25 Mawrth 2021

Diogelu prisiau ar gyfer cwsmeriaid llinell dir yn unig BT

Bydd cwsmeriaid llinell dir yn unig BT yn parhau i gael eu prisiau wedi’u diogelu am y pum mlynedd nesaf, ar ôl i Ofcom dderbyn ymrwymiad BT i barhau â chapiau prisiau ar ei rent llinell a'i ffioedd galwadau.

Mae hyn yn dilyn ein hadolygiad cychwynnol o'r farchnad yn 2017, a ganfu nad oedd cwsmeriaid sydd â llinell dir yn unig yn cael gwerth am arian, o gymharu â chwsmeriaid a oedd â bwndeli o wasanaethau llinell dir, band eang a theledu drwy dalu.

Yn 2018, yn dilyn ein hadolygiad, gostyngodd BT bris rhentu llinell i'r cwsmeriaid llinell dir yn unig hyn, o £18.99 i £11.99. Ar y pryd roedd hyn yn arbediad o £84 y flwyddyn, neu 37%, ar gyfer hyd at filiwn o gwsmeriaid BT nad oedd ganddynt wasanaeth band eang BT hefyd.

Ymrwymodd BT hefyd i gapio unrhyw godiadau cyffredinol i rentu llinell a thaliadau galwadau i raddau chwyddiant am dair blynedd.

Roedd hyn yn arbennig o bwysig i gwsmeriaid hŷn, gan fod bron i ddwy ran o dair o gwsmeriaid a oedd â llinell dir yn unig dros 65 oed, ac nid oedd mwy na thri chwarter erioed wedi newid darparwr.

Cynhaliwyd ymrwymiadau gwreiddiol BT hyd at ddiwedd mis Mawrth 2021. Fodd bynnag, mae wedi ymrwymo i barhau â'r mesurau diogelu hyn am bum mlynedd arall, ac yr ydym wedi derbyn hynny.

See also...