Dwywaith y mis, mae dau o beirianwyr sbectrwm Ofcom yn mynd i Belfast gyda'u hoffer i gyflawni tasg eithaf pwysig.

Yn benodol, mae'r offer hwnnw'n antena ar drybedd sydd wedi'i gysylltu ag offer dadansoddi sbectrwm o faint bag llaw. A'i bwrpas yw mesur lefelau pelydriad electromagnetig sy'n dod o fastiau ffôn symudol.

Mae ein peirianwyr yn cynnal profion mewn pedwar lleoliad ar draws y ddinas, gyda phob prawf yn para tua 15 munud.

Mae Ofcom wedi bod yn gwneud mesuriadau o feysydd electromagnetig (EMF) amledd radio ger gorsafoedd ffôn symudol ers blynyddoedd lawer. Mae'r gyfres bresennol o brofion, sy'n cynnwys mwy na 60 o safleoedd mewn 20 o drefi a dinasoedd ar draws y DU, wedi'i hanelu'n benodol at fesur signalau o orsafoedd â gwasanaeth 5G ac fe'i hysgogwyd gan bryderon y cyhoedd ynghylch y dechnoleg symudol.

Cyhoeddir canllawiau ar gyfer cyfyngu ar ddod i gysylltiad ag EMF, gan ddarparu amddiffyniad yn erbyn effeithiau iechyd niweidiol hysbys, gan y Comisiwn Rhyngwladol ar Ddiogelu rhag Pelydriad Anionieddiol (ICNIRP).

Diben gwaith Ofcom yw cadarnhau bod gorsafoedd symudol â gwasanaeth 5G yn cadw at y terfynau hyn.

Yn y DU, Asiantaeth Diogelwch Iechyd y DU (UKHSA) sy'n arwain ar faterion iechyd y cyhoedd mewn perthynas â thonnau radio, ac mae dyletswydd statudol arni i roi cyngor i Lywodraeth y DU ar unrhyw effeithiau iechyd a allai gael eu hachosi gan allyriadau EMF.

O ran 5G, dyma farn UKHSA: ‘y disgwyl yw y bydd y cyswllt cyffredinol yn parhau i fod yn isel o’i gymharu â’r canllawiau, a chan hynny, ni ddylai fod unrhyw ganlyniadau i iechyd y cyhoedd’.

Mae mesuriadau a wnaed gan beirianwyr Ofcom, sy'n cael eu cyhoeddi ar ein gwefan, wedi dangos yn gyson bod lefelau EMF ger gorsafoedd ffôn symudol ymhell o fewn y lefelau a gytunwyd yn rhyngwladol, gyda'r lefel uchaf oddeutu 7.1% o lefelau cyfeirio ICNIRP gyda'r lefel uchaf nesaf ar 1.5%.

Mae cyfraniad 5G at gyfanswm yr allyriadau a welwyd yn isel ar hyn o bryd - y lefel uchaf y mae Ofcom wedi'i gweld hyd yma yn y bandiau presennol a ddefnyddir ar gyfer 5G ymhell o dan y canllawiau ICNIRP.

Mae'n rhaid i'r ymchwil fedru gwrthsefyll craffu trylwyr o fewn a thu allan i Ofcom, felly mae ein gwaith profi'n ailadroddus ac yn fanwl. Mae momentau ysgafnach o bryd i'w gilydd fodd bynnag, gydag aelodau o'r cyhoedd yn aml yn awyddus i ddweud eu dweud. Holodd un person yn sefyll gerllaw a allai 'siarad â Duw' gan ddefnyddio offer Ofcom…

Am fod cyflwyno rhwydweithiau 5G a defnyddio gwasanaethau 5G yn eu camau cynnar, byddwn yn parhau â'n gwaith profi i sicrhau bod y dechnoleg yn ddiogel i bawb.

Beth yw spectrum?

Allwch chi ddim weld na theimlo sbectrwm radio. Ond mae angen sbectrwm ar bob dyfais sy’n cyfathrebu’n ddiwifr – boed hynny’n setiau teledu, allweddi car digyswllt, monitorau babis, meicroffonau diwifr na lloerenni. Mae ffonau symudol yn defnyddio sbectrwm i gysylltu â mast lleol er mwyn i bobl allu gwneud galwadau ffôn a defnyddio'r rhyngrwyd.

Pam mae Ofcom yn rheoli'r defnydd o sbectrwm?

Dim ond hyn a hyn o sbectrwm sydd ar gael, felly mae angen ei reoli’n ofalus. Mae bandiau penodol o sbectrwm yn cael eu defnyddio at ddibenion gwahanol hefyd. Er enghraifft, mae cwmnïau symudol yn defnyddio rhannau gwahanol o'r sbectrwm i gwmnïau teledu. Felly, mae angen ei reoli i sicrhau nad oes ymyriant ar wasanaethau ac nad yw'n amharu ar bobl ac ar fusnesau.

Related content