of Work 2014-15 (PDF, 1.3 MB)
Ofcom Programme of Work 2014-15 – Final Update (PDF, 408.1 KB)
Cynllun Blynyddol 2013/14
Cynllun Blynyddol 2013/14 (PDF, 1.9 MB)
Dogfennau Saesneg
Cynllun Blynyddol 2012/13
Cynllun Blynyddol 2012/13 (PDF, 1.2 MB)
Dogfen Saesneg
Cynllun Blynyddol 2012/11
Cynllun Blynyddol Ofcom 2011/12 (PDF, 665.2 KB)
Dogfen Saesneg
Supplement to Ofcom Annual Plan 2011-12 : Regulation of Postal Services (PDF, 102.8 KB)
Cynllun Blynyddol 2011/10
Cynllun Blynyddol Ofcom 2010/11 (PDF, 915.3 KB)
Cynllun Blynyddol 2009-10
Cynllun Blynyddol Ofcom 2009-10 (PDF, 654.4 KB)
Cynllun Blynyddol 2008-09
Cynllun Blynyddol 2008/09 (PDF, 1.3 MB)
Cynllun Blynyddol 2007-08
Dogfen Saesneg yn unig.
Annual Plan 2007/08 (PDF, 289.1 KB)
Cynllun Blynyddol 2006-07
Dogfen Saesneg yn unig.
Annual Plan 2006-07 (PDF, 2.6 MB)
Cynllun Blynyddol 2005-06
Cynllun Blynyddol Ofcom 2005/6 (PDF, 610.9 KB)
Cynllun Blynyddol 2004-05
Dogfen Saesneg yn unig