22 Medi 2023

A yw awtochwarae yn ystumio’r hyn rydym yn ei wylio ar-lein?

Mae modd defnyddio awtochwarae ac awtoneidio i danseilio – neu wella – mesurau diogelwch ar-leins.

Gall negeseuon sy’n tynnu sylw defnyddwyr at gynnwys a allai fod yn niweidiol chwarae rôl sylweddol. Gwnaethom ni ganfod, ar ôl gwylio un o’r rhybuddion hyn, bod hyd at 51% o gyfranogwyr wedi dewis osgoi cynnwys a allai fod yn niweidiol.

Ond mae tystiolaeth ar gael bod yr amgylchedd pori ehangach yn siapio ymddygiad defnyddwyr, ac nid bob amser mewn ffordd gadarnhaol. Gall nodweddion fel awtochwarae (sef pan fydd y fideo nesaf yn dechrau chwarae heb i ddefnyddwyr ei gychwyn) a sgrolio diddiwedd hyrwyddo ymddygiadau caethiwus ar-lein neu wneud i ddefnyddwyr deimlo llai o reolaeth. Mae hyn yn codi’r posibilrwydd y gallent ddylanwadu ar ba mor effeithiol yw nodweddion diogelwch fel rhybuddion.

Yn ein treial diweddaraf, fe wnaethom ni ganolbwyntio ar awtochwarae. Mae clipiau’n chwarae’n awtomatig pan fyddwch chi’n sgrolio ar Facebook neu Twitter/X. Ar YouTube, mae fideo newydd yn chwarae’n awtomatig ar ôl wyth eiliad.

Gwyddom fod rhybuddion yn gallu bod yn effeithiol pan fyddant yn gofyn i ddefnyddwyr stopio a gwneud dewis. Ond a yw’r effaith honno’n cael ei thanseilio o’i chyfuno ag awtochwarae? Os felly, mae hynny’n cynyddu’r risg y gellid defnyddio awtochwarae i gysylltu defnyddwyr â chynnwys a allai fod yn niweidiol yn hytrach na’u helpu i wneud dewisiadau gwybodus am ei wylio.

Ond mae'n bwysig cofio bod modd defnyddio'r rhan fwyaf o saernïaeth dewis ar-lein i roi cymorth, yn ogystal â thrafferth, i ddefnyddwyr. Yn ogystal â phrofi a allai awtochwarae wneud rhybuddion yn llai effeithiol, fe wnaethom ni hefyd brofi a fyddai awtoneidio – sef sefydlu mai’r rhagosodiad yw nad yw ddefnyddwyr yn gweld cynnwys oni bai eu bod yn clicio i’w weld – yn gallu gwella’r rhybuddion.

Fe wnaethom ni ofyn i 2,800 o oedolion ddefnyddio model o lwyfan rhannu fideos (VSP)

Cafodd pob person ei roi ar hap mewn gwahanol grwpiau, a dangoswyd chwe chlip fideo mewn trefn ar hap. Roedd y fideos yn gymysgedd o glipiau niwtral a chlipiau a allai fod yn niweidiol, gyda neges rybudd cyn y clipiau a allai fod yn niweidiol. Fe wnaethom ni amrywio’r negeseuon rhybudd rhwng y grwpiau i weld yr effaith.

Yn gyntaf, fe wnaethom ni sefydlu llinell sylfaen i ddeall sut byddai’r cyfranogwyr yn ymateb i neges rybudd syml (fel yn y llun).

Yna, fe wnaethom ni ychwanegu awtoneidio ac awtochwarae. Byddai’r clipiau niweidiol naill ai’n neidio neu’n chwarae’n awtomatig ar ôl pum eiliad o ddiffyg gweithgaredd. Roedd y cyfranogwyr yn gallu gwneud eu penderfyniad eu hunain yn ystod y cyfnod hwnnw o bum eiliad.

Video may contain sensitive material prompt Video may contain sensitive material prompt Video may contain sensitive material prompt

Roeddem yn disgwyl i’r rhybudd awtoneidio leihau’r gwylio, ac i’r rhybudd awtochwarae ei gynyddu. Yr hyn nad oeddem yn ei wybod oedd pa mor aml y byddai cyfranogwyr yn gadael i’r rhagosodiad ddigwydd yn hytrach na gwneud dewis gweithredol ar gyfer pob un, na beth byddem yn ei weld o ran maint yr effaith.

------------------------------------------------------

I ymateb i’r neges rybudd llinell sylfaen, dewisodd ychydig o dan un o bob pedwar cyfranogwr neidio dros y fideos. Roedd rhaid i’r cyfranogwyr glicio i neidio neu chwarae’r fideo. Mae hyn yn dangos i ni beth mae defnyddwyr yn ei ddewis heb ddylanwad awtochwarae neu awtoneidio.

Baseline alert messagePan fyddwn ni'n cyflwyno’r nodweddion hyn, mae ymddygiad cyfranogwyr yn newid yn sylweddol. Roedd awtoneidio wedi achosi i'r gyfran sy’n neidio gynyddu i 48%. Roedd awtochwarae wedi lleihau’r neidio i 16% yn unig, gan arwain at fwy nag wyth o bob deg yn dechrau gwylio’r clipiau. Mae gwahaniaeth amlwg ym maint yr effaith rhwng y ddau beth. Mae awtoneidio yn cynyddu effaith y rhybudd, ond mae effaith awtochwarae yn llai cryf o lawer.

Baseline alert message Drwy edrych yn fanylach, daw gwahaniaeth arall i’r amlwg. O’r rheini a neidiodd dros y fideos a oedd â rhybudd gydag awtoneidio, roedd tua dwy ran o dair ohonynt yn caniatáu i’r awtoneidio ddigwydd, yn hytrach na mynd ati’n weithredol i glicio ar ‘neidio’ eu hunain. Mae’r mwyafrif yn mynd gyda’r llif.

Autoskip messageI’r gwrthwyneb, i’r rheini a wyliodd y fideos a oedd â rhybudd gydag awtochwarae, dim ond hanner a adawodd i'r awtochwarae ddigwydd, ac roedd hanner wedi clicio’n weithredol i wylio.

Mae mwy o ddefnyddwyr yn mynd gyda'r llif pan fyddant yn wynebu awtoneidio, ond mae mwy yn gwneud dewisiadau gweithredol gyda rhybudd awtochwarae. Mae faint y mae’r dewis awtomatig yn dylanwadu ar ymddygiad defnyddwyr yn rhywbeth sydd ddim yn unffurf.  Mae hynny’n arwyddocaol ac mae’n werth ei ystyried.

Atgyfnerthu neu anghysondeb

Un esboniad yw bod y gwahaniaeth yn deillio o atgyfnerthu neu anghysondeb.

Mae'r swyddogaeth awtoneidio yn atgyfnerthu neges y rhybudd. Mae cysondeb rhwng y rhagosodiad (sef neidio) a phwrpas y rhybudd (sef rhybuddio pobl am ddeunydd sensitif).  Dangoswyd bod rhagosodiadau'n fwy effeithiol pan fyddant yn cefnogi'r hyn y dylai'r defnyddiwr ei wneud. Yn yr achos hwn, mae'n bosibl fod atgyfnerthu'r neges rybudd gan y rhagosodiad awtoneidio wedi cynyddu'r argraff o gefnogaeth, ac wedi arwain at gynnydd yn yr adegau y caiff y rhagosodiad ei dderbyn a beth yw effaith gyffredinol y rhybudd.

I’r gwrthwyneb, roedd y rhybuddion a oedd yn cynnwys awtochwarae wedi arwain at gyfran uwch o’r cyfranogwyr yn mynd allan o’u ffordd i ddiystyru’r awtochwarae a gwneud dewis gweithredol i wylio’r cynnwys. Efallai bod y cyfuniad o rybudd a swyddogaeth awtochwarae wedi tarfu ar y cyfranogwyr. Pwrpas rhybudd yw rhybuddio am risg. Efallai bod y ffaith fod y rhybudd yn cynnwys opsiwn rhagosodedig i wylio’r cynnwys wedi achosi i’r cyfranogwyr dalu sylw yn hytrach na derbyn y rhagosodiad.

Dydy hawdd ddim yr un fath â chofiadwy

Er nad oes modd dod i gasgliad terfynol, fe welsom arwyddion o’r holiadur ar ddiwedd y treial sy’n cefnogi’r esboniad hwn.

Gofynnwyd i’r cyfranogwyr a oeddent yn ystyried mai argymhellion oedd y rhybuddion. Byddem wedi disgwyl i fwy o’r rhai a oedd wedi gweld yr hysbysiad awtoneidio ystyried mai argymhelliad ydoedd, o’i gymharu â’r rhybudd awtochwarae. Ond doedd dim gwahaniaethau sylweddol rhwng y ddau grŵp.

Ar y llaw arall, roedd atgof cywir o’r rhybudd gydag awtochwarae yn llawer uwch (61%) nag ar gyfer y rhybudd gydag awtoneidio (39%). Roedd y nodwedd awtochwarae yn sefyll allan.

Er bod hyn yn syndod i ddechrau, mae’r canfyddiadau hyn yn cyd-fynd â’r cysyniad o ruglder gwybyddol. Wrth wynebu tasgau diymdrech, rydym yn tueddu i brofi rhuglder gwybyddol. Does dim angen i ni ganolbwyntio i’w cyflawni. Dywedir bod tasgau sy’n gofyn am fwy o ymdrech feddyliol yn achosi straen gwybyddol. Yn groes i'r disgwyl, mae pobl yn tueddu i wneud penderfyniadau cywir yn amlach wrth wynebu straen wybyddol. Os yw’n rhy hawdd, rydym yn tueddu i beidio ag ymgysylltu mor drylwyr.

Yn ein harbrawf, y ddamcaniaeth fyddai bod defnyddwyr, pan fyddant yn dod ar draws cyfuniad o rybudd ac awtoneidio, yn profi rhuglder gwybyddol. Does dim angen iddynt ymdrechu’n wybyddol i benderfynu beth i’w wneud. Maen nhw’n mynd gyda’r llif ac nid yw eu gweithredoedd (neu eu diffyg gweithredu) yn creu argraff fawr. Does dim newid o ran eu canfyddiad ynghylch ai argymhelliad yw’r rhybudd. Mewn cyferbyniad, mae’r modd y mae’r rhybudd a'r swyddogaeth awtochwarae yn tarfu yn achosi straen wybyddol, gan arwain at feddwl ymdrechgar. Ac mae’r ymdrech honno wedi gwella’r gallu i gofio’n gywir.

Beth mae hyn yn ei olygu?

Mae’n werth cydnabod bod cyfyngiadau ar ein methodoleg – roedd y cyfranogwyr yn ymwybodol eu bod yn cymryd rhan mewn astudiaeth ac efallai nad oeddent wedi ymddwyn fel y byddent mewn bywyd go iawn. Serch hynny, rydym yn credu bod y math hwn o dystiolaeth yn werthfawr o ran adeiladu ein sylfaen dystiolaeth ar ddiogelwch ar-lein. Rydym yn trafod cyfyngiadau’r fethodoleg hon yn y papur trafod hwn.

Nid nodweddion dylunio niwtral ydy awtochwarae ac awtoneidio.

O'u cyfuno â rhybuddion, maent yn achosi newidiadau sylweddol mewn ymddygiad gwylio o'u cymharu â rhybuddion statig. Mae’r dystiolaeth o’n harbrawf yn awgrymu bod nodweddion dylunio sy’n cyfeirio defnyddwyr yn awtomatig, heb iddynt wneud dewis penodol, yn tueddu i ddigwydd yn amlach pan fyddant yn gyson, gan atgyfnerthu a chynyddu’r neges rybudd. Ar y llaw arall, mae’n ymddangos bod cam awtomatig yn nhaith y defnyddiwr sy’n anghyson â disgwyliadau defnyddwyr, yn tarfu, gan achosi i fwy o ddefnyddwyr gymryd sylw a gwneud eu dewis eu hunain.

Mae ein hastudiaeth yn darparu tystiolaeth werthfawr ar y graddau y mae nodweddion dylunio fel awtochwarae yn gallu dylanwadu ar fesurau diogelwch. Ar un ystyr, mae’r canlyniadau’n ategu’r pryderon am awtochwarae a grybwyllwyd ar ddechrau’r darn hwn – mae graddfa’r dylanwad yn drawiadol pan mae’r rhybudd a’r awtoneidio yn cael eu cyfuno, hyd yn oed o ystyried mai arbrawf oedd y sefyllfa. Ar y llaw arall, Ond, wrth gwrs, rydym yn gweld arwyddion bod defnyddwyr yn wyliadwrus pan fyddant yn wynebu cyfeiriadau annisgwyl.

Mae modd defnyddio’r nodweddion dylunio hyn i wella neu danseilio effaith mesurau diogelwch. Yn y pen draw, nid y nodwedd ddylunio ei hun sy’n allweddol, ond sut mae’n cael ei defnyddio.

Cafodd y blog hwn ei ysgrifennu ar y cyd gan Alex Jenkins, Rupert Gill a Jonathan Porter, gyda chymorth John Ivory, yn seiliedig ar ymchwil a gynhaliwyd gyda Kantar Public Behavioural Practice.

Ymwadiad: Ni ddylid dehongli'r dadansoddiadau, y safbwyntiau na'r canfyddiadau yn yr erthygl hon fel safbwynt swyddogol Ofcom. Mae blogiau Ofcom ar Ddeall Ymddygiad yn cael eu hysgrifennu fel materion o ddiddordeb, ac maen nhw'n cynrychioli barn bersonol yr awdur(on). Ni fwriedir iddynt fod yn ddatganiad swyddogol o bolisi neu syniadau Ofcom.

Related content