Rhwymedigaeth Gwasanaeth Cyffredinol

  • Dechrau: 10 Ionawr 2005
  • Statws: Datganiad a gyhoeddwyd
  • Diwedd: 21 Mawrth 2005

Mae'r Gwasanaeth Cyffredinol yn sicrhau bod gwasanaethau llinell sefydlog sylfaenol ar gael am bris fforddiadwy i bob dinesydd a chwsmer ar draws y DU.

Diffinnir cwmpas y Rhwymedigaethau Gwasanaeth Cyffredinol ('USO') gan Gyfarwyddeb Gwasanaethau Cyffredinol y Gymuned Ewropeaidd ('USD'). Mae'r Ysgrifennydd Gwladol dros Fasnach a Diwydiant yn pennu'r gwasanaethau y mae'n rhaid eu darparu ar y DU yn y Gorchymyn Gwasanaeth Cyffredinol ('y Gorchymyn'). Mae'r Gorchymyn wedi cael ei weithredu gan Ofcom drwy amodau penodol ar y Darparwyr Gwasanaethau Cyffredinol ('USP'), BT a Kingston Communications. Mae gwasanaethau USO yn cynnwys: cynlluniau tariff arbennig ar gyfer cwsmeriaid incwm isel; cysylltiad â'r rhwydwaith sefydlog, sy'n cynnwys mynediad rhyngrwyd swyddogaethol; mynediad daearyddol rhesymol i flychau ffôn cyhoeddus; a darparu gwasanaeth cyfnewid testun i gwsmeriaid sydd â nam ar eu clyw.

Dyma'r drydedd ddogfen i Ofcom ei chyhoeddi yn ystod yr adolygiad. Mewn dogfen ymgynghori ar 10 Ionawr 2005 ('ymgynghoriad Ionawr'), archwiliodd Ofcom weithrediad presennol yr USO a gwnaeth gyfres o gynigion ar gyfer newid. Mewn datganiad ac ymgynghoriad pellach a gyhoeddwyd ar 30 Mehefin 2005 ('datganiad mis Mehefin'), fe wnaethom nodi ein casgliadau a gofyn am sylwadau ar gynigion ar gyfer newidiadau cyfreithiol er mwyn gweithredu'r casgliadau hynny. Fe gawsom 50 ymateb i'r ddogfen honno. Ein bwriad oedd cwblhau'r adolygiad erbyn diwedd 2005 ond mae hyn wedi'i ohirio oherwydd yr angen am ystyried materion cyfreithiol sy'n deillio o anghydfod a godwyd gan ddarparwyr yn erbyn cynnydd BT yn y tâl cysylltiad â gwasanaeth Text Direct BT. Mae'r datganiad hwn bellach yn nodi ein casgliadau.

Diweddariad 7 Medi 2022 – rheoliadau ar flychau ffôn cyhoeddus wedi'u diweddaru

Ar 8 mehefin 2022, cyflwynodd Ofcom nifer o newidiadau i'r amodau blychau ffôn cyhoeddus ar BT a KCOM. Mae'r rheolau newydd a'r arweiniad i gyd-fynd ag ef (PDF, 195.0 KB) bellach mewn grym, gan ddisodli'r dogfennau ar y dudalen hon. .


Prif ddogfennau

Dogfennau cysylltiedig