Datganiad: Arweiniad i ddarparwyr ODPS ar rwymedigaethau mewn perthynas â gwaith Ewropeaidd

  • Dechrau: 25 Ionawr 2022
  • Statws: Datganiad a gyhoeddwyd
  • Diwedd: 22 Mawrth 2022

Datganiad a gyhoeddwyd 7 Medi 2022 

Yn dilyn ymgynghoriad,rydym yn cyhoeddi arweiniad terfynol ochr yn ochr â'r datganiad hwn. Dylid ei ddarllen ar y cyd â'r ddogfen Rheolau ac Arweiniad ODPS Ofcom sy'n nodi'r rhestr lawn o ofynion statudol y mae'n rhaid i ddarparwyr gydymffurfio â hwy ac yn cynorthwyo darparwyr yn eu dealltwriaeth o sut mae Ofcom yn dehongli'r rheolau hyn.

Mae'r arweiniad terfynol yn adlewyrchu newidiadau i'r fframwaith rheoleiddio a ddaeth i rym ar 1 Tachwedd 2020 gan ddisodli arweiniad presennol Ofcom ar rwymedigaethau gwaith Ewropeaidd i ddarparwyr gwasanaethau rhaglenni ar-alw. Mae'r newidiadau hyn yn deillio o drawsosodiad y DU o Gyfarwyddeb Gwasanaethau Cyfryngau Clyweled diwygiedig 2018 i gyfraith y DU, yn unol â thelerau'r Cytundeb Ymadael â'r UE. Maen nhw'n gosod gofynion ar ddarparwyr ODPS i sicrhau bod o leiaf 30% o'r rhaglenni sy'n cael eu cynnwys yn eu gwasanaethau ar gyfartaledd yn waith Ewropeaidd ac i wneud y cynnwys hwn yn amlwg. Mae'r gwaith Ewropeaidd yn cynnwys gwaith sy'n tarddu o Aelod-wladwriaethau'r Undeb Ewropeaidd a hefyd gwaith sy'n tarddu o Wladwriaethau Ewropeaidd eraill sy'n bleidiol i Gonfensiwn Ewropeaidd Cyngor Ewrop ar Deledu Trawsffiniol ("yr ECTT”). Mae'r DU yn parhau'n rhan o'r ECTT ac felly mae gwaith sy'n tarddu o'r DU yn cael ei gynnwys fel gwaith Ewropeaidd.

Mae'n rhaid i Ofcom gymryd camau i sicrhau bod darparwyr yn cydymffurfio â'r gofynion hyn, sydd wedi eu hymgorffori yn Rheolau ac Arweiniad ODPS Ofcom fel Rheol 15.

Mae adran 368CB y Ddeddf yn pennu bod y gofynion hyn i'w dehongli'n unol â chanllawiau'r Comisiwn Ewropeaidd ar waith Ewropeaidd o fis Gorffennaf 2020. Gan hynny, mae ein harweiniad terfynol yn dilyn y canllawiau hynny ac yn cyfeirio atynt fel y bo'n briodol.

Byddwn yn gofyn am wybodaeth gan ddarparwyr yng Ngwanwyn 2023 o ran sut y maent wedi bodloni'r gofynion ar gyfer blwyddyn galendr 2022.


Prif ddogfennau

Dogfennau cysylltiedig

loading icon

Ymatebion

Enw'r ymatebwr Math
BBC (PDF File, 169.2 KB) Sefydliad
BFI (PDF File, 147.6 KB) Sefydliad
BT (PDF File, 157.9 KB) Sefydliad
COBA (PDF File, 190.6 KB) Sefydliad
Directors UK (PDF File, 124.7 KB) Sefydliad