Bwrdd Ofcom


Mae Bwrdd Ofcom yn darparu cyfeiriad strategol ar gyfer y sefydliad.

Mae ganddo Gadeirydd Anweithredol, Cyfarwyddwyr Gweithredol (gan gynnwys y Prif Weithredwr) a Chyfarwyddwyr Anweithredol.

Mae'r Weithrediaeth yn rhedeg y sefydliad ac maent yn atebol i’r Bwrdd.

Mae Bwrdd Ofcom yn cwrdd o leiaf deng waith y flwyddyn. Caiff agendâu, nodiadau cryno a chofnodion eu cyhoeddi ar wefan Ofcom yn rheolaidd.

Aelodau Bwrdd

Lord Micheal Grade

Yr Arglwydd Grade o Yarmouth

Cadeirydd

Mae Michael Grade wedi cael gyrfa hir ym maes darlledu, gan gwmpasu London Weekend Television, y BBC, ITV a Channel 4. Mae wedi cadeirio'r BBC, ITV a Stiwdios Ffilm Pinewood/Shepperton.  Mae'n gyd-sylfaenydd cwmni GradeLinnit, sy'n cynhyrchu ar gyfer y theatr.

Mae'n Gadeirydd Bwrdd Ymgynghorol Ehangu Heathrow Grŵp Arora, ar ôl bod yn Gadeirydd Ocado, First Leisure Corporation, Camelot, y Rheoleiddwr Codi Arian elusennau ac Amgueddfa Cyfryngau Bradford. Mae hefyd yn aelod o gyn Gomisiwn Cwynion y Wasg ac yn un o ymddiriedolwyr yr Amgueddfa Wyddoniaeth.

Mae Michael Grade yn eistedd yn Nhŷ'r Arglwyddi fel Arglwydd di blaid. Cafodd ei urddo'n Arglwydd ym mis Ionawr 2011.

Ymunodd Michael Grade â Bwrdd Ofcom ar 1 Mai 2022. Mae ei benodiad yn parhau tan 30 Ebrill 2026.

  • Penodwyd: 1 Mai 2022
  • Aelodaeth: Pwyllgor Pobl
Melanie Dawes

Melanie Dawes

Prif Weithredwr

Ymunodd Y Fonesig Melanie Dawes ag Ofcom fel Aelod Gweithredol o'r Bwrdd a Phrif Weithredwr ym mis Mawrth 2020.

Cyn ymuno ag Ofcom, roedd Melanie yn Ysgrifennydd Parhaol yn y Weinyddiaeth Tai, Cymunedau a Llywodraeth Leol o 2015. Mae hi wedi dal amrywiaeth o rolau uwch ar draws y Gwasanaeth Sifil, gan weithio mewn partneriaeth ar draws y sector cyhoeddus a’r sector preifat, gan gynnwys fel Hyrwyddwr Amrywiaeth a Chynhwysiad y Gwasanaeth Sifil.

Dechreuodd ar ei gyrfa fel economegydd, a threuliodd hi 15 mlynedd yn y Trysorlys, lle bu'n Gyfarwyddwr Materion Ewropeaidd rhwng 2002 a 2006. Bu'n Gyfarwyddwr Cyffredinol yr Ysgrifenyddiaeth Materion Economaidd a Domestig yn Swyddfa'r Cabinet rhwng 2011 a 2015, a chyn hynny bu'n gwasanaethu ar Fwrdd Cyllid a Thollau EM. Fel Cyfarwyddwr Cyffredinol Trethi Busnes, yn gyfrifol am yr holl drethi ac ardollau busnes yn ogystal ag arwain cysylltiadau'r adran â'r cwmnïau mwyaf.

Mae wedi ysgwyddo nifer o rolau anweithredol, gan gynnwys gyda’r corff defnyddwyr Which?, ac mae hi’n un o ymddiriedolwyr Sefydliad Patchwork sy’n annog pobl ifanc a dangynrychiolir i gymryd rhan mewn democratiaeth.

Lindsey Fussell

Lindsey Fussell

Aelod gweithredol

Ymunodd Lindsey Fussell ag Ofcom yn 2016 a hi yw Cyfarwyddwr y Grŵp Rhwydweithiau a Chyfathrebiadau, gan arwain gwaith Ofcom yn y sectorau telathrebu, post a rhwydweithiau. Nod y gwaith hwnnw yw gwarchod buddiannau defnyddwyr a hyrwyddo cystadleuaeth. Cafodd ei phenodi i Fwrdd Ofcom ym mis Rhagfyr 2020.

Cyn ymuno ag Ofcom, roedd Lindsey mewn amrywiaeth o rolau arweinyddiaeth uwch yn y Gwasanaeth Sifil. Roedd hi’n Gyfarwyddwr Gwasanaethau Cyhoeddus yn Nhrysorlys EF, lle roedd yn arwain ar ddatganoli, addysg a diwylliant, amddiffyn a chyfiawnder troseddol, ac yn gyfrifol am gyflwyno agweddau allweddol ar Adolygiadau Gwariant 2013 a 2015. Mae hi'n gyfarwyddwyr anweithredol (Cyfarwyddwr Digon Annibynnol) i NGED, rhwydwaith dosbarthu trydan National Grid ar gyfer Cymru, De-orllewin Lloegr a chanolbarth Lloegr. Mae Lindsey hefyd yn aelod lleyg o Gyngor Llywodraethu Prifysgol Caerefrog.

Ben Verwaayen

Ben Verwaayen

Aelod anweithredol

Ar hyn o bryd mae Ben yn Bartner Cyffredinol gyda chronfa fuddsoddi Keen Venture Partners, ac mae’n aelod o sawl Bwrdd, gan gynnwys Akami yn yr Unol Daleithiau a Renewi Ltd, cwmni blaenllaw yn yr economi gylchol yn y BeNeLux ac yn y DU. Mae’n gyn-Brif Weithredwr BT, KPN yn yr Iseldiroedd ac Alcatel Lucent.

Mae hefyd wedi bod yn Gadeirydd Endemol, ac yn Aelod o Fwrdd AkzoNobel yn yr Iseldiroedd a Bharti Airtel, gweithredwr gwasanaethau symudol, yn India.

Ymunodd Ben Verwaayen â Bwrdd Ofcom ar 1 Ionawr 2016. Mae ei benodiad yn parhau tan 31 Rhagfyr 2023.

  • Penodwyd: 1 Ionawr 2016
  • Aelodaeth: Pwyllgor Pobl
Bob Downes

Bob Downes

Aelod anweithredol (Aelod Bwrdd ar ran Yr Alban)

Penodwyd Bob Downes i Fwrdd Ofcom o 1 Chwefror 2018. Mae’n aelod o’r Bwrdd Cynnwys a’r Pwyllgor Pobl. Mae'n Gadeirydd Corff Goruchwylio Annibynnol yn Iwerddon sy'n goruchwylio gweithrediad a gweithrediad Model Llywodraethu Rheoleiddiol gwell yn Iwerddon a ddarperir gan Eir. Mae'n gynghorydd i nifer o fusnesau technoleg bach, gan gynnwys Kube Networks. Cyn hynny, bu Bob yn gadeirydd Asiantaeth Diogelu'r Amgylchedd yr Alban; CENSIS sef canolfan arloesi technoleg yn Glasgow a grŵp trawsnewid gwasanaethau cyhoeddus ar gyfer Llywodraeth yr Alban lle’r oedd yn Gyfarwyddwr anweithredol. Roedd ganddo swyddi uwch gyda BT Group a bu hefyd yn gweithio gyda Vodafone a Virgin. Mae Bob hefyd wedi bod mewn swyddi anweithredol gyda nifer o sefydliadau celfyddydol gan gynnwys y Scottish Ensemble a Crypitc.

Ymunodd Bob Downes â Bwrdd Ofcom ar 1 Chwefror 2018. Mae ei benodiad yn para tan 31 Ionawr 2026.

  • Penodwyd: 1 Chwefror 2018
  • Aelodaeth: Bwrdd Cynnwys; Pwyllgor Pobl
Sir Clive Jones

Syr Clive Jones

Aelod anweithredol (Aelod Bwrdd ar ran Cymru)

Wedi'i eni a'i fagu yng Nghymoedd De Cymru, treuliodd Clive Jones y rhan fwyaf o'i fywyd gwaith yn ITV fel newyddiadurwr, cynhyrchydd a golygydd gyda YTV a TV-AM ac yn ddiweddarach fel Prif Weithredwr Central Television a Grŵp Carlton Television .

Bu hefyd yn Rheolwr Gyfarwyddwr Rhwydwaith ITV ac ef oedd Prif Weithredwr cyntaf Newyddion a Rhanbarthaau ITV, ar ôl i ITV plc gael ei greu. Hyfforddodd fel newyddiadurwr gyda'r Yorkshire Post ar ôl graddio o LSE.

Mae Clive hefyd yn cadeirio Sightsavers, elusen colled golwg y DU, Ymddiriedolaeth Runnymede, y felin drafod cydraddoldeb hiliol ac ef yw Ombwdsmon y Cyngor Cenedlaethol Hyfforddi Newyddiadurwyr.  Bu'n gadeirydd ar Bwyllgor Argyfwng Trychinebau, roedd ar fwrdd S4C a'i gangen fasnachol S4C Masnachol am chwe blynedd ac mae'n gyn-gadeirydd Cronfa Eiddo Deallusol Cymru a National Theatre Wales.

Ymunodd Clive Jones â Bwrdd Ofcom ar 12 Chwefror 2024. Mae ei benodiad yn para tan 11 Chwefror 2028.

  • Penodwyd: 12 Chwefror 2024
Karen Baxter

Karen Baxter

Aelod anweithredol (Aelod Bwrdd ar ran Gogledd Iwerddon)

Mae Karen wedi cael gyrfa blismona 30 mlynedd nodedig, gan ymddeol fel Comander Heddlu Dinas Llundain yn 2020. Dechreuodd ei gwasanaeth fel swyddog yng Ngogledd Iwerddon ac mae ganddi brofiad helaeth ar draws ystod eang o ymchwiliadau cymhleth gan gynnwys diogelu, dynladdiad, gwrthderfysgaeth, troseddau difrifol a chyfundrefnol. O ganlyniad, mae ganddi ddealltwriaeth gref o anghenion unigryw cymunedau sy'n byw yng Ngogledd Iwerddon.

Yn fwy diweddar fel Comander a Chydgysylltydd Cenedlaethol ar gyfer Troseddau Economaidd, roedd ganddi oruchwyliaeth o'r ymchwiliadau ariannol mwyaf difrifol yn y Deyrnas Unedig. Karen hefyd oedd arweinydd gweithredol yr Heddlu ar gyfer Atal Seiberdroseddu gan weithio gyda rhanddeiliaid allweddol a'r trydydd sector i ymdrin â risgiau datblygol yn y gofod ar-lein.

Yn 2020 ymunodd Karen â UK Finance fel Rheolwr Gyfarwyddwr y Strategaeth Gwybodaeth gan weithio ar draws y sector bancio i adolygu'r defnydd o wybodaeth a'i rheoli. Yn fwy cyffredinol, roedd ei rôl yn cynnwys ymgysylltu â nifer o sectorau o ran bygythiad niwed ar-lein a newidiadau deddfwriaethol arfaethedig. Gadawodd Karen y rôl hon ym mis Tachwedd 2021.

Ym mis Medi 2022 ymunodd Karen â'r Awdurdod Ymddygiad Ariannol (FCA) fel Cyfarwyddwr Strategaeth, Polisi, Rhyngwladol a Gwybodaeth yn y Tîm Gorfodi. Yn y rôl hon mae Karen yn arwain y swyddogaethau arbenigol sy'n cefnogu ehangder gweithgareddau gorfodi a throsolwg o'r farchnad y FCA, gan helpu sicrhau bod ganddo'r offer gofynnol i wneud ei waith yn effeithiol.

Ymunodd Karen Baxter â Bwrdd Ofcom ar 28 Mawrth 2022. Mae ei phenodiad yn parhau tan 27 Mawrth 2026.

  • Penodwyd: 28 Mawrth 2022
  • Aelodaeth: Pwyllgor Risg ac Archwilio
Angela Dean

Angela Dean

Aelod anweithredol (Aelod o’r Bwrdd Archwilio a Risg)

Ar hyn o bryd, mae Angela yn un o ymddiriedolwyr Ymddiriedolaeth Amgueddfeydd Caerefrog ac yn Gadeirydd ei Bwrdd Prosiectau Cyfalaf. Mae'n Uwch Aelod Annibynnol o'r Panel ar gyfer Penodiadau Cyhoeddus. Bu'n gyfarwyddwr anweithredol nifer o sefydliadau dielw gan gynnwys Cadeirydd International House Trust, Is-gadeirydd Cyngor King’s College Llundain, ymddiriedolwr Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol ac yn aelod o'r Cyngor Amgueddfeydd, Archifau a Llyfrgelloedd.

Roedd gyrfa weithredol Angela ym maes cyllid rhyngwladol, yn bennaf fel Rheolwr Gyfarwyddwr Morgan Stanley lle bu'n arwain ei thîm ymchwil technoleg byd-eang. Roedd yn aelod o Weithgor Compact Byd-eang y Cenhedloedd Unedig ar gyfer materion cyfrifoldeb cymdeithasol corfforaethol mewn buddsoddiad.

Ymunodd Angela Dean â Bwrdd Ofcom ar 30 Medi 2018. Mae ei phenodiad yn parhau tan 29 Medi 2026.

  • Penodwyd: 30 Medi 2018
  • Aelodaeth: Pwyllgor Pobl; Pwyllgor Risg ac Archwilio
Will Harding

Will Harding

Aelod anweithredol

Mae gan Will bron i 30 mlynedd o brofiad yn niwydiant y cyfryngau. Dechreuodd ei yrfa fel ymgynghorydd rheoli gyda KPMG, cyn treulio pum mlynedd yn BBC Worldwide (BBC Studios erbyn hyn) lle bu'n gweithio ar draws gweithrediadau masnachol a rhyngwladol y BBC.

Yn ddiweddarach, fel helpodd i lansio ask.com yn y DU cyn symud i Sky, lle bu'n Gyfarwyddwr Masnachol a Gweithrediadau eu busnes cyfryngau newydd. Ymunodd â GCap Media plc yn 2006 fel Cyfarwyddwr Grŵp Strategaeth.

Ar ôl i Global Media & Entertainment Ltd gaffael GCap Media yn 2008, fe'i penodwyd yn Brif Swyddog Strategaeth Byd-eang ac ymunodd â'r prif fwrdd Byd-eang. Yn ystod ei gyfnod yn Global, roedd Will yn gyfrifol am sefydlu Academi Global, ysgol wladol i bobl ifanc o bob cefndir sydd eisiau cychwyn gyrfa yn y diwydiannau creadigol. Safodd Will i lawr o fwrdd Global Media and Entertainment Ltd ym mis Rhagfyr 2020.

Ers 2021 mae wedi bod yn Gyfarwyddwr Anweithredol Primedia, y grŵp cyfryngau a hysbysebu blaenllaw â ffocws ar Affrica, ac yn Ymddiriedolwr Ymddiriedolaeth Addysgol Baker Dearing.

Ymunodd Will Harding â Bwrdd Ofcom ar 3 Hydref 2022. Mae ei benodiad yn parhau tan 2 Hydref 2026.

  • Penodwyd: 3 Hydref 2022
  • Aelodaeth: Pwyllgor Risg ac Archwilio