6 Ebrill 2022

Beth yw sbectrwm?

Allwch chi ddim weld na theimlo sbectrwm radio. Ond mae angen sbectrwm ar bob dyfais sy’n cyfathrebu’n ddi-wifr – mae'r rhain yn cynnwys setiau teledu, allweddi car digyswllt, monitorau babis, meicroffonau di-wifr a lloerenni.

Hefyd, mae ffonau symudol yn defnyddio sbectrwm i gysylltu â mast lleol gan alluogi chi i wneud galwadau ffôn a defnyddio'r rhyngrwyd.

Dim ond hyn a hyn o sbectrwm sydd ar gael, felly mae angen ei reoli’n ofalus. Mae bandiau penodol o sbectrwm yn cael eu defnyddio at ddibenion gwahanol hefyd. Er enghraifft, mae cwmnïau symudol yn defnyddio rhannau gwahanol o'r sbectrwm i gwmnïau teledu. Felly, mae angen ei reoli i sicrhau nad oes ymyriant i wasanaethau ac nad oes amharu ar bobl ac ar fusnesau.

Mae sbectrwm radio, a elwir hefyd yn donnau radio, yn ffurfio rhan isaf y sbectrwm electromagnetig ehangach, ychydig yn is nag isgoch a golau gweladwy.

Y sbectrwm electromagnetig

The electromagnetic spectrum includes the radio waves spectrum, infrared, visible light, ultraviolet and x-rays above this. The radio spectrum covers frequencies between 3 Hz and 3 THz. The diagram illustrates that as frequency increases, the length of the waves gets shorter.

Mae gallu tonnau radio i deithio drwy'r awyr, y gofod a deunyddiau solet yn golygu y gellir eu defnyddio ar gyfer radiogyfathrebu. Mae'r defnydd o'r tonnau hyn yn caniatáu i deledu gael ei ddarlledu i'ch cartref, neu i chi gael sgwrs gan ddefnyddio ffôn symudol. Ond mae llawer mwy o ddefnyddiau ar gyfer y tonnau hyn.

Ar y lefel fwyaf sylfaenol, mae system radiogyfathrebu yn ymwneud â thrawsyrrydd yn cymryd gwybodaeth (data fel arfer) a'i droi'n signal radio ar amledd penodol, a derbynnydd yn derbyn y signal radio ac yn tynnu'r wybodaeth ohono. Fodd bynnag, weithiau gall ymyriant, fel signalau o drawsyryddion eraill, amharu ar y cyfathrebu hwn rhwng y trawsyrrydd a'r derbynnydd. Mae hyn yn gallu diraddio cyfathrebu neu o bosib ei atal yn gyfan gwbl.

Am y rheswm hwn, ni ellir defnyddio sbectrwm radio mewn ffordd afreolus. Er mwyn atal ymyriant rhwng defnyddwyr, mae trawsyrru tonnau radio wedi'i reoleiddio gan gyfreithiau cenedlaethol.

Beth yw rôl Ofcom mewn sbectrwm?

Mae Ofcom yn gyfrifol am awdurdodi a rheoli'r defnydd o'r sbectrwm radio yn y DU ac yn cynrychioli'r DU yn rhyngwladol.

Mae'r sbectrwm radio yn adnodd meidraidd – allwn ni ddim 'greu' amleddau newydd. Mae'r galw am fynediad i'r sbectrwm wedi tyfu'n barhaus a bydd yn parhau i dyfu yn y dyfodol. O ganlyniad, mae angen i ni a diwydiant ddod o hyd i ffyrdd o wasgu mwy o ddefnyddwyr i mewn heb achosi ymyriant. Er na allwn greu sbectrwm newydd, gall technolegau newydd ei alluogi i gael ei ddefnyddio'n fwy effeithiol, fel y gall wasanaethu mwy o ddefnyddwyr a defnyddiau, a helpu i drawsnewid y ffordd yr ydym yn byw ac yn gweithio.

Sut mae sbectrwm yn cael ei ddefnyddio yn y DU?

Mae pawb yn y DU – pobl, busnesau a sefydliadau cyhoeddus – yn defnyddio amrywiaeth o wasanaethau a thechnolegau di-wifr yn ddyddiol.

Rhai o'r defnyddiau mwyaf cyffredin o sbectrwm ymysg defnyddwyr yw:

  • Pori'r rhyngrwyd gartref neu wrth symud gan ddefnyddio rhwydwaith symudol neu gysylltiad di-wifr.
  • Gwneud galwad ffôn symudol neu yrru neges destun gan ddefnyddio rhwydwaith symudol.
  • Gwylio'r teledu neu wrando ar y radio, trwy erial neu ddysgl lloeren.
  • Defnyddio cysylltiad Bluetooth i gysylltu â dyfeisiau personol ac yn y cartref.
  • Cyrchu gwasanaethau llywio ar ffôn clyfar neu satnav yn y car gan ddefnyddio signal a ddarperir gan loeren.
  • Band eang lloeren a di-wifr ar gyfer cartrefi nad ydynt wedi'u cysylltu â rhwydwaith sefydlog dibynadwy, er enghraifft y rhai mewn ardaloedd anghysbell.
Some of the ways we use spectrum, as described in the list above. These include browsing the internet at home, making a mobile phone call, watching TV and using an in-car SatNav.

Enghreifftiau o'r defnydd o sbectrwm

Yn ychwanegol at ddefnydd defnyddwyr o sbectrwm, mae llawer o fusnesau a sefydliadau yn gwneud defnydd arbenigol o sbectrwm i'w helpu i reoli eu busnes yn effeithiol a darparu gwasanaethau. Mae rhai o brif ddefnyddiau masnachol sbectrwm yn cynnwys:

  • Llongau - sy'n defnyddio ystod o offer radio morol ar gyfer cyfathrebu, llywio, i gadw golwg ar longau eraill ac i sicrhau diogelwch y bobl sydd arnynt.
  • Efallai y bydd gan awyren fasnachol nodweddiadol dros ugain o systemau radio awyrennol ar gyfer swyddogaethau cyfathrebu, llywio a gwyliadwriaeth.
  • Mae defnyddwyr radio busnes yn amrywio o gwmnïau tacsis a ffatrïoedd, i ysbytai, cartrefi gofal, safleoedd diwydiannol, rhwydweithiau cyfleustodau a gweithredwyr trafnidiaeth.
  • Mae seryddiaeth radio a gweithgareddau gwyddor y gofod eraill yn cyfrannu at ein gwybodaeth am y bydysawd. Er enghraifft, mae lloerenni arsylwi'r ddaear yn cywain data am y ddaear a'i atmosffer, a ddefnyddir ar gyfer rhagolygon tywydd, monitro amgylcheddol, ymchwil i newid yn yr hinsawdd a llawer o gymwysiadau eraill.
  • Mae darlledwyr a threfnwyr digwyddiadau yn defnyddio offer gwneud rhaglenni a digwyddiadau arbennig (fel meicroffonau di-wifr, camerâu di-wifr, monitorau yn y glust) ar gyfer casglu newyddion, digwyddiadau chwaraeon, cyngherddau byw, ffilmiau, theatr, gweithgareddau crefyddol ac addysgol.
  • Mae gweithredwyr symudol, darlledwyr ac eraill yn defnyddio cysylltiadau sefydlog (a elwir hefyd yn gysylltiadau microdon) i anfon llawer iawn o ddata yn ddi-wifr rhwng dau bwynt neu fwy, fel cysylltu trawsyrrydd symudol â'r rhwydwaith craidd.

Mae sbectrwm hefyd yn cael ei ddefnyddio'n sylweddol gan y sector cyhoeddus, gyda'r rhan fwyaf o'r sbectrwm hwn ar gael at ddefnydd amddiffyn.

Related content