1 Ebrill 2022

Bywyd Ar-lein: Ofcom yn lansio podlediad diogelwch ar-lein

Heddiw, mae Ofcom wedi lansio Bywyd Ar-lein, podlediad newydd i rannu'n themâu sy'n ymwneud â diogelwch ar-lein. Trwy gydol y gyfres byddwn ni'n siarad ag arbenigwyr am yr pethau go iawn sy'n digwydd ar-lein, sut mae pobl yn teimlo amdanynt, a beth y gellir ei wneud i helpu pawb i fyw bywydau mwy diogel ar-lein.

Mae pennod gyntaf Bywyd Ar-lein gan Ofcom yn trafod gwybodaeth anghywir, camwybodaeth, a sut i'w nodi. Mae ein hymchwil ddiweddaraf yn dangos bod 30% o bobl yn methu â chwestiynu gwybodaeth anghywir, tra bod 6% - un o bob 20 defnyddiwr rhyngrwyd - yn credu popeth maen nhw'n ei weld.

Rydym yn siarad â Rebecca Skippage, Golygydd Camwybodaeth y BBC, Luca Antilli, Pennaeth Ymchwil Ymwybyddiaeth o'r Cyfryngau Ofcom, a'r Athro Rasmus Nielsen o Sefydliad Reuters, i ddadbacio'r canfyddiadau hyn a deall beth maent yn ei olygu o ran lledaenu gwybodaeth anghywir.

Gwrandewch ar The Genuine Article: Tackling Misinformation yma.

Mae'r Mesur Diogelwch Ar-lein yn destun trafod yn Senedd y DU ar hyn o bryd a bydd yn rhoi cyfrifoldebau newydd i Ofcom i helpu cadw pobl yn ddiogel ar-lein. Mae'r mesur yn pennu rheolau newydd y mae'n rhaid i lwyfannau cyfryngau cymdeithasol eu dilyn, gan geisio diogelu pobl rhag cynnwys niweidiol ac anghyfreithlon ar yr un pryd â chynnal rhyddid lleferydd.

Gyda phennod newydd bob mis, bydd Bywyd Ar-lein gan Ofcom yn ymchwilio i sut mae'r Mesur Diogelwch Ar-lein yn effeithio ar bob un ohonom. Byddwn yn trafod themâu gan gynnwys sut i ddiogelu plant rhag niwed ar-lein, sut i taclo terfysgaeth ar-lein a sut y bydd angen i lwyfannau technoleg arloesi er mwyn dilyn y rheolau newydd hyn. Ymunwch â ni am daith Bywyd Ar-lein.

Ble alla i wrando a thanysgrifio i Bywyd Ar-lein?

See also...