Radio cymunedol

26 Medi 2019

Mae gorsafoedd radio cymunedol yn rhoi cyfle i gannoedd o gymunedau ar draws y DU i ddarlledu. Diolch i waith caled a brwdfrydedd y gwirfoddolwyr, maent yn adlewyrchu amrywiaeth o ddiwylliannau a diddordebau ac yn darparu cynnwys cyfoethog a gynhyrchir gan fwyaf yn lleol.

Fel arfer mae gorsafoedd radio cymunedol yn darlledu i ddalgylch sy'n fach yn ddaearyddol gyda radiws darpariaeth o hyd at 5 cilomedr ac yn cael eu rhedeg ar sail dim-er-elw. Gallant wasanaethu cymunedau cyfan neu wahanol feysydd o ddiddordeb -fel grwpiau ethnig, oed neu ar gyfer pobl sydd â diddordeb penodol. Er enghraifft, gallwch wrando ar orsafoedd sy'n canolbwyntio ar gerddoriaeth ddinesig neu arbrofol. Mae gorsafoedd cymunedol eraill yn targedu pobl ifanc, cymunedau crefyddol neu'r lluoedd arfog a'u teuluoedd. Maent yn gallu bod yn fuddiol iawn i'r gymuned gan eu bod yn cynnig hyfforddiant a newyddion cymunedol a chyfle i drafod.