Ein hadroddiadau blynyddol i Gomisiynydd y Gymraeg
Dyma bedwerydd adroddiad blynyddol Ofcom (ar gyfer 2020-21) yn nodi ein cynnydd o ran cydymffurfio â deddfwriaeth y Gymraeg.
Mae'r Safonau wedi galluogi Ofcom i gynyddu ein gwaith yn y Gymraeg ers eu cyflwyniad yn 2017. Rydym yn parhau'n ymroddedig i hybu’r Gymraeg a galluogi pobl i ryngweithio ag Ofcom yn eu dewis iaith o’u dewis – boed hynny yn Gymraeg neu Saesneg. Rydym wedi cyflawni hyn mewn ffordd gymesur sy'n gweddu i’n dyletswyddau presennol.
Dros y flwyddyn ddiwethaf rydym wedi:
- penodi Swyddog yr Iaith Gymraeg ym mis Hydref 2020 i gefnogi'r Uwch Gynghorydd y Gymraeg
- cyfieithu dros 500,000 o eiriau i'r Gymraeg gan gynnwys cyhoeddiadau allweddol megis Cyfryngau'r Gwledydd Cymru, Datganiad Adolygiad Sgrin Fach Trafodaeth Fawr, Cysylltu'r Gwledydd Cymru, Adroddiad Blynyddol Ofcom ar y BBC 2020
- cynhyrchu nifer o fideos yn Gymraeg, yr ydym wedi'u rhannu ar gyfryngau cymdeithasol, gan gynnwys ein fideo cwynion darlledu isod
- lansio ein hyb materion Cymraeg ar-lein gan gynnwys fideo newydd i hybu ein gwasanaethau i siaradwyr Cymraeg
- lansio e-gylchlythyr dwyieithog misol i ddefnyddwyr y gellir tanysgrifio iddo.
Adroddiad llawn
Adroddiad Blynyddol Ofcom i Gomisiynydd y Gymraeg 2020-21 (PDF, 247.0 KB)
Mae'r fideo uchod ar gael yn Gymraeg.
Dyma drydydd adroddiad blynyddol Ofcom (ar gyfer 2019-20) ar gydymffurfio â Safonau statudol y Gymraeg i Gomisiynydd y Gymraeg.
Mae’r Safonau wedi galluogi Ofcom i adeiladu ar ein gwaith yn y Gymraeg ers eu cyflwyno yn 2017.
Mae Ofcom yn credu bod ei rhwymedigaethau mewn perthynas â’r Gymraeg yn eithriadol o bwysig ac yn trin y Gymraeg a’r Saesneg ar sail gyfartal.
Dros y flwyddyn ddiwethaf, rydym wedi:
- cynhyrchu fersiynau Cymraeg o ddogfennau allweddol fel Sgrîn Fach: Trafodaeth Fawr: adolygiad pum mlynedd o ddarlledu gwasanaeth cyhoeddus; Adroddiad Blynyddol Ofcom; Cysylltu’r Gwledydd Cymru; Cyfryngau'r Genedl Cymru a’r Adroddiad Blynyddol ar y BBC
- lansio gwefan newydd Gymraeg, Sgrin Fach, Trafodaeth Fawr; ac wedi
- darparu amrywiaeth o adnoddau pwrpasol yn y Gymraeg, gan gynnwys ein hymgyrch newydd, Cadw’r Cysylltiad
- darparu nifer o fideos Cymraeg yn cynnwys ein fideo ‘Gwlad Ar-lein -Rwy’n creu.’
Adroddiad Llawn
Dyma ail adroddiad blynyddol Ofcom (ar gyfer 2018-19) ar gydymffurfio â Safonau statudol y Gymraeg i Gomisiynydd y Gymraeg.
Mae’r Safonau wedi galluogi Ofcom i adeiladu ar ein gwaith yn y Gymraeg ers eu cyflwyno yn 2017.
Mae Ofcom yn credu bod cyflawni ei rwymedigaethau mewn perthynas â’r iaith Gymraeg yn eithriadol bwysig ac mae’n trin y Gymraeg a’r Saesneg yn gyfartal. Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, rydym wedi gwneud y canlynol:
- cynhyrchu fersiynau Cymraeg o ddogfennau allweddol fel Adroddiad Blynyddol Ofcom, Cysylltu’r Gwledydd, Cyfryngau'r Genedl, a’r Adroddiad Blynyddol ar y BBC
- wedi lansio gwefan newydd Gymraeg, Y Gorau o’ch Gwesanaeth
- darparu amrywiaeth o adnoddau pwrpasol yn y Gymraeg, gan gynnwys ein hymgyrch Neges i Newid’ newydd
Adroddiad llawn
Adroddiad blynyddol Ofcom i Gomisiynydd y Gymraeg (PDF, 294.2 KB)
Mae Ofcom wedi cyflwyno ei adroddiad blynyddol cyntaf (ar gyfer 2017-18) ar gydymffurfio â Safonau statudol y Gymraeg i Gomisiynydd y Gymraeg.
Mae’r safonau wedi galluogi Ofcom i adeiladu ar ein gwaith yn y Gymraeg ers eu cyflwyno yn 2017.
Mae Ofcom yn credu bod cyflawni ei rwymedigaethau mewn perthynas â’r iaith Gymraeg yn eithriadol bwysig ac mae’n trin y Gymraeg a’r Saesneg yn gyfartal.
Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, rydym wedi gwneud y canlynol:
- cynhyrchu fersiynau Cymraeg o ddogfennau allweddol fel Cysylltu’r Gwledydd, Cyfryngau'r Genedl, yr Adroddiad Blynyddol a'r adroddiad ar Gynrychiolaeth a Phortreadu ar deledu’r BBC.
- lansio cyfrif Cymraeg ar Twitter, @OfcomCymraeg, i helpu i ymgysylltu â siaradwyr Cymraeg; a
- darparu amrywiaeth o adnoddau pwrpasol yn y Gymraeg, gan gynnwys fideos ac apiau ar gyfer gwirio derbyniad band eang a symudol.
- Mae ein hadroddiad blynyddol cyntaf i Gomisiynydd y Gymraeg yn ddogfen ddigidol ryngweithiol y gallwch gael gafael arni isod. Dyma fformat sy’n galluogi Ofcom i ddangos ei weithgareddau Cymraeg mewn ffordd weledol a diddorol.