11 Tachwedd 2021

Sut rydyn ni'n newid y rheolau ar gyfer y gwasanaeth cyffredinol band eang

Heddiw rydyn ni wedi newid y rheolau ar sut y dylai BT ddarparu dyfynbrisiau i gwsmeriaid sydd wedi gwneud cais am gysylltiad o dan y rhwymedigaeth gwasanaeth cyffredinol band eang.

O dan y gwasanaeth cyffredinol, a gyflwynwyd gan Lywodraeth y DU, mae gan gartrefi a busnesau cymwys yr hawl i ofyn am well cysylltiad os na allant gael cyflymder lawrlwytho o 10 Mdid yr eiliad a chyflymder uwchlwytho o 1 Mdid yr eiliad.

BT sy’n gyfrifol am gysylltu'r safleoedd hyn, ac eithrio yn ardal Hull lle mai KCOM yw’r darparwr dynodedig.

O dan y cynllun, bydd BT yn talu cost cysylltu safleoedd cymwys, ar yr amod bod y gost yn £3,400 neu lai. Os bydd yn costio mwy i gysylltu safle, gall y cwsmer ddewis talu'r gwahaniaeth (cyfeirir at hyn fel 'costau dros ben'). Mae'n rhaid i BT gymryd i ystyriaeth y gallai costau gael eu rhannu ymysg cwsmeriaid eraill a allai ddefnyddio’r un seilwaith band eang.

Heddiw rydym wedi newid y rheolau i egluro y dylai BT, pan fydd y costau dros ben yn uchel iawn, hysbysu cwsmeriaid am gyfanswm costau dros ben y seilwaith a rennir a chael cydsyniad i dalu'r rhain cyn darparu'r cysylltiad. Yna, gall un neu fwy o gwsmeriaid yn yr ardal leol dalu holl gostau dros ben y gwaith adeiladu.

Mae'r newid hwn yn golygu y bydd rhai cwsmeriaid yn derbyn dyfynbrisiau is yn y dyfodol, ond bydd cost cysylltu rhai safleoedd - gan gynnwys y rhai yn rhannau mwyaf anghysbell y DU - yn parhau'n uchel iawn. Byddwn yn parhau i gydweithio â'r diwydiant a Llywodraeth y DU i edrych ar atebion technoleg a chyllid amgen ar gyfer y safleoedd anodd eu cyrraedd hyn.

Beth yw'r gwasanaeth cyffredinol band eang?

Ers 20 Mawrth 2020, os na allwch chi gael cyflymder lawrlwytho o 10Mdid yr eiliad a chyflymder uwchlwytho o 1 Mdid yr eiliad, gallwch ofyn am uwchraddiad i'ch cysylltiad. Gallwch ofyn am hyn gan BT, neu gan KCOM os ydych chi'n byw yn ardal Hull - nid oes angen i chi fod yn un o gwsmeriaid presennol BT neu KCOM i ymgeisio.

Dyma sut mae'r broses yn edrych:

Ffoniwch BT neu KCOM: byddant yn gwirio a ydych yn gymwys i gael eich uwchraddio. Os ydych yn gymwys, bydd eich cysylltiad yn cael ei adeiladu cyn gynted â phosibl. Os na, byddwch yn cael eich hysbysu am opsiynau eraill.

Ydw i’n gymwys?

Pan fyddwch yn cysylltu â BT neu KCOM mae ganddynt 30 niwrnod i gadarnhau a ydych chi'n gymwys, a faint y bydd yn ei gostio i adeiladu eich cysylltiad.

Bydd eich cartref neu eich busnes yn gymwys os:

  • nad oes ganddo fynediad at fand eang digonol yn barod; ac
  • os na fydd yn rhan o gynllun band eang cyhoeddus a gynigir gan Lywodraeth y DU a'r llywodraethau datganoledig yn ystod y 12 mis nesaf.

Os mai dim ond gwasanaeth digonol sy’n costio mwy na £46.40 y mis sydd gennych ar hyn o bryd, bydd hawl gennych hefyd i ofyn am gysylltiad gwasanaeth cyffredinol.

Faint mae’n ei gymryd i’w osod?

Bydd y rhan fwyaf o bobl yn cael cysylltiad o fewn 12 mis, ond gall gymryd hyd at 24 mis i rai..

Beth os nad ydw i’n gymwys??

Os nad ydych chi’n gymwys, bydd BT neu KCOM yn dweud wrthych beth yw eich opsiynau:

Band eang lloeren – Efallai y bydd modd i chi gael cysylltiad drwy wasanaeth band eang lloeren. I dderbyn gwasanaethau lloeren, bydd angen i chi osod dysgl lloeren ar eich eiddo.

Efallai eich bod yn profi problemau cysylltedd yn eich cartref a allai effeithio ar gyflymder eich band eang. Mae'n gallu dibynnu ar ffactorau fel lleoliad eich llwybrydd wifi o fewn y cartref neu nifer y bobl yn eich ardal sy’n mynd ar-lein ar adegau prysur. Cysylltwch â’ch darparwr i weld a oes ganddynt unrhyw gyngor ynghylch beth gallwch ei wneud i wella cysylltedd yn eich cartref.

Mae'n bosib y byddwch chi'n gymwys yn y dyfodol – bydd BT / KCOM yn rhoi gwybod i chi os bydd amgylchiadau’n newid. Bydd cynlluniau band eang cyhoeddus yn y dyfodol yn cysylltu â chi os byddwch yn mynd yn gymwys i gael cysylltiad drwy’r rhain.

Related content