Cynnwys niweidiol ar wefan neu ap

Gwaith Ofcom yw sicrhau bod gwasanaethau ar-lein yn cydymffurfio â’u dyletswyddau i ddiogelu defnyddwyr.

Rhagor o wybodaeth am sut rydym yn rheoleiddio gwasanaethau ar-lein.

Cysylltu â’r gwasanaeth gyntaf

Mae llawer o wasanaethau ar-lein eisoes yn darparu ffyrdd i chi roi gwybod am gynnwys neu ymddygiad niweidiol, neu i gwyno am rywbeth rydych chi wedi’i weld. Os oes gennych broblem gyda rhywbeth rydych chi wedi’i weld neu ei brofi ar wasanaeth ar-lein, dylai rhoi gwybod yn uniongyrchol i’r gwasanaeth fod yn gam cyntaf.

Os ydych chi wedi gwneud hynny ac yn dal yn bryderus, gallwch roi gwybod i Ofcom.

Ni allwn ymateb i gwynion unigol nac ymchwilio iddynt

Er na allwn ymateb i’ch cwyn, bydd yn ein helpu i asesu a yw gwasanaethau wedi’u rheoleiddio yn gwneud digon i ddiogelu eu defnyddwyr – ac a ddylai Ofcom gymryd unrhyw gamau.

Gallwch gwyno i ni am wasanaethau ar-lein wedi’u rheoleiddio. Mae gwasanaethau ar-lein wedi’u rheoleiddio yn cynnwys:

  • gwefannau ac apiau sy’n lletya cynnwys wedi’i gynhyrchu gan ddefnyddwyr (fel cyfryngau cymdeithasol);
  • peiriannau chwilio;
  • gwasanaethau gyda chynnwys pornograffig;
  • llwyfannau rhannu fideos.

Mae gwasanaethau ffrydio a dal i fyny wedi’u rhwymo wrth reolau ar wahân

Er bod gwasanaethau ar-alw a ffrydio ar-lein, rydyn ni’n eu rheoleiddio o dan reolau gwahanol. Gallwch gwyno i ni am rywbeth rydych chi wedi’i weld ar BBC iPlayer neu ar wasanaeth ar-alw arall.

Rhoi barn am y dudalen hon

Oedd y dudalen hon yn ddefnyddiol?