Galwadau mud, wedi gadael a sgamiau

Galwadau mud

Os yw’r ffôn yn canu ond nad oedd unrhyw un ar ben arall y lein, dylech gwyno i Ofcom.

Mae gwybodaeth am alwadau mud yn bwysig i ni. Er na allwn ymchwilio i achosion unigol, gall eich cwynion chi arwain at ymchwiliadau a gwneud i ni weithredu.

Darllenwch ein canllawiau ar alwadau mud a galwadau sy’n cael eu gadael.

Galwadau sy'n cael eu gadael

Os chwaraewyd neges wedi’i recordio i chi yn dweud bod cwmni wedi ceisio eich ffonio ond nad oedd unrhyw un o’i staff yn rhydd i gymryd yr alwad, dylech gwyno i Ofcom.

Darllenwch ein canllawiau ar alwadau mud a galwadau sy’n cael eu gadael.

Galwadau twyllodrus

Os ydych chi wedi cael eich targedu gan sgam, neu'n adnabod rhywun arall sydd wedi cael y profiad, rhowch wybod i Action Fraud. Action Fraud yw'r ganolfan adrodd ar gyfer twyll a seiber-droseddu yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon.

Ar gyfer pobl yn Yr Alban

Dylid adrodd am dwyll ac unrhyw drosedd ariannol arall yn Yr Alban i'r Heddlu ar 101, neu mewn sefyllfa frys os ydych yn teimlo'n anniogel neu o dan fygythiad, dylech ddeialu 999.

Gall pobl yn Yr Alban a allai fod mewn perygl o fod yn, neu sy'n mynd yn, ddioddefwr sgam gysylltu â gwasanaeth defnyddwyr Advice Direct Scotland ar 0808 164 6000 i adrodd am beth sydd wedi digwydd ac i gael cyngor pellach. Mae'n bosib y bydd Advice Direct Scotland yn adrodd am y sgam i Safonau Masnach Yr Alban i gynorthwyo ymchwiliad pellach.

Fodd bynnag, os bydd cardiau debyd, bancio ar-lein neu sieciau yn rhan o'r sgam, eich cam cyntaf yw cysylltu â'ch banc neu gwmni cardiau credyd.

Sgamiau Colli Galwadau

Os ydych chi wedi colli galwad ar eich ffôn symudol o rif dieithr, byddwch yn ofalus cyn ei ffonio nôI. Gallai fod yn sgam methu galwadau.

Os ydych chi’n meddwl eich bod wedi cael eich targedu gan sgam colli galwadau, cysylltwch â’ch darparwr ffôn cyn gynted ag sy’n bosibl. Dylech chi hefyd roi gwybod i Action Fraud.

Sgamiau yn cynnwys rhifau cyfradd premiwm

Mae sgamiau colli galwadau a mathau eraill o sgamiau yn aml yn cynnwys gwasanaethau ffôn cyfradd premiwm, sy’n dueddol o gostio mwy na neges destun neu alwad cyffredin.

Os ydych chi wedi cael profiad o’r sgam lle’r ydych wedi cael galwad wrth rif yn dechrau gyda 0871, 070 neu 09 cysylltwch â’r Phone-paid Services Authority sy’n rheoleiddio gwasanaethau cyfradd premiwm. Dylech chi gysylltu gyda nhw hefyd os ydy’r sgam yn cynnwys negeseuon testun cyfradd premiwm.

Sgamiau sy’n dangos rhif ffôn

Mae llawer o ffonau yn eich galluogi i weld rhif y person sy’n galw cyn i chi ateb. Mae’r nodwedd yma -sy’n cael ei alw’n ‘Rhif adnabod y Galwr’ -yn gallu cael ei ddefnyddio gan alwyr niwsans neu droseddwyr, sy’n newid rhif adnabod y galwr. Yr enw ar yr ymarfer hwn yw ffugio (‘spoofing’).

Os ydych chi wedi cael profiad o sgam ffugio rhif adnabod y galwr rhowch wybod i Action Fraud.

Galwadau twyll gan bobl sy’n esgus mai Ofcom sydd yno

Rydyn ni wedi clywed wrth bobl sy’n dweud eu bod wedi derbyn galwadau neu negeseuon sy’n honni mai Ofcom sydd yno. Galwadau twyll yw’r rhain ac nid ni sy’n gyfrifol amdanynt.

Darllenwch ein canllaw am alwadau twyll gan bobl sy’n esgus mai Ofcom sydd yno.

Rhoi barn am y dudalen hon

Oedd y dudalen hon yn ddefnyddiol?