17 Mehefin 2022

Rheolau newydd ar fanylion contract cryno a chlir

Mae'n rhaid rhoi gwybodaeth gliriach i gwsmeriaid telathrebu cyn iddynt ymrwymo i gytundeb newydd, o dan reolau newydd Ofcom a ddaw i rym heddiw.

Erbyn hyn mae'n rhaid i gwsmeriaid dderbyn crynodeb byr ar un dudalen o brif delerau'r contract cyn ymrwymo i gontract, gan gynnwys enghreifftiau clir o sut y bydd unrhyw gynnydd mewn prisiau yn effeithio ar y pris y maent yn ei dalu.

Mae hyn wedi'i ddylunio i helpu pobl i osgoi cael eu dal allan gan godiadau annisgwyl mewn prisiau, ar adeg pan fo cyllidebau aelwydydd o dan bwysau mawr.

Mae'n rhaid i'r crynodeb gynnwys gwybodaeth allweddol am gyflymder y gwasanaeth, y pris a hyd y contract. Mae hefyd yn mynnu i ddarparwyr esbonio unrhyw daliadau os bydd cwsmer yn penderfynu dod â'i gontract i ben yn gynnar, yn ogystal â'r pris y byddant yn ei dalu ar ôl i'w gontract cyfnod penodol ddod i ben.

Gall cwsmeriaid ag anableddau hefyd ofyn am gael yr wybodaeth mewn fformat hygyrch.

Mae rhai darparwyr yn cynnig cytundebau sy'n cynnwys cynnydd mewn prisiau gysylltiedig â chwyddiant sy'n dod i rym yn ystod y contract.

O heddiw ymlaen, pan fydd cwsmeriaid yn dechrau contract newydd, bydd angen i ddarparwyr sy'n defnyddio'r cyfrifiad hwn roi enghraifft syml i gwsmer o sut mae hyn yn debygol o effeithio ar y pris y byddant yn ei dalu mewn punnoedd a cheiniogau.

Os yw'r cynnydd yn defnyddio mynegai chwyddiant fel CPI, dylai darparwyr ddefnyddio'r ffigur diweddaraf ar gyfer yr enghraifft.

Mae'r rheolau newydd yn ei gwneud yn haws i gwsmeriaid adael eu contract os yw darparwr yn gwneud unrhyw newidiadau nad ydynt o fudd i'r cwsmer i'r contract na fu i'r cwsmer gytuno iddynt wrth gofrestru.

Er enghraifft, os bydd darparwr yn dechrau codi mwy am filiau papur, byddai angen hysbysu'r cwsmeriaid sy'n defnyddio'r gwasanaeth hwnnw o leiaf fis ymlaen llaw am y newid a chynnig yr hawl i adael, heb gosb.

At hynny, bydd angen i ddarparwyr hysbysu pob cwsmer am gynnydd yn eu taliad talu'n hwyr ar yr un sail.

Bydd ein rheolau newydd yn rhoi gwybodaeth allweddol i gwsmeriaid am y contract y maent yn ymrwymo iddo, mewn ffordd fer a syml. Bydd hyn yn golygu y bydd pobl yn derbyn enghraifft syml o unrhyw gynnydd mewn prisiau, a fydd yn eu helpu i wneud dewis cwbl wybodus am pa gytundeb sy'n gweithio orau iddynt.

Cristina Luna-Esteban, Cyfarwyddwr Diogelu Defnyddwyr Telathrebu Ofcom

Nodiadau

  • Ni ddylai crynodebau unigol o gontractau symudol, band eang, llinell dir a theledu-drwy-dalu fod yn hwy nag un dudalen. Ni all crynodebau o gontractau wedi'u bwndelu fod yn fwy na thair tudalen.
  • Gallai enghraifft o eiriad sy'n nodi cynnydd mewn prisiau ddweud:
    Ym mis Ebrill 2023 bydd eich pris yn codi fesul swm sy'n hafal i'r gyfradd CPI a gyhoeddwyd ym mis Mawrth y flwyddyn honno. Gan ddefnyddio gwerth CPI mis Mai 2022 o 9%, byddai hyn yn golygu y byddai eich pris misol o £40 yn codi i £43.60 o fis Ebrill y flwyddyn nesaf.

Related content