10 Mehefin 2022

Drôns masnachol ar fin esgyn i'r awyr o dan gynlluniau newydd Ofcom

Mae Ofcom yn clirio'r ffordd ar gyfer chwyldro mewn gwasanaethau masnachol a ddarperir gan ddrôns, o dan gyfundrefn drwyddedu newydd a gynigir heddiw.

Mae datblygiadau mewn technoleg wedi arwain at drôns o faint a chymhlethdod cynyddol sy'n hedfan dros bellteroedd hirach – mewn rhai achosion yn teithio y tu hwnt i olwg y gweithredwr.

Mae hyn wedi creu amrywiaeth o gyfleoedd masnachol ar draws sawl diwydiant, o ddanfon ar garreg y drws i gynnal a chadw peiriannau. Ond mae angen rheoli drôns pellter hir, uchder uchel o'r ddaear o hyd ac mae angen iddynt anfon data neu fideo yn ôl at y gweithredwr.

Rydym wedi bod yn cydweithio'n agos âr Llywodraeth y DU a'r Awdurdod Hedfan Sifil (CAA) i ddatblygu ymagwedd newydd at awdurdodi'r offer radio sydd ei angen ar y drôns hyn. Rydym yn cynnig cyflwyno trwyddedau sbectrwm newydd sy'n caniatáu i weithredwyr ddefnyddio rhwydweithiau symudol a lloeren i gyflawni hyn.

Esgyn i'r awyr

Fel rheoleiddiwr y sbectrwm radio, mae Ofcom ar hyn o bryd yn caniatáu i ddrôns ddefnyddio tonnau awyr a ddynodir ar gyfer awyrennau tegan neu ddi-wifr. Nid oes angen trwydded ar gyfer hyn, ond mae'n anaddas ar gyfer y gwasanaethau a gynigir gan y genhedlaeth ddiweddaraf o ddrôns.

Yn ddiweddar, rydym wedi bod yn cefnogi treialon arloesol sydd wedi galluogi sefydliadau i ymchwilio, datblygu a phrofi mathau newydd o offer di-wifr ar ddrôns. Mae’r rhain yn cynnwys:

  • Y Post Brenhinol yn ymchwilio i 'lwybrau drôn i'r post' i wneud danfoniadau i gymunedau anghysbell, gyda hediadau prawf ar gyfer y gwasanaeth newydd yn cyflawni taith o bron i 100 milltir yng nghefn gwlad Yr Alban;
  • cyswllt cludiant rhwng Ysbyty Southampton ac Ysbyty St Mary's ar Ynys Wyth er mwyn danfon cyflenwadau meddygol brys yn ystod pandemig y coronafeirws; a
  • defnyddio drôns mewn lleoliadau diwydiannol i archwilio, monitro a chynnal a chadw peiriannau.

Gan ddilyn canlyniadau addawol y prosiectau arloesol hyn, rydym yn cynnig awdurdodi defnyddio ystod o dechnolegau i gefnogi'r defnydd o drôns nad yw wedi'i ganiatáu ar hyn o bryd.

Hedfan yn ddiogel

Mae'r CAA yn gosod y rheolau sy'n llywodraethu sut a ble y gellir hedfan drôns masnachol yn ddiogel. Ynghyd â Llywodraeth y DU, mae wrthi'n datblygu fframwaith ar gyfer sut y gellir eu hintegreiddio i ofod awyr y DU.

Byddai trwyddedau newydd Ofcom hefyd yn awdurdodi defnyddio offer diogelwch i alluogi drôns i weithredu'n ddiogel yng ngofod awyr y DU.

Dylai hyn alluogi'r CAA a'r Adran Drafnidiaeth i ddatblygu ymhellach eu cynigion polisi ar gyfer gofod awyr ehangach.

Mae gan ddrôns masnachol y potensial i ddod â llu o fanteision, megis darparu cyflenwadau hanfodol neu gynorthwyo gweithrediadau chwilio ac achub mewn lleoliadau anghysbell. Rydym am sicrhau y gall busnesau sy'n arloesi'r prosiectau hyn gael mynediad i'r sbectrwm sydd ei angen arnynt i harneisio potensial llawn y dechnoleg drôn ddiweddaraf.

Helen Hearn, Cyfarwyddwr Dros Dro Grŵp Sbectrwm Ofcom

Nodiadau i olygyddion

  1. Mae’r ymgynghoriad ar ein cynigion ar agor tan 5 Medi 2022. Rydym yn bwriadu cyhoeddi ein penderfyniad erbyn mis Tachwedd.
  2. Mae ein cynigion ond yn ymdrin â'r sbectrwm radio y gellir ei awdurdodi i'w ddefnyddio ac nid ydynt yn disodli unrhyw reolau neu ofynion diogelwch awyrennol. Felly, nid yw trwydded sbectrwm drôn o reidrwydd yn dangos bod y CAA wedi caniatáu i'r offer gael ei gludo.
  3. Er bod y drwydded arfaethedig yn darparu'r fframwaith ar gyfer awdurdodi defnyddio terfynellau symudol ar drôn masnachol, byddai angen i'r trwyddedai fod wedi cael cytundeb ysgrifenedig gan weithredwr y rhwydwaith symudol cyn ei ddefnyddio. Mater i bob gweithredwr symudol yw penderfynu a ydynt am ganiatáu'r defnydd hwn, oherwydd efallai na fyddant mewn sefyllfa i ganiatáu'r fath ddefnydd ar eu rhwydweithiau.

See also...