20 Hydref 2021

45 miliwn o bobl wedi'u targedu gan alwadau a negeseuon testun sgam yr haf yma

  • Sgamiau neges destun sydd fwyaf cyffredin, gyda thri chwarter o bobl ifanc 16-34 oed wedi'u targedu
  • Derbyniodd chwech o bob deg o bobl dros 75 oed alwad amheus i'w llinell dir
  • Mae Ofcom yn annog pobl i roi gwybod i’r gwasanaeth 7726 am negeseuon testun amheus ac i adrodd i Action Fraud am rifau amheus.

Mae bron i 45 miliwn o bobl wedi derbyn negeseuon testun neu alwadau sgam posib dros y tri mis diwethaf, yn ôl ymchwil newydd gan Ofcom

Dywedodd mwy nag wyth o bob 10 (82%) o bobl iddynt dderbyn neges amheus, naill ai ar ffurf neges destun, neges wedi'i recordio neu alwad ffôn fyw i linell dir neu ffôn symudol. Amcangyfrifir bod hyn yn cynrychioli 44.6 miliwn o oedolion yn y DU.

Yn gyffredinol daw ymgeisiau i sgamio ar ffurf negeseuon testun gyda saith o bob 10 o bobl (71%) yn dweud eu bod wedi derbyn neges destun amheus, ac roedd tri chwarter (75%) o'r rhai a dargedwyd yn 16-34 oed.

Dywedodd mwy na phedwar o bob 10 (44%) o'r rhai a oedd wedi derbyn neges destun amheus iddynt dderbyn neges o'r fath o leiaf unwaith yr wythnos.

Mae ein hymchwil hefyd yn dangos bod galwadau amheus yn parhau i fod yn fygythiad i ddefnyddwyr llinell dir, gyda phobl hŷn yn arbennig o agored iddynt. Dywedodd tri o bob pump (61%) o bobl 75 oed a hŷn iddynt dderbyn galwad sgam posib i'w llinell dir.

Dywedodd dros hanner (53%) yr ymatebwyr a dderbyniodd alwad ffôn fyw amheus ar linell dir dros y tri mis diwethaf iddynt dderbyn galwad o leiaf unwaith yr wythnos.

Dywedodd pedwar o bob 10 (43%) iddynt dderbyn galwad amheus ar eu ffôn symudol.

Bu i fwy na hanner y bobl a dderbyniodd neges destun amheus naill ai ddileu'r neges (53%) neu rwystro'r rhif (52%).

Bu i bron i hanner (49%) y rhai a dderbyniodd alwad llais fyw amheus, a mwy na phedwar o bob deg (44%) a dderbyniodd neges wedi'i recordio amheus, rwystro'r rhif.

Ond, yn y tri mis diwethaf yn unig, adroddodd 2% eu bod wedi dilyn y cyfarwyddiadau gan y twyllwyr mewn neges neu alwad. Mae hyn yn cyfateb i bron i filiwn o bobl, sy'n wynebu'r risg o golled ariannol a thrallod emosiynol os bydd ymgais i sgamio'n llwyddo.

Datgelodd yr ymchwil hefyd nad yw bron i wyth o bob 10 (79%) o ddefnyddwyr ffôn symudol yn ymwybodol o'r rhif 7726 a ddefnyddir i roi gwybod am neges destun neu alwad amheus – er i nifer tebyg (81%) gytuno bod adrodd am negeseuon yn ddefnyddiol wrth atal pobl rhag cael eu twyllo yn y dyfodol.

Os byddwch yn derbyn galwad sgam...

Pwyllwch

Pwyllwch! Peidiwch â rhoi unrhyw fanylion personol neu fanc.

Datgysylltwch

Datgysylltwch a ffoniwch y cwmni maen nhw'n honni ei gynrychioli i wirio a yw'n sgam.

Rhowch wybod

Rhowch wybod am alwadau sgam i Action Fraud a rhowch wybod i'ch ffrindiau a theulu hefyd.

Os byddwch yn derbyn neges destun sgam...

Pwyllwch

Pwyllwch! Gallai'r neges fod yn sgam. Darllenwch yn ofalus a chadwch lygad allan am fanylion sydd i'w gweld yn amheus.

Peidiwch glicio

Peidiwch glicio unrhyw ddolenni neu roi manylion personol neu fanc.

Rhowch wybod

Rhowch wybod am unrhyw neges amheus i 7726 a rhowch wybod i ffrindiau a theulu hefyd.

Mae Ofcom yn annog unrhyw un sy'n derbyn neges destun amheus i'w adrodd drwy anfon y neges ymlaen at 7726, sy'n gyrru'r neges at y darparwr symudol. Yna gellir ymchwilio i'r rhifau hyn ac o bosib eu rhwystro os nodir eu bod yn rhifau sy'n dwyllodrus yn barhaus – gan helpu i ddatgelu twyllwyr ac atal mwy o bobl rhag y risg o ymgeisiau i’w sgamio.

Os ydych wedi derbyn galwad sgâm, gallwch ei adrodd i Action Fraud, sef y ganolfan adrodd ar gyfer twyll a seiberdroseddu yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon. Yn Yr Alban dylid adrodd am dwyll neu unrhyw drosedd ariannol arall i'r Heddlu ar 101.

Anfonwch negeseuon testun amheus at

7726

Mae hyn yn anfon y neges i'ch darparwr symudol i'w harchwilio

Mae gwasanaethau sgrinio arbenigol i rwystro galwadau o rifau anhysbys hefyd ar gael a gall cwsmeriaid siarad â'u darparwr am ba atebion a allai fod yn fwyaf addas iddynt.

At hynny, lansiodd Stop Scams UK rif newydd yn ddiweddar sy'n galluogi cwsmeriaid i gysylltu'n uniongyrchol â'u banc, i wirio a ydynt yn cael eu herlid gan dwyllwyr sy'n honni'n ffug eu bod yn ffonio o'r banc.  Gall cwsmeriaid llawer o fanciau mwyaf y DU ffonio 159 i siarad â gweithredwr a all gadarnhau a yw'r cyswllt yn ddilys ai beidio.

Gall troseddwyr sy'n twyllo pobl gan ddefnyddio sgamiau ffôn a neges destun achosi gofid a niwed ariannol enfawr i'w dioddefwyr ac mae eu tactegau'n mynd yn gynyddol soffistigedig.  

Byddwch yn effro i unrhyw gyswllt digymell. Os ydych chi'n amau mai ymgais sgam ydyw, dewch â'r alwad i ben a rhowch wybod am negeseuon testun i 7726 ac am alwadau i Action Fraud.

Lindsey Fussell, Cyfarwyddwr Grŵp Rhwydweithiau a Chyfathrebu Ofcom

Beth sy'n cael ei wneud i daclo sgamiau?

Mae Ofcom wedi gweithio gyda gweithredwyr telathrebu i fynd i'r afael â sgamiau a galwadau niwsans ers sawl blwyddyn, ond yn pryderu am y cynnydd sylweddol mewn galwadau a negeseuon testun sgam dros y 18 mis diwethaf. Mae'r tactegau a ddefnyddir gan dwyllwyr yn mynd yn fwyfwy soffistigedig, gan gynnwys defnyddio sianeli cyfathrebu lluosog a sbŵffio cwmnïau a sefydliadau adnabyddus.

Rydym yn gweithio'n agos gyda diwydiant, yr heddlu, y llywodraeth a rheoleiddwyr eraill i sicrhau bod camau cryf ar waith i fynd i'r afael â'r bygythiad a achosir gan negeseuon testun a galwadau sgam. Mae Ofcom yn cefnogi gwaith y diwydiant i ddatblygu atebion technegol, ac ar yr un pryd yn codi ymwybyddiaeth o'r camau y gall pobl eu cymryd i amddiffyn eu hunain.

Nodiadau i Olygyddion

  • Cynhaliodd Ofcom arolwg o 2,000 o oedolion yn y DU ar 18 a 19 Medi 2021. Mae'r holl ymatebion yn cynnwys galwadau neu negeseuon testun amheus a dderbyniwyd yn y tri mis cyn yr arolwg.
  • Amcangyfrif o'r amrediad poblogaeth ar gyfer:
    cyfanswm y bobl a dderbyniodd alwad ffôn neu neges destun amheus: 43.7 - 45.5 miliwn o bobl yn y DU
    cyfanswm nifer y bobl a ddilynodd gyfarwyddiadau'r twyllwyr mewn neges neu alwad: 0.6-1.2 miliwn
  • Gellir rhoi gwybod am alwadau sgam i Action Fraud drwy ffonio 0300 123 2040 neu fynd i wefan Action Fraud yn www.actionfraud.police.uk
  • Mae Ofcom yn rhan o Dasglu Twyll ar y Cyd y Swyddfa Gartref, ac mae hefyd yn rhoi cymorth i'r grŵp Stop Scams UK a arweinir gan y diwydiant, sy'n dwyn ynghyd gwmnïau telathrebu a'r diwydiant bancio.

Cynnwys cysylltiedig