9 Mai 2022

Cyflwyno sbectrwm tonfedd filimetr – beth mae angen i chi ei wybod

Gallai pobl elwa o fand eang cyflymach a gwasanaethau symudol o ansawdd gwell, wrth i Ofcom gynllunio i ddarparu sbectrwm tonfedd filimetr ar gyfer defnyddiau newydd.

Allwch chi ddim weld na theimlo sbectrwm radio. Ond mae dyfeisiau sy’n cyfathrebu’n ddiwifr – fel setiau teledu, allweddi car digyswllt, monitorau babis, meicroffonau diwifr a lloerenni - yn ei ddefnyddio. Mae ffonau symudol yn defnyddio sbectrwm i gysylltu â mast lleol er mwyn i bobl allu gwneud galwadau ffôn a defnyddio'r rhyngrwyd.

Mae Ofcom yn gyfrifol am reoli'r sbectrwm radio. Dim ond hyn a hyn o sbectrwm radio sydd ar gael, felly mae angen ei reoli’n ofalus. Mae bandiau penodol yn cael eu defnyddio at ddibenion gwahanol hefyd. Er enghraifft, mae cwmnïau symudol yn defnyddio rhannau gwahanol i gwmnïau teledu. Felly, mae angen ei reoli i sicrhau nad oes ymyriant i wasanaethau ac nad oes amharu ar bobl ac ar fusnesau.

Yn ein dull o reoli sbectrwm, rydyn ni eisiau sicrhau bod y sbectrwm yn cael ei ddefnyddio'n effeithlon, ac mewn ffordd sy'n hyrwyddo cystadleuaeth ac arloesedd ymysg darparwyr, sydd yn ei dro yn creu buddion i ddefnyddwyr.

Rydym yn bwriadu darparu sbectrwm tonfedd filimetr (mmWave) fel y gellir ei ddefnyddio ar gyfer 5G, band eang symudol, a defnyddiau newydd eraill. Mae gan hyn y potensial i ddatgloi mwy o gapasiti a cyflymderau uwch, a allai alluogi pobl i elwa o fand eang cyflymach, gwasanaethau symudol o safon well, a gwasanaethau blaengar newydd.

Capasiti rhwydwaith gwell

Un mantais mawr y bydd sbectrwm mmWave yn rhoi gwasanaethau gwell i bobl pan fyddant mewn ardaloedd gorlawn. Weithiau mewn lleoedd lle mae nifer fawr o bobl i gyd yn defnyddio eu ffonau symudol ar yr un pryd, gall gwasanaethau fynd yn araf, sy'n peri rhwystredigaeth i ddefnyddwyr symudol. Bydd sbectrwm mmWave yn helpu i oresgyn hyn trwy alluogi cynnydd sylweddol yng nghapasiti'r rhwydwaith (y maint o ddata y mae rhwydweithiau symudol yn ei gludo).

Bydd hyn yn newyddion da i bobl mewn strydoedd prysur, cymudwyr sy'n defnyddio gorsafoedd rheilffordd gorlawn, neu bobl sy'n ymweld â lleoliadau chwaraeon neu adloniant mawr.

Gellir defnyddio'r sbectrwm hwn hefyd i ddarparu gwasanaethau band eang di-wifr sefydlog sy'n darparu cyflymder gigabit, gan gynnwys mewn ardaloedd anodd eu cyrraedd. Bydd hyn yn rhoi dewis gwell o wasanaethau band eang cyflymder uchel i bobl mewn gwahanol rannau o'r DU.

Cefnogi amrywiaeth o anghenion di-wifr

Un o fanteision eraill y sbectrwm mmWave yw y gall cefnogi busnesau sydd ag anghenion di-wifr penodol. Gellir defnyddio'r sbectrwm hwn i ddarparu rhwydweithiau preifat ar draws amrywiaeth eang o sectorau, a all alluogi pethau fel awtomeiddio ffatrïoedd a gweithgynhyrchu, ffermio clyfar yn y byd amaeth, a rhwydweithiau diogel yn null campws ar safleoedd busnes.

Er bod darpariaeth mmWave ledled y byd yn ei chamau cymharol gynnar, mae eisoes wedi'i chyflwyno ar raddfa fasnachol yn UDA, ac mae rhywfaint o sbectrwm mmWave wedi cael ei ddarparu mewn gwledydd yn Ewrop gan gynnwys Yr Almaen, Yr Eidal a Ffindir, a bydd mwy o wledydd yn gwneud yr un peth dros y blynyddoedd i ddod.

Oherwydd bod mmWave yn gweithredu ar amleddau uwch, mae rhai pobl wedi codi pryderon ynghylch effeithiau negyddol ar iechyd.

Yn y DU, mae Asiantaeth Diogelwch Iechyd y DU (UKHSA) yn arwain ar faterion iechyd sy’n ymwneud â meysydd electromagnetig amleddau radio, neu donnau radio. O ran 5G (sy'n cynnwys y defnydd o mmWave), dyma farn UKHSA: ‘y disgwyl yw y bydd y cyswllt cyffredinol yn parhau i fod yn isel o’i gymharu â’r canllawiau, ac oherwydd hynny, ni ddylai fod unrhyw ganlyniadau i iechyd y cyhoedd’.

Prif gyngor UKHSA ynghylch tonnau radio o orsafoedd sylfaen yw y dylid mabwysiadu canllawiau'r Comisiwn Rhyngwladol ar Ddiogelu rhag Pelydriad Anionieddiol (ICNIRP) er mwyn cyfyngu ar amlygiad.  Bydd unrhyw drwyddedau mmWave a roddir gan Ofcom yn cynnwys cymal sy'n mynnu cydymffurfiaeth â'r canllawiau hyn. Mae mwy o wybodaeth am y pwnc yma ar gael ar ein gwefan.

Related content