Newid darparwr ffôn symudol

Cyhoeddwyd: 1 Hydref 2016
Diweddarwyd diwethaf: 25 Awst 2026

Mae'r canllaw hwn yn esbonio sut i newid eich gwasanaeth ffôn symudol gan ddefnyddio Text to Switch.

Gallwch wneud hyn drwy anfon neges destun syml, ac nid oes angen i chi siarad â'ch darparwr presennol. Mae'r camau ychydig yn wahanol gan ddibynnu a ydych chi am gadw'ch rhif ffôn neu gael un newydd.

Gall newid darparwr fod yn ffordd wych o arbed arian os ydych chi allan o gontract. Am syniadau eraill, edrychwch ar ein hawgrymiadau arbed arian.

Awgrymiadau ar gyfer newid ffôn symudol

Gwiriwch a ydych chi'n gymwys i gael tariff cymdeithasol

Os ydych chi'n derbyn Credyd Cynhwysol, Credyd Pensiwn neu fudd-daliadau eraill, efallai y byddwch yn gymwys i gael tariff cymdeithasol. Mae hwn yn fargen symudol ratach, heb unrhyw godiadau prisiau canol contract, i bobl ar incwm is. Edrychwch ar ein canllaw tariff cymdeithasol.

 Gwirio statws eich contract

Tecstiwch 'INFO' i 85075 i wirio a ydych chi allan o gontract ai peidio. Os ydych chi'n dal i fod mewn contract, efallai y bydd yn rhaid i chi dalu tâl terfynu cynnar (early termination fee) i adael.

Newid eich ffôn symudol mewn tri cham hawdd

  1. Gofynnwch am eich cod newid PAC neu STAC

I gadw'ch rhif ffôn, tecstiwch 'PAC' i 65075.

Os nad ydych chi eisiau cadw eich rhif ffôn, tecstiwch 'STAC' i 75075. Mae hyn yn sicrhau bod y newid yn cael ei wneud i chi heb dalu ffioedd cyfnod rhybudd neu dalu ddwywaith am eich hen gontract a'ch contract newydd.

Gallwch hefyd ofyn am eich PAC neu STAC drwy ffonio’ch darparwr neu ar wefan eich darparwr. Bydd angen i chi ddefnyddio un o'r dulliau hyn os oes gennych fwy nag un rhif ar eich cyfrif, er enghraifft pecyn symudol teuluol.

Edrychwch ar ein canllaw ar ddewis y pecyn symudol cywir ar gyfer eich anghenion. Os oes gennych ffôn eisoes, bargeinion SIM yn unig fel arfer yw'r fargen gorau. Ni all darparwyr werthu ffonau wedi'u cloi, felly dylech allu parhau i ddefnyddio'ch ffôn presennol gyda'ch darparwr newydd.

  1. Rhowch y cod newid i'ch darparwr newydd

Rhaid i'ch darparwr presennol ateb gyda'ch cod newid, a elwir yn 'PAC' neu 'STAC', o fewn munudau. Mae'r cod yn ddilys am 30 diwrnod.

Rhaid i'ch darparwr presennol hefyd anfon gwybodaeth bwysig fel unrhyw daliadau terfynu cynnar neu’ch balans credyd, os ydych chi'n gwsmer talu-wrth-ddefnyddio. Gwiriwch y wybodaeth hon yn ofalus cyn i chi benderfynu bwrw ymlaen.

Rhowch eich cod PAC neu STAC i'ch darparwr newydd, fel y gallant drefnu'r newid. Yn aml, gallwch wneud hyn wrth gofrestru ar gyfer eich gwasanaeth newydd gyda nhw. Fel arfer, mae hefyd yn bosibl cofrestru yn gyntaf a darparu eich PAC neu STAC yn ddiweddarach, ond cofiwch ei roi iddyn nhw cyn i'ch cod PAC neu STAC ddod i ben.

  1. Bydd eich gwasanaeth yn cael ei newid

Rhaid i'ch darparwr newydd gwblhau eich newid o fewn un diwrnod gwaith.

Ni ddylai eich hen ddarparwr godi tâl arnoch am unrhyw gyfnod rhybudd ar ôl y dyddiad newid. Ni ddylai unrhyw gyfnod o golli gwasanaeth bara mwy nag un diwrnod gwaith. Efallai y bydd angen i ddarparwyr eich digolledu os yw'r newid yn cael ei ohirio neu os cewch eich gadael heb wasanaeth am fwy o amser nag a ganiateir.

Os ydych chi'n bwriadu defnyddio'ch hen ffôn gyda bargen SIM yn unig, efallai y bydd angen i chi dynnu’ch hen gerdyn SIM a defnyddio un y bydd eich darparwr newydd yn ei anfon atoch.

 Cadw eich rhif, hyd yn oed ar ôl canslo

Hyd yn oed os na wnaethoch ofyn i gadw eich rhif ffôn wrth ganslo, yn y rhan fwyaf o achosion, gallwch barhau i drosglwyddo'ch hen rif ffôn i'ch gwasanaeth newydd o fewn mis i ganslo. Os na roddodd eich hen ddarparwr PAC i chi, cysylltwch â nhw dros y ffôn neu trwy eu gwefan i ofyn am hyn. Yna gallwch roi'r PAC hwn i'ch darparwr newydd i drosglwyddo'r rhif.

Eich barn ar y dudalen hon

Oedd y dudalen hon yn ddefnyddiol?