17 Mehefin 2022

Gwasanaeth galwadau fideo 999 newydd yn lansio ar gyfer defnyddwyr iaith arwyddion

Erbyn hyn gall ddefnyddwyr Iaith Arwyddion Prydeinig gysylltu â'r gwasanaethau brys trwy wneud galwad fideo, o dan reolau newydd Ofcom a ddaw i rym heddiw.

Mae Ofcom am i ddefnyddwyr Iaith Arwyddion Prydain (BSL) gael mynediad cyfatebol i'r gwasanaethau brys. Y llynedd, felly, bu i ni gyhoeddi rheolau newydd i gyflwyno gwasanaeth cyfnewid fideo 24/7 am ddim er mwyn i ddefnyddwyr BSL gysylltu â'r gwasanaethau brys, trwy ap symudol a gwefan benodedig.

Ers hynny, rydym wedi cymeradwyo gwasanaeth cyfnewid fideo brys gan Sign Language Interactions, a chaniatáu amser i ddylunio'r ap a'r wefan benodedig. Daw ein rheolau i rym heddiw, ac mae'r gwasanaeth newydd – o'r enw 999 BSL – bellach wedi'i lansio.

Bydd galluogi defnyddwyr BSL i ddefnyddio eu hiaith gyntaf yn ei gwneud yn haws iddynt alw am gymorth mewn argyfyngau. Bydd modd iddynt ddisgrifio natur y sefyllfa frys yn well ac i ddeall yn well y cyfarwyddiadau a roddir gan y gwasanaethau brys a allai achub bywydau.

Yn hanesyddol, mae pobl sydd â nam ar eu clyw neu eu lleferydd wedi medru cysylltu â'r gwasanaethau brys drwy gyfnewid testun neu drwy anfon neges destun (SMS) at 999. Fodd bynnag, mae hyn yn dibynnu ar Saesneg ysgrifenedig, a all arwain at gamddealltwriaeth ar gyfer defnyddwyr BSL mewn sefyllfaoedd brys.

Gallwch chi fynd am flynyddoedd heb yr angen am ffonio 999. Ond mae gwybod y gallwch alw am gymorth ar eich ffôn symudol yn rhywbeth y dylem i gyd allu dibynnu arno, ac mae'n rhywbeth y mae llawer ohonom yn ei gymryd yn ganiatol.

Mae ein rheolau newydd yn golygu y gall pobl fyddar nawr wneud galwad fideo mewn argyfwng, a fydd o fudd i bawb ac yn achub bywydau.

Katie Hanson, Uwch Reolwr Polisi Defnyddwyr yn Ofcom 

Sut mae'n gweithio

Gall rhywun sy'n fyddar wneud galwad fideo i ddehonglydd BSL cymwysedig a phrofiadol mewn canolfan alwadau. Mae'r dehonglydd yn trosi'r hyn y mae'r person byddar yn ei arwyddo i Saesneg llafar er mwyn i'r gwasanaethau brys ei glywed, ac yn arwyddo'r hyn y mae'r gwasanaethau brys yn ei ddweud i'r person byddar.

Dylai unrhyw ddata y mae'r cwsmer yn ei ddefnyddio i wneud yr alwad fideo'n 'gyfradd sero' ac felly dylai'r gwasanaeth ar gyfer y defnyddiwr fod ar gael am ddim - yn yr un modd yn union â galwadau brys eraill.

Ymgynghori â defnyddwyr iaith arwyddion

Fel rhan o broses ymgynghori gyhoeddus Ofcom i gyflwyno'r gwasanaeth newydd, bu i ni ymgynghori yn BSL a Saesneg a gwahodd pobl i ymateb yn ysgrifenedig, neu yn BSL. Cawsom nifer fawr o ymatebion yn cefnogi'r cynigion.

Dwedodd rhai pobl fyddar wrthym na ddylai fod angen i ddefnyddwyr gofrestru na chael cyfrinair i ddefnyddio gwasanaeth cyfnewid fideo brys. Bu i ni gymryd hyn i ystyriaeth yn ein rheolau newydd, ac ni fydd angen i bobl gofrestru i ddefnyddio'r gwasanaeth.

Dwedodd pobl fyddar wrthym hefyd fod y gwasanaethau cyfnewid testun ac SMS brys presennol yn bwysig a bod yn rhaid eu cadw. Bydd y ddau'n parhau i gael eu darparu, ochr yn ochr â'r gwasanaeth cyfnewid fideo brys newydd.

Hoffem ddiolch i bawb a roddodd o'u mewnbwn a'u cyngor fel rhan o'r broses hon.

Related content