22 Mehefin 2021

Gwasanaeth cyfnewid fideo brys newydd ar gyfer defnyddwyr iaith arwyddion

O'r flwyddyn nesaf, bydd defnyddwyr Iaith Arwyddion Prydeinig yn gallu cysylltu â'r gwasanaethau brys gan ddefnyddio gwasanaeth cyfnewid fideo, o dan reolau newydd a gyhoeddwyd heddiw gan Ofcom.

O dan ein rheolau presennol, gall pobl sydd â nam ar y clyw neu'r lleferydd gysylltu eisoes gyda phobl eraill dros y ffôn trwy wasanaeth cyfnewid testun a gymeradwyir gan Ofcom, a gallant gysylltu â'r gwasanaethau brys yn syml trwy anfon neges destun i 999.

Fodd bynnag, mae'r gwasanaethau hyn yn dibynnu ar Saesneg ysgrifenedig, a all arwain at gamddealltwriaeth ar gyfer defnyddwyr Iaith Arwyddion Prydeinig (BSL) mewn sefyllfaoedd brys. Rydym eisiau i ddefnyddwyr BSL gael mynediad i'r gwasanaethau brys sy'n gyfartal i'r hyn sydd gan bobl eraill yn y DU.

Felly, rydym yn awr yn mynnu i gwmnïau ffôn a band eang gynnig gwasanaeth cyfnewid fideo 24/7 am ddim i ddefnyddwyr BSL gysylltu â'r gwasanaethau brys, trwy ap symudol a gwefan benodedig.

Bydd galluogi defnyddwyr BSL i ddefnyddio eu hiaith gyntaf yn ei gwneud yn haws iddynt dderbyn y cymorth sydd ei angen arnynt hwy ac ar bobl eraill mewn argyfyngau. Bydd modd iddynt ddisgrifio natur y sefyllfa frys yn well ac i ddeall yn well y cyfarwyddiadau a roddir gan y gwasanaethau brys a allai achub bywydau.

Sut mae'n gweithio

Bydd rhywun sy'n fyddar yn gallu gwneud galwad fideo i ddehonglydd cymwysedig a phrofiadol mewn canolfan alwadau. Bydd y dehonglydd yn trosi'r hyn y mae'r person byddar yn ei arwyddo i Saesneg llafar er mwyn i'r gwasanaethau brys ei glywed, ac yn arwyddo'r hyn y mae'r gwasanaethau brys yn ei ddweud i'r person byddar.

Bydd unrhyw ddata y mae'r cwsmer yn ei ddefnyddio i wneud yr alwad fideo'n 'gyfradd sero' ac felly bydd y gwasanaeth am ddim ar gyfer y defnyddiwr - yn yr un modd yn union â galwadau brys eraill.

Ymgynghori â defnyddwyr iaith arwyddion

Fel rhan o'r broses ymgynghori â'r cyhoedd ar ein cynigion, gwnaethom gyhoeddi fideos BSL a gwahodd pobl i ymateb mewn BSL neu Saesneg, a bu i nifer o bobl fyddar anfon ymateb.

Dwedodd rhai pobl fyddar wrthym na ddylai fod angen i ddefnyddwyr gofrestru na chael cyfrinair i ddefnyddio gwasanaeth cyfnewid fideo brys. Rydym wedi cymryd hyn i ystyriaeth yn ein rheolau a gyhoeddir heddiw, trwy nodi na fydd angen i bobl gofrestru i ddefnyddio'r gwasanaeth.

Dwedodd pobl fyddar wrthym hefyd fod y gwasanaethau cyfnewid testun ac SMS brys presennol yn bwysig a bod yn rhaid eu cadw. Bydd y ddau'n parhau i gael eu darparu, ochr yn ochr â'r gwasanaeth cyfnewid fideo brys newydd.

Hoffem ddiolch i bawb a anfonodd ymateb i'n hymgynghoriad.

Y camau nesaf

Gall cwmnïau telathrebu naill ai gyflwyno'r gwasanaeth eu hunain neu gontractio sefydliad arall i'w wneud, ond mae'n rhaid iddo gael ei gymeradwyo gan Ofcom.

I gael ei gymeradwyo gan Ofcom, bydd yn rhaid i wasanaeth cyfnewid fideo brys fodloni meini prawf penodol yr ydym wedi'u disgrifio heddiw. Dylai darpar gyflenwyr anfon ceisiadau atom erbyn 1 Hydref. Byddwn wedyn yn ymgynghori ym mis Tachwedd ar unrhyw gynnig i gymeradwyo gwasanaeth.

Bydd angen amser hefyd i ddylunio'r ap a'r wefan benodedig, a bydd angen amser ar gwmnïau telathrebu i gontractio â darparwr gwasanaeth cymeradwy a pharatoi i'w roi ar waith.

Gan hynny, mae gan ddarparwyr telathrebu tan 17 Mehefin 2022 i gyflwyno gwasanaeth cyfnewid fideo brys.

Crynodeb o'n penderfyniad yn BSL

Trawsgrifiad o'r fideo BSL – datganiad cyfnewid fideo brys (PDF, 83.3 KB) (Saesneg yn unig)

See also...