3 Ebrill 2023

Ofcom yn ymchwilio i ddarparwyr band eang am fethu gweithredu proses symlach i newid darparwr

Heddiw, mae Ofcom wedi agor rhaglen orfodi ar draws y diwydiant ynghylch methiant i roi proses newid darparwr band eang newydd ar waith, wrth i’r diwydiant fethu’r dyddiad cau ar gyfer lansio’r gwasanaeth newydd.

Heddiw, daw rheolau newydd i rym sy’n ei gwneud yn ofynnol i ddarparwyr llinell dir a band eang weithredu’r broses ‘Newid Un Cam’ ar gyfer cwsmeriaid preswyl.

Ar ôl ymgynghori’n helaeth â’r diwydiant, cyhoeddodd Ofcom y rheolau hyn flwyddyn a hanner yn ôl i wneud y broses o newid darparwr band eang yn gyflymach, yn haws ac yn fwy dibynadwy i lawer o gwsmeriaid.

Gall pobl eisoes newid rhwng darparwyr ar rwydwaith Openreach – fel BT, Sky a TalkTalk – drwy ddilyn proses lle mae eu darparwr newydd yn rheoli’r newid.

Ond roedden ni hefyd eisiau ei gwneud hi’n hawdd i gwsmeriaid symud rhwng gwahanol rwydweithiau neu dechnolegau – er enghraifft, o ddarparwr sy’n defnyddio rhwydwaith Openreach i un sy’n defnyddio CityFibre, neu o Virgin Media i Hyperoptic. O dan y broses newydd, yr unig beth a fyddai angen i gwsmeriaid ei wneud yw cysylltu â’u darparwr newydd.

Mae’r rheolau hefyd yn golygu y bydd angen i ddarparwyr roi iawndal i gwsmeriaid petai pethau’n mynd o chwith yn ystod y broses newid, a'u bod heb wasanaeth am fwy nag un diwrnod gwaith. Ac ni ddylai cwsmeriaid orfod talu unrhyw ffioedd cyfnod rhybudd y tu hwnt i’r dyddiad newid.

Ar ben hynny, roedd ein diwygiadau i fod i’w gwneud hi’n gynt newid – dim ond un diwrnod lle bo hynny’n bosibl yn dechnegol – a sicrhau bod cwsmeriaid yn cael gwybodaeth bwysig yn awtomatig gan eu darparwr presennol, gan gynnwys unrhyw ffioedd terfynu cynnar y gallai fod yn rhaid iddynt eu talu.

Rydym wedi bod yn monitro cynnydd y diwydiant yn ofalus o ran rhoi’r newidiadau ar waith, ac rydym wedi bod yn rhoi pwysau ar ddarparwyr i fodloni eu gofynion erbyn y dyddiad cau heddiw. Yn anffodus, nid yw’r broses newydd wedi’i chyflwyno mewn pryd.

O ganlyniad, rydym wedi lansio rhaglen orfodi ar draws y diwydiant, yn dilyn y methiant hwn i fodloni dyddiad cau rheoleiddiol.

Mae’r diwydiant wedi cael digon o rybudd, digon o amser a digon o gefnogaeth i wneud hyn. Mae’n hynod o siomedig a rhwystredig, ac mae darparwyr wedi siomi eu cwsmeriaid.

Rydym yn cymryd y broses o gydymffurfio â’n rheolau o ddifrif, ac rydym wedi lansio camau gorfodi i wneud yn siŵr bod cwmnïau’n rhoi hyn ar waith cyn gynted â phosibl.

Cristina Luna-Esteban, Cyfarwyddwr Diogelu Defnyddwyr Telegyfathrebiadau Ofcom

Bron i bedair blynedd i’w creu

Cafodd y broses newid symlach newydd ei thrafod gyntaf yn 2019, pan ddywedom y byddem yn gwneud y broses o newid ddarparwr band eang yn haws, a hynny fel rhan o weithredu pecyn eang o reolau diogelu i ddefnyddwyr Ewropeaidd. Roedden ni’n gwybod y byddai hyn yn cymryd amser i’w roi ar waith, felly fe wnaethom ni ofyn i’r diwydiant ddechrau gweithio gyda’i gilydd i ddatblygu’r broses hon ar unwaith.

Yn ddiweddarach y flwyddyn honno, fe wnaethom ddechrau ymgynghori’n gyhoeddus ynghylch cyflwyno’r rheolau newid newydd yn y DU. Ym mis Chwefror 2021, buom yn ymgynghori am opsiynau gwahanol – a gynigiwyd gan y diwydiant – ar gyfer proses newid fanwl ar gyfer cwsmeriaid preswyl, cyn cadarnhau ein dull gweithredu sy’n cael ei ffafrio fel yr opsiwn ‘Newid Un Cam’.

Ym mis Mehefin 2021 fe wnaethom gyhoeddi ein penderfyniad terfynol. O ystyried y byddai hyn yn golygu bod cwmnïau’n gwneud newidiadau sylweddol, fe wnaethom ymestyn y dyddiad olaf ar gyfer gweithredu’r newidiadau i fis Ebrill 2023. Yna, sefydlodd y diwydiant gwmni i helpu i gyflawni’r broses newydd.

Er gwaethaf ymgynghori’n helaeth â’r cyhoedd ac ymgysylltu â’r diwydiant dros nifer o flynyddoedd, nid yw darparwyr wedi cyrraedd y dyddiad cau ar gyfer lansio’r gwasanaeth newydd, ac nid ydynt wedi rhoi syniad eto pryd y byddant yn barod.

Byddwn yn parhau i weithio gyda’r diwydiant i sicrhau bod y broses newid newydd yn cael ei roi ar waith cyn gynted â phosibl.

Related content