Newid darparwr

Er bod miliynau o bobl yn newid darparwr ffôn a band eang yn llwyddiannus bob blwyddyn, rydym yn sylweddoli nad yw pawb yn cael profiad cystal wrth newid.

Dyma rywfaint o gyngor ar yr hyn sydd angen i chi ei wneud os ydych chi’n cael trafferth newid eich ffôn neu fand eang.

Slamio

(cael eich symud o’ch darparwr i un arall heb yn wybod i chi neu heb eich caniatâd)

Os ydych chi’n meddwl eich bod wedi eich symud i ddarparwr newydd heb yn wybod i chi neu heb eich caniatâd chi, cysylltwch â’ch hen ddarparwr a gofyn iddyn nhw newid eich gwasanaeth yn ôl cyn gynted â phosib.

Dylech hefyd gysylltu â'r darparwr y mae eich gwasanaeth wedi’i drosglwyddo iddo a dweud nad oeddech wedi cytuno i’r newid.

Esboniwch y sefyllfa a gofyn iddyn nhw ymchwilio i’r mater ar eich rhan.

Os na fydd hyn yn datrys eich problem, dilynwch y camau o dan ‘Problemau yn newid darparwr band eang’.

Ceisio slamio

Os ydych chi’n meddwl bod rhywun yn ceisio’ch symud i ddarparwr newydd heb yn wybod i chi neu heb eich caniatâd, gofynnwch i’ch darparwr presennol ganslo’r archeb.

Dylid gallu gwneud hyn hyd at 24 awr cyn y mae'r newid i ddigwydd. Dylech hefyd ddweud wrth y darparwr sy’n ceisio cymryd eich gwasanaeth drosodd eich bod am ganslo.

Os na fydd hyn yn datrys eich problem, dilynwch y camau o dan ‘Problemau yn newid darparwr band eang’.

Dweud wrth Ofcom

Mae gennych chi rôl hanfodol yn ein helpu i ddatrys problem slamio.

Er na allwn ymchwilio i achosion unigol, gall eich cwynion chi am slamio neu gamwerthu ein helpu i lansio ymchwiliadau a chymryd camau wedyn os bydd raid.

Cwyno wrth Ofcom

Problemau yn newid darparwr band eang

Mae ar Ofcom eisiau i bawb fod yn hyderus eu bod yn gallu newid eu darparwr band eang heb unrhyw drafferth diangen.

Wrth newid darparwyr band eang, eich darparwr newydd fydd yn gallu rhoi gwybodaeth a chyngor cywir i chi ynghylch y camau y bydd angen i chi eu cymryd. Mae’n rhaid i bob darparwr wneud hyn.

I gael help gyda’ch cwyn unigol, dilynwch y camau hyn.

  1. Cysylltwch â thîm gwasanaeth i gwsmeriaid eich darparwr ac egluro’r broblem.
  2. Os na fydd hyn yn datrys y broblem, dylech chi gyflwyno cwyn ffurfiol i’r cwmni. Dylai fod manylion ynghylch sut mae gwneud hyn ar gefn eich bil, ar eu gwefan neu drwy ofyn i’w hadran gwasanaeth i gwsmeriaid.
  3. Os nad ydy’ch darparwr yn gallu datrys eich cwyn, gofynnwch am lythyr sefyllfa ddiddatrys. Bydd hyn yn caniatáu i chi fynd â'ch cwyn at gynllun Dulliau Amgen o Ddatrys Anghydfod (ADR).

Mae cynlluniau ADR yn gweithredu fel cyfryngwr annibynnol. Byddant yn ystyried yr achos o'r ddwy ochr ac yn dod i benderfyniad sy’n deg yn eu barn nhw. Os oes wyth wythnos wedi mynd heibio ers ichi gwyno’n ffurfiol am y tro cyntaf, gallwch gysylltu â’r cynllun ADR yn uniongyrchol.

Mae dau gynllun ADR: Gwasanaethau’r Ombwdsmon: Cyfathrebiadau, a Chynllun Dyfarnu’r Gwasanaethau Cyfathrebiadau a'r Rhyngrwyd (CISAS). Rhaid i bob darparwr gwasanaeth fod yn perthyn i un o’r cynlluniau. Bydd eich darparwr yn dweud wrthych chi pa gynllun mae’n aelod ohono, neu gallwch chi ddefnyddio ein gwiriwr Dull Amgen o Ddatrys Anghydfod.

  1. Os byddwch yn dal heb allu datrys y broblem, cwynwch wrth Ofcom.Er na allwn ymchwilio i achosion unigol, gall eich cwynion chi ein helpu i lansio ymchwiliadau a chymryd camau wedyn os bydd raid.

Iawndal awtomatig

O 1 Ebrill 2019 ymlaen, bydd cwsmeriaid band eang a ffôn cartref yn cael iawndal gan eu darparwr gwasanaeth ar gyfer oedi cyn trwsio, methu apwyntiadau peirianwyr ac oedi cyn dechrau gwasanaeth newydd.

I gael rhagor o wybodaeth am iawndal awtomatig, darllenwch ein canllaw.

Neges destun i newid

Gallwch nawr adael eich rhwydwwith symudol drwy anfon neges destun syml, yn rhad ac am ddim, dan reolau newydd Ofcom.

Yn y gorffennol, os oeddech chi am newid rhwydwaith symudol a chadw eich rhif ffôn, fel rheol roedd angen i chi ffonio eich darparwr i ofyn am eich cod awdurdodi cludo (PAC). Dyma’r rhif y mae angen i chi ei roi i ddarparwr newydd er mwyn i’r broses newid ddigwydd.

Fodd bynnag, wrth ffonio eu darparwr, roedd cwsmeriaid yn aml yn teimlo’n rhwystredig oherwydd bod y darparwr yn ceisio eu perswadio i aros.

Mae ein proses ‘neges destun i newid’ yn gwneud pethau'n gyflymach ac yn haws i chi adael eich cwmni ffôn symudol, drwy roi mwy o reolaeth i chi ynghylch faint o gyswllt a gewch chi gyda’ch darparwr presennol.

Darllenwch ein canllaw i gael rhagor o wybodaeth.

Gwrthod cludo rhif

Mae’n rhaid i gwmnïau ffôn ganiatáu i chi fynd â’u rhif ffôn gyda chi i ddarparwr newydd pan fyddwch chi’n newid. Gelwir hyn yn ‘gludo rhifau’.

Os ydych chi’n meddwl bod eich darparwr yn eich atal rhag cludo eich rhif neu’n arafu’r broses, cysylltwch â’ch darparwr newydd.

Efallai gofynnir i chi roi cyfeirnod cwyn Ofcom iddyn nhw er mwyn dechrau ymchwiliad byr. Gallwch gael y rhif hwn drwy gyflwyno cwyn drwy wefan Ofcom.

Bydd panel annibynnol o’r diwydiant wedyn yn asesu eich achos, ac mae’n gallu mynnu bod eich hen ddarparwr yn cwblhau’r broses o gludo eich rhif.

Iawndal

Mae’n rhaid i ddarparwyr ffôn ddarparu iawndal os ydyn nhw’n eich rhwystro rhag cludo eich rhif pan fyddwch chi’n newid neu os ydyn nhw’n arafu’r broses.

Rhaid iddyn nhw hefyd egluro’n glir sut gallwch chi hawlio’r iawndal hwn. Gofynnwch i’ch darparwr am fanylion.

O 15 Chwefror 2020 ymlaen, mae’n rhaid i gwsmeriaid band eang, ffôn a theledu drwy dalu gael gwybod am gynigion gorau eu darparwr pan fydd eu contract cychwynnol yn dod i ben, a bob blwyddyn ar ôl hynny os byddan nhw’n aros y tu allan i gontract.

I gael rhagor o wybodaeth am yr hysbysiadau hyn, edrychwch ar ein diweddariad diweddaraf.

Rhoi barn am y dudalen hon

Oedd y dudalen hon yn ddefnyddiol?