Cysylltiadau defnyddiol a sefydliadau eraill
Mae cyfathrebiadau digidol yn newid yn gyflym, ac mae deall datblygiadau newydd yn gallu bod yn her i fusnesau bach. Does yna ddim datrysiad sy'n 'addas i bawb'. Gall gwahanol fusnesau elwa o dechnolegau gwahanol felly bydd angen i chi asesu eich anghenion eich hunan a'r datrysiadau sy'n addas i'w cyflawni.
I'ch helpu chi i wneud hyn, mae yna amrywiaeth o sefydliadau sy'n cynnig cefnogaeth a chyngor, gyda llawer yn darparu gwasanaethau a chyngor di-ragfarn yn rhad ac am ddim. Mae rhai o'r rhain wedi eu rhestri isod ond mae eraill ar gael ar-lein ac ar brint hefyd.
Cofiwch fod gan wefan Ofcom nifer o adnoddau ar gyfer busnesau (a cheir gwybodaeth ar ei dudalennau ar gyfer cwsmeriaid preswyl a allai fod yn berthnasol i fusnesau bach.)
-Webwise yw canllaw’r BBC i ddechreuwyr ar ddefnyddio cyfrifiaduron, y rhyngrwyd a'r cyfryngau cymdeithasol. Mae’n cynnwys canllawiau cam-wrth-gam i'r rheini sydd ddim yn gyfarwydd â’r rhyngrwyd ac mae’n cynnig cyrsiau ar-lein.
-Mae Go ON UK yn wefan sy’n annog ac yn helpu cwmnïau bach i fynd ar-lein a dod yn fwy cyfarwydd â sut mae rhedeg busnes yn ddigidol.
-Mae Cyber Street yn helpu’r busnesau hynny sydd ddim yn gwybod llawer am ddiogelwch digidol i ymgyfarwyddo
-Mae safleoedd yr Adran Busnes, Arloesedd a Sgiliau (BIS) a Gov.uk for business yn rhoi sylw i lawer o wahanol agweddau ar fod yn berchen ar fusnes, ei weithredu a’i reoli.
-Mae Get safe online yn cynnwys llawer o wybodaeth am sut mae rhedeg busnes digidol yn ddiogel
-Mae Business Debtline yn cynnig help a chyngor am ddim i fusnesau sy’n ei chael yn anodd delio â materion yn ymwneud â dyledion a phroblemau eraill.
-GreatBusiness.gov yw gwefan y Llywodraeth sy’n cynnig gwybodaeth i fusnesau sy’n chwilio am gefnogaeth gan y Llywodraeth ac mae’n cynnig syniadau am sut mae cynnal, rhedeg a datblygu busnes llwyddiannus.
-Mae Ffederasiwn y Busnesau Bach yn gorff yn y DU sy’n hyrwyddo buddiannau busnesau bach. Cafodd ei ffurfio ym 1974, ac erbyn hyn mae ganddo 200,000 o aelodau ar draws 33 rhanbarth a 194 o ganghennau.
-Mae Siambr Fasnach Prydain yn cynrychioli buddiannau dros 100,000 o fusnesau drwy rwydwaith o dros 50 o siambrau achrededig ar draws y DU.
-Mae Ffederasiwn y Gwasanaethau Cyfathrebu (FCS) yn gymdeithas masnach nid-er-elw sy’n cynrychioli darparwyr sy’n cynnig cynnyrch cyfathrebu i ddefnyddwyr.
-Mae’r Gymdeithas Rheoli Cyfathrebiadau (CMA) yn sefydliad aelodaeth ar gyfer busnesau sy’n darparu gwasanaethau ar-lein.
-Mae Cydffederasiwn Diwydiant Prydain (CBI) yn hyrwyddo buddiannau busnesau drwy ymgyrchu a lobïo, ac mae’n darparu cyngor i’w aelodau.
-Mae Panel Defnyddwyr Cyfathrebu yn rhoi sylw i faterion sy’n berthnasol i fusnesau bach, yn enwedig grwpiau agored i niwed a rheini sydd ag anableddau.
-Mae Sefydliad y Cyfarwyddwyr yn cynrychioli cyfarwyddwyr busnes o bob maint, gan gynnig arweiniad a gwybodaeth wedi'i theilwra i’w aelodau.
-Mae Canolfan Cyngor ar Bopeth yn darparu arweiniad a chyngor am amrywiol faterion, gan gynnwys ffonau, y rhyngrwyd, teledu a chyfrifiaduron.
-Mae Awdurdod Gwasanaethau Ffôn mae’n rhaid talu amdanynt (PSA) yn rheoleiddio gwasanaethau cyfradd bremiwm (neu wasanaethau ffôn mae’n rhaid talu amdanynt) yn y DU, yn unol â Chod a gymeradwywyd gan Ofcom.
-Scottish Enterprise, Highlands and Islands Enterprise and the Business Gateway provide information for start-up and existing businesses in Scotland.
-Business Wales and Business in Focus provide advice, training, information and support for businesses in Wales.
-Invest Northern Ireland, part of the Department of Enterprise, Trade and Investment (DETI), and NI Business Info provide information on setting up and running a business in Northern Ireland. Logon NI is another service set up by DETI to provide businesses with impartial and free advice about getting online.
-Mae Scottish Enterprise, Highlands and Islands Enterprise a’r Business Gateway yn darparu gwybodaeth ar gyfer busnesau sy’n cychwyn a busnesau sy'n bodoli eisoes yn yr Alban.
-Mae Busnes Cymru a Busnes mewn Ffocws yn cynnig cyngor, hyfforddiant, gwybodaeth a chefnogaeth i fusnesau yng Nghymru.
-Mae Invest Northern Ireland, sy’n rhan o’r Adran Menter, Masnach a Buddsoddiad (DETI), a NI Business Info yn darparu gwybodaeth am gychwyn a rhedeg busnes yng Ngogledd Iwerddon. Mae Logon NI yn wasanaeth arall a sefydlwyd gan DETI i gynnig cyngor diduedd yn rhad ac am ddim i fusnesau am fynd ar-lein.
-Mae arolwg diweddar Ofcom ar fodlonrwydd cwsmeriaid yn cynnig gwybodaeth am y prif ddarparwyr (preswyl).
-Mae ein hadroddiad chwarterol am gwynion ynghylch telegyfathrebiadau yn darparu gwybodaeth am lefelau'r cwynion gan ddefnyddwyr preswyl a gyflwynwyd i Ofcom yn erbyn y darparwyr mwyaf yn y diwydiant.
-Mae'r canllawiau ar gynyddu eich signal ffonau symudol yn rhoi cyngor am gryfder signal ffonau symudol a sut mae gwella'r ddarpariaeth.
-Hefyd, rydym yn cyhoeddi canllawiau sy’n cynnig awgrymiadau ymarferol ar sut mae gwella cyflymder eich band eang.
-Mae modd defnyddio safleoedd cymharu prisiau sydd wedi’u hachredu gan Ofcom i helpu i gymharu tariffiau a bargeinion i fusnesau.
-Os ydych chi wedi cael eich slamio neu wedi cael problem wrth newid darparwr, darllenwch ein canllawiau ar gwynion.
Mae Canllawiau Ofcom ar GC9.6 yn cynnig gwybodaeth am yr hyn a ystyrir yn niwed sylweddol o ran cynnydd mewn prisiau i gwsmeriaid preswyl a busnesau bach.
-Mae'r rhestr wirio ar gyfer contract ffôn neu fand eang newydd yn helpu i esbonio'r gwahanol fathau o gontract, newidiadau yn y prisiau tanysgrifiad craidd, a'r prif bwyntiau y dylech eu hystyried wrth brynu cynnyrch.
-Ar ein gwefan, ceir gwybodaeth am Gontractau sy'n cael eu Hadnewyddu'n Awtomatig, a dolen i fynd at ein datganiad.
-I weld sut mae cwyno wrth Ofcom, dilynwch ein tudalennau ar gwynion defnyddwyr.
-Mae tudalen cynllun Dulliau Amgen o Ddatrys Anghydfod (ADR) a gwiriwr ADR yn helpu i esbonio sut mae defnyddio’r cynllun datrys anghydfod a gyda phwy y mae eich darparwr wedi’i gofrestru
-Mae'r dudalen Canllawiau ar yr Amodau Cyffredinol yn helpu i esbonio'r amodau’n gliriach.
-Mae ein tudalen ‘pobl anabl a gwasanaethau cyfathrebu’ yn esbonio ymchwil Ofcom i sut mae grwpiau anabl yn defnyddio dulliau cyfathrebu, ac yn rhoi manylion y rhwymedigaethau mae’n rhaid i ddarparwyr eu bodloni.
-Mae'r dudalen ar y Gwasanaethau Post yn esbonio rôl Ofcom o ran post, ac mae’n cynnig gwybodaeth am sut mae cysylltu â’r Post Brenhinol a darparwyr eraill. Mae gwybodaeth berthnasol yn cynnwys canllawiau am drafod cwynion am y Post drwy PostRS, Gwasanaethau Post Cyffredinol y Post Brenhinol, a threfniadau iawndal am golli gwasanaethau post.