Yn 2015 roedden ni wedi cyhoeddi ein cynllun gweithredu busnesau bach a chanolig, a oedd yn edrych ar anghenion penodol busnesau.
Roedden ni wedi addo ehangu ein safle Cyngor i Fusnesau, datblygu cod ymarfer ar gyflymder band eang i ddarparwyr cyfathrebiadau, a monitro cydymffurfiad darparwyr â’r rheolau a oedd wedi cael eu dylunio i ddiogelu busnesau bach yn ogystal â phobl, fel Amod Cyffredinol 10 a’n rheolau ar newid rhwng darparwyr.
Mae ein hadroddiad ar ansawdd gwasanaeth hefyd yn ystyried anghenion a phrofiadau busnesau bach a chanolig. Darllenwch y bennod ar brofiadau busnesau bach a chanolig o ansawdd gwasanaeth [here].
Mae ein canolfan i fusnesau yn cynnwys cyngor ar ddefnyddio gwasanaethau ffôn, rhyngrwyd a phost yn y ffordd orau, yn ogystal â help ynghylch beth i’w wneud os bydd pethau’n mynd o chwith.
Mae’n mynd i’r afael â’r heriau sy’n wynebu busnesau bach, fel sut mae gosod gwasanaethau , dewis darparwr, deall telerau contract a jargon.
We carry out research on the availability of communications services for SMEs, as well as their experiences of those services. See our most recent work.