11 Hydref 2022

Mae gan draean o blant oedran cyfryngau cymdeithasol ffug o 18+ oed

  • Ymchwil newydd yn taflu goleuni ar y perygl o niwed i blant ar-lein

Mae gan draean o blant rhwng 8 ac 17 oed sydd â phroffil cyfryngau cymdeithasol oedran defnyddiwr oedolyn o ganlyniad i gofrestru gyda dyddiad geni ffug, yn ôl ymchwil newydd a gomisiynwyd gan Ofcom (PDF, 992.6 KB).

Mae Yonder Consulting wedi darganfod bod gan y mwyafrif o blant rhwng 8 a 17 oed (77%) sy'n defnyddio'r cyfryngau cymdeithasol eu proffil eu hunain ar o leiaf un o'r llwyfannau mawrion. Ac er bod gan y rhan fwyaf o lwyfannau isafswm oedran o 13, awgryma'r ymchwil fod 6 o bob 10 (60%) o blant 8 i 12 oed sy'n defnyddio'r llwyfannau hyn wedi cofrestru gyda'u proffil eu hunain.

Ymhlith y grŵp dan oed hwn (8 i 12 oed), roedd hyd at hanner wedi sefydlu o leiaf un o'u proffiliau eu hunain, ac roedd hyd at ddau draean ohonynt wedi cael help gan riant neu warchodwr.

Pam mae oedran ar-lein plentyn yn bwysig?

Pan fydd plant yn hunan-ddatgan oedran ffug i gael mynediad at gyfryngau cymdeithasol neu gemau ar-lein, wrth iddynt fynd yn hŷn bydd eu hoedran defnyddiwr honedig yn heneiddio hefyd. Mae hyn yn golygu y gallent fod mewn mwy o berygl o ddod ar draws cynnwys sy'n niweidiol neu'n amhriodol i'w hoedran ar-lein. Unwaith y bydd defnyddiwr yn cyrraedd 16 neu 18 oed mae rhai llwyfannau, er enghraifft, yn cyflwyno nodweddion a swyddogaethau penodol nad ydynt ar gael i ddefnyddwyr iau - fel negeseua uniongyrchol a'r gallu i weld cynnwys i oedolion.

Ceisiodd astudiaeth Yonder amcangyfrif cyfran y plant sydd â phroffiliau cyfryngau cymdeithasol gydag 'oedran defnyddiwr' sy'n gwneud iddynt ymddangos yn hŷn nag y maent mewn gwirionedd. Awgryma'r canfyddiadau fod gan bron i hanner (47%) o blant 8-15 oed sydd â phroffil cyfryngau cymdeithasol oedran defnyddiwr o 16+ oed, a bod gan 32% o blant 8-17 oedran defnyddiwr o 18+.

Ymhlith y grŵp oedran iau, 8 i 12 oed, amcangyfrifodd yr astudiaeth fod gan ddau o bob pump (39%) broffil oedran defnyddiwr o rywun 16+ oed, a bod gan ychydig o dan chwarter (23%) oedran defnyddiwr 18+ oed

Ffactorau risg a all dywys plant i niwed ar-lein

Yn unol â'n dyletswydd i hyrwyddo ac ymchwilio i ymwybyddiaeth o'r cyfryngau ar-lein, ac fel y nodir yn ein Map ffordd i Reoleiddio Diogelwch Ar-lein, rydym yn cyhoeddi cyfres o adroddiadau ymchwil sydd wedi'u dylunio i adeiladu ein sylfaen dystiolaeth ymhellach wrth i ni baratoi i weithredu'r deddfau diogelwch ar-lein newydd.[1] O ystyried y saif amddiffyn plant wrth wraidd y gyfundrefn, mae'r ton o ymchwil heddiw yn hanfodol wrth archwilio profiadau plant o niwed ar-lein, yn ogystal â deall agweddau plant a rhieni tuag at rai mesurau diogelu ar-lein.

Nododd ail adroddiad ehangach i'r ffactorau risg a allai dywys plant i niwed ar-lein, a gomisiynwyd gan Ofcom ac a gyflawnwyd gan Revealing Reality, mai dim ond un o lawer o sbardunau posib oedd rhoi oedran ffug.

Nodwyd ystod o ffactorau risg a oedd o bosib yn gwneud plant yn fwy agored i niwed ar-lein, yn enwedig pan fo'r ffactorau hyn i'w gweld yn cyd-fynd neu gyd-ddigwydd yn aml â'r niwed a brofwyd. Roedd y rhain yn cynnwys:

  • nodweddion agored i niwed sydd gan blentyn eisoes megis unrhyw anghenion addysgol arbennig neu anableddau (SEND), cyflyrau iechyd meddwl presennol ac unigedd cymdeithasol;
  • amgylchiadau oddi ar-lein fel bwlio neu bwysau gan gyfoedion, teimladau fel hunan-barch isel neu ddelwedd corff gwael;
  • dylunio nodweddion llwyfannau a oedd naill ai'n annog ac yn galluogi plant i adeiladu rhwydweithiau mawr o bobl - pobl yn aml nad oedden nhw'n eu hadnabod; neu'n eu hamlygu i gynnwys a chysylltiadau nad oeddent wedi mynd ati i chwilio amdanynt; ac
  • amlygiad i gynnwys sy'n berthnasol yn bersonol, wedi'i dargedu, neu wedi'i gynhyrchu gan gymheiriaid, a deunydd a oedd yn apelio gan iddo gael ei ystyried yn ateb i broblem neu ansicrwydd.

Nododd yr astudiaeth y gall difrifoldeb unrhyw effaith amrywio rhwng plant. Roedd hyn yn amrywio o gynhyrfiad emosiynol bach dros dro (megis dryswch neu ddicter), newid ymddygiad dros dro neu effaith emosiynol ddofn (fel ymosodedd corfforol neu gyfyngu ar fwyta dros y tymor byr), i niwed seicolegol a chorfforol pellgyrhaeddol, difrifol (fel ymgilio cymdeithasol neu weithredoedd o hunan-niwed).

Agweddau plant a rhieni tuag at sicrwydd oedran

Mae trydedd astudiaeth ymchwil sydd wedi'i chyhoeddi heddiw – a gomisiynwyd ar y cyd gan Ofcom a Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth o dan ein rhaglen waith DRCF - yn ymchwilio'n ddyfnach i agweddau plant a rhieni tuag at sicrwydd oedran.[2]

Mae sicrwydd oedran yn derm eang sy'n cwmpasu ystod o dechnegau a ddylunnir i atal plant rhag cael mynediad at gynnwys i oedolion, sy'n niweidiol, neu fel arall yn amhriodol, ac i helpu llwyfannau i deilwra cynnwys a nodweddion i ddarparu profiad sy'n briodol i'w hoedran. Mae'n cwmpasu mesurau fel hunan-ddatgan (fel y trafodwyd uchod), dynodwyr caled megis pasbortau, a deallusrwydd artiffisial a systemau seiliedig ar fiometreg ymhlith eraill.

Mae'n nodi bod rhieni a phlant yn gefnogol yn fras o'r egwyddor o sicrwydd oedran, ond mae hefyd yn nodi bod rhai dulliau yn codi pryderon ynghylch preifatrwydd, mesurau rheoli rhieni, ymreolaeth plant a rhwyddineb defnyddio.

Dywedodd rhieni wrthym eu bod nhw'n poeni am gadw eu plant yn ddiogel ar-lein, ond ar yr un pryd, eu bod am ddysgu sut i reoli risgiau'n annibynnol drwy brofiad. Roedd llawer o rieni hefyd nad oeddent am i'w plant gael eu gadael allan o weithgareddau ar-lein y mae eu cyfoedion yn cael cymryd rhan ynddynt, a theimlodd eraill fod lefel aeddfedrwydd eu plant, yn hytrach na'u hoedran rhifol yn unig, yn brif ystyriaeth yn y rhyddid sydd ganddynt.

Roedd rhieni o'r farn y dylai'r ymdrech y mae dull sicrhau oedran yn gofyn amdano fod yn gymesur â'r risgiau potensial tybiedig. Roedd rhieni a phlant ill dau'n tueddu tuag at "ddynodwyr caled", fel pasbortau, ar gyfer gweithgareddau sydd bob amser wedi cael eu cyfyngu gan oedran, fel hapchwarae neu fynediad at bornograffi.

Roedd y cyfryngau cymdeithasol a hapchwarae yn tueddu i gael eu hystyried yn gymharol llai peryglus. Tueddai plant i ffafrio dull 'hunan-ddatgan' o sicrwydd oedran ar gyfer y llwyfannau a'r gwasanaethau hyn, oherwydd y rhwyddineb tybiedig o'u trechu ac awydd i'w defnyddio heb gyfyngiadau.

Teimlai rhai rhieni fod cyfyngiadau isafswm oedran ar gyfer y cyfryngau cymdeithasol a gemau yn eithaf mympwyol ac, fel yr amlygwn uchod, yn hwyluso mynediad eu plentyn. Wrth gael eu hysgogi gyda gwahanol ddulliau sicrhau oedran ar gyfer y cyfryngau cymdeithasol a gemau, roedd yn well gan rieni "gadarnhad rhiant" yn aml gan eu bod yn ystyried ei fod yn rhoi rheolaeth a hyblygrwydd iddynt.

Y Mesur Diogelwch Ar-lein

Bydd y Mesur Diogelwch Ar-lein yn gofyn i Ofcom asesu a chyhoeddi canfyddiadau ynghylch y risgiau o gynnwys niweidiol y gall plant ddod ar ei draws ar-lein.

Bydd hefyd yn mynnu bod y gwasanaethau sydd fewn y cwmpas y maent yn debygol o gael eu cyrchu gan blant yn asesu risgiau niwed i bobl ifanc sy'n defnyddio eu gwasanaeth, ac yn rhoi systemau a phrosesau cymesur ar waith i liniaru a rheoli'r risgiau hyn.

Rydym eisoes yn rheoleiddio llwyfannau rhannu fideos a sefydlir yn y DU a byddwn yn cyhoeddi ein canfyddiadau allweddol o'n blwyddyn lawn gyntaf o reoleiddio cyn bo hir. Bydd yr adroddiad hwn yn canolbwyntio ar y mesurau y mae llwyfannau wedi'u rhoi ar waith i ddiogelu defnyddwyr, gan gynnwys plant, rhag deunydd niweidiol ac yn nodi ein strategaeth ar gyfer y flwyddyn i ddod.

Nodiadau i olygyddion

  1. Methodolegau ymchwil:
    1. Yonder Consulting: Astudiaeth ymchwil feintiol i oedrannau plant sy'n ddefnyddwyr ar-lein (PDF, 992.6 KB). Cwblhawyd y gwaith maes gyda sampl o 1,039 o ddefnyddwyr cyfryngau cymdeithasol 8-17 oed ar chwe llwyfan poblogaidd. Y llwyfannau yn yr astudiaeth oedd: Facebook, Instagram, TikTok, Snapchat, Twitter a YouTube. Mae canlyniadau ar gyfer YouTube yn awgrymu efallai yr oedd rhai plant yn cyfeirio at YouTube Kids (y caniateir i blant iau gael proffil ar eu cyfer) a fydd wedi dylanwadu ar y canrannau cyfartalog.
    2. Revealing Reality: Ymchwil i ffactorau risg a allai dywys plant i niwed ar-lein (PDF, 132.9 KB). Cyflawnwyd yr ymchwil gyda 42 o blant rhwng 7 a 17 oed, a'u rhieni/gofalwyr. Roedd yn cynnwys cyfweliadau ethnograffig wyneb yn wyneb ac arsylwi, dyddiaduron digidol, recordio'r sgrîn a thracio cyfryngau cymdeithasol, a chyfweliadau dilynol pellach o bell.
    3. Revealing Reality: Agweddau teuluoedd tuag at sicrwydd oedran (PDF, 1.3 MB). Roedd yr ymchwil yn cynnwys cyfweliadau manwl â 18 o deuluoedd, yn cynnwys tasgau dyddiadur cyfryngau, ac wyth grŵp ffocws – pedwar gyda rhieni plant o oedrannau tebyg a phedwar gyda phlant mewn grwpiau oedran yn amrywio o 13 i 17 oed.
    4. Cynhaliodd Yonder Consulting dreial 'Gêm Ddifrifol' peilot (PDF, 550.6 KB) - Mae llwyfannau cyfryngau cymdeithasol yn cyhoeddi cyngor ar aros yn ddiogel ar-lein, ond mae pryderon nad yw plant yn ymgysylltu â'r wybodaeth hon. Rydym heddiw yn adrodd canfyddiadau treial peilot graddfa fach a brofodd effaith "gêm ddifrifol" fel dull o helpu plant i gadw'n fwy diogel ar-lein. Mae'n awgrymu y gall gwybodaeth ar ffurf gêm arwain at gaffael mwy o wybodaeth ac y gallai gael dylanwad cadarnhaol ar ymddygiad ar-lein. Cynhaliwyd yr ymchwil gyda sampl o 600 o bobl ifanc 13–17 oed.

    Ni ddylid ystyried bod canfyddiadau'r astudiaethau ymchwil hyn yn adlewyrchiad o unrhyw safbwynt polisi y bydd Ofcom o bosib yn ei fabwysiadu pan fyddwn yn ymgymryd â'n rôl fel rheoleiddiwr diogelwch ar-lein, neu o agwedd Ofcom tuag at unrhyw wasanaeth ar-lein.

  2. Y dulliau sicrhau oedran yr ymchwiliwyd iddynt yn ystod yr ymchwil oedd:
    1. Hunan-ddatgan: mae'r defnyddiwr yn nodi ei oed neu ei ddyddiad geni
    2. Dynodwyr caled: cyflwyno dogfennau swyddogol, neu sgan o'r fath ddogfennaeth, megis cerdyn credyd, pasbort, neu drwydded yrru
    3. Dadansoddi delwedd yr wyneb (amcangyfrif oedran): dadansoddir delwedd wynebau gan system deallusrwydd artiffisial sydd wedi cael ei hyfforddi ar gronfa ddata o ddelweddau wynebol o oedrannau hysbys
    4. Proffilio a thybiaeth ymddygiadol (amcangyfrif oedran): dadansoddi ymddygiadau a rhyngweithiadau defnydd defnyddiwr o wasanaeth, sydd fel arfer wedi'i awtomeiddio, i amcangyfrif oedran
    5. Cadarnhad gan riant/gwarcheidwad: cadarnheir oedran neu ystod oedran defnyddiwr gan ddeiliad cyfrif cysylltiedig arall, er enghraifft rhiant neu warcheidwad, gan ddefnyddio eu cyfrif i gadarnhau oedrannau eu plant a'u cyfrifon

Related content