Panel y Gronfa Radio Cymunedol
Mae Panel y Gronfa Radio Cymunedol yn cwrdd fel bo angen i archwilio ceisiadau a gwneud dyfarniadau o'r Gronfa Radio Cymunedol
Mae Adran 359 Deddf Cyfathrebiadau 2003 yn ei wneud yn bosib i gronfa ar gyfer gweithredwyr radio cymunedol gael eu sefydlu, ac i Ofcom ei gweinyddu a "gwneud y cyfryw grantiau y mae'n pennu eu bod yn briodol" i drwyddedeion radio cymunedol.
Mae Llywodraeth y DU (yn benodol yr Adran dros Ddigidol, Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon) yn darparu swm o arian sydd i'w ddosbarthu i orsafoedd radio cymunedol trwy gronfa o'r fath. Dim ond deiliaid trwydded radio cymunedol all ymgeisio am grant gan y Gronfa hon.
Mae Ofcom wedi sefydlu Panel y Gronfa Radio Cymunedol i gwrdd fel y bo angen i archwilio ceisiadau a gwneud dyfarniadau o'r Gronfa.
Mae'r ddogfen isod ar gael yn Saesneg yn unig.
Terms of reference for the Community Radio Fund Panel (PDF, 155.3 KB)
Yn dilyn adolygiad gweinyddol ym mis Mai 2021, mae Bwrdd Prosiect a Rheoli Ofcom wedi cymeradwyo diwygiad i'r Cylch Gorchwyl presennol gan ddileu'r gofyniad i'r Panel gynnwys cynrychiolydd corff masnachol. Mae hyn ar gael yn llawn uchod.
Ar ôl cwblhau proses recriwtio, penodwyd trydydd Aelod o'r Panel am gyfnod o dair blynedd yn dechrau ar 1 Tachwedd 2021. Mae manylion aelodaeth a bywgraffiadau i'w gweld isod.
Mae cyfnod presennol Cadeirydd y Panel (Wendy Pilmer), sydd ar hyn o bryd i fod i ddod i ben ar 31 Mawrth 2022, wedi ei estyn i 31 Mawrth 2023.
Mae'r panel wedi'i amserlennu i gwrdd ar y dyddiadau a ganlyn. (Cyfarfodydd i'w cynnal yn swyddfa Ofcom yn Llundain oni nodir fel arall):
I'w gadarnhau
Bydd agendâu cyfarfodydd yn cael eu cyhoeddi yma.
Ein polisi yw cadw cofnodion byrddau a phwyllgorau ar ein gwefan am ddwy flynedd yn unig. Gellir cael mynediad i gofnodion hŷn trwy'r Archifau Cenedlaethol.
Bydd nodiadau cyfarfodydd blaenorol y Panel yn cael eu cyhoeddi yma.
Ein polisi yw cadw nodiadau byrddau a phwyllgorau ar ein gwefan am ddwy flynedd yn unig. Gellir cael mynediad i nodiadau hŷn trwy'r Archifau Cenedlaethol.
Mae Panel y Gronfa Radio Cymunedol yn cynnwys dau Aelod Anweithredol ac un Aelod Gweithredol. Ei aelodau yw:
Wendy Pilmer
Mae Wendy yn ymgynghorydd sy’n gweithio gyda darlledwyr gorau’r byd i weithredu strategaethau a rheoli newid. Mae hi'n cyflwyno hyfforddiant mewn sgiliau arweinyddiaeth a moeseg ym maes newyddiaduriaeth, yn benodol yn achos darlledwr gwasanaeth cyhoeddus mewn gwledydd lle mae democratiaeth yn datblygu. Mae hi hefyd yn cynnig gwasanaethau ymgynghoriaeth radio arbenigol sy'n seiliedig ar 21 mlynedd o weithio ar lefelau uwch yn y BBC gan gynnwys ar BBC Radio 4, 5Live a Radio Un.
Ymunodd Wendy â'r Bwrdd ar 1 Ionawr 2009. Mae ei phenodiad yn rhedeg tan 31 Mawrth 2022.
Olu Bankole
Olu yw'r Partner Busnes Cyllid dros Incwm yng Ngrŵp Corfforaethol Ofcom. Mae ei rôl yn ymwneud â chyfuniad o ddadansoddi ariannol ac anariannol i sicrhau bod cyllid Ofcom yn cydymffurfio â gofynion statudol, ac mae hi'n cymryd rhan yn uniongyrchol wrth gyfrifo a phennu Ffioedd y Ddeddf Darlledu. Mae ganddi ddiddordeb mewn hyrwyddo gweithgareddau sy'n adeiladu ar ysbryd cymunedol ac angerdd dros gyfrannu at gymdeithasol sy'n fwy amrywiol a chynhwysol.
Ymunodd Olu â'r Panel ar 1 Ebrill 2021. Mae ei phenodiad yn rhedeg tan 31 Mawrth 2024.
Mark Jones
Mae gan Mark brofiad helaeth o ddarlledu, cynhyrchu a rheoli radio. Yn yr 1980au bu'n gweithio i sefydlu a chefnogi grwpiau radio cymunedol bach ledled y DU yn ogystal â lobïo dros newid yng nghyfraith darlledu'r DU. Ymunodd â'r BBC i dreialu radio lleol ar raddfa fach yn ardal Birmingham cyn arwain y tîm yn cynhyrchu rhaglennu optio allan yn ne Cumbria. Bu'n ohebydd rhanbarthol BBC Radio Five Live yng ngogledd orllewin Lloegr am dros ddegawd. Yn fwy diweddar, Mark oedd Golygydd Cynorthwyol BBC Radio Gloucestershire gan gyfuno cyfrifoldebau rhaglennu, ariannol a rheoli.
Ymunodd Mark â'r Panel ar 1 Tachwedd 2021. Mae ei benodiad yn para tan 31 Hydref 2024.