4 Mai 2022

Plusnet yn ymuno â'r cynllun iawndal awtomatig

Heddiw, mae Plusnet (gan gynnwys John Lewis Broadband) wedi ymuno â'r cynllun iawndal awtomatig, sy'n golygu y bydd ei gwsmeriaid band eang a llinell dir yn cael arian yn ôl pan fydd pethau'n mynd o chwith, heb orfod gofyn amdano.

Bydd cwmnïau sydd wedi ymrwymo i'r cynllun yn darparu iawndal am oedi wrth atgyweirio ar ôl colli gwasanaeth, colli apwyntiadau atgyweirio neu ddarpariaeth, ac oedi cyn dechrau gwasanaeth newydd.

Plusnet (gan gynnwys John Lewis Broadband) yw'r darparwr diweddaraf i ymuno â'r cynllun ers ei lansio ym mis Ebrill 2019. Mae deg darparwr bellach wedi ymrwymo iddo.

Cael gwybod mwy am y cynllun iawndal awtomatig, gan gynnwys cymhwystra neu iawndal a'r darparwyr sydd wedi ymrwymo iddo hyd yma.

Related content