10 Ionawr 2023

Ofcom yn bwrw ymlaen â gwaith i amddiffyn plant ar-lein

Heddiw, mae Ofcom yn chwilio am dystiolaeth am risgiau niwed i blant ar-lein a sut mae modd eu lliniaru, wrth i ni baratoi i ddatblygu codau ymarfer yn ein rôl arfaethedig fel rheoleiddiwr diogelwch ar-lein.

O fewn y 100 diwrnod cyntaf i’n pwerau diogelwch ar-lein ddod i rym, byddwn yn cyhoeddi ac yn ymgynghori ar godau ymarfer drafft a chanllawiau ar gam cyntaf y rheoliad newydd, sef diogelu defnyddwyr rhag niwed anghyfreithlon ar-lein. Y llynedd, fe wnaethom gyhoeddi cais am dystiolaeth ar y pynciau cyntaf hyn.

Yn fuan ar ôl i is-ddeddfwriaeth gael ei phasio i ddiffinio cynnwys â blaenoriaeth sy’n gyfreithiol ond yn niweidiol i blant, byddwn yn ymgynghori ar godau ymarfer a chanllawiau drafft gan nodi’r camau y gall llwyfannau eu cymryd i amddiffyn plant ar-lein, yn ogystal â chanllawiau drafft ar sut dylai llwyfannau asesu risgiau o niwed i blant.

Heddiw, rydym yn galw am dystiolaeth ar y cam hwn o reoleiddio diogelwch ar-lein, gan gynnwys: asesiadau o fynediad plant; asesiadau risg i blant; atal plant rhag cael mynediad at bornograffi; ac amddiffyn plant rhag cynnwys niweidiol.

Bydd ein cais am dystiolaeth yn parhau ar agor tan 5pm ar 21 Mawrth 2023. Hoffem glywed gan y rheini sy’n arbenigo mewn amddiffyn plant ar-lein, a darparwyr gwasanaethau ar-lein.

Adolygu’r mesurau sydd gan wefannau i oedolion yn y DU ar waith i amddiffyn plant

Rydym hefyd wedi lansio rhaglen orfodi heddiw i fesurau sicrwydd oedran gwefannau oedolion yn y DU, o dan ein pwerau presennol i reoleiddio llwyfannau rhannu fideos a sefydlwyd yn y DU.

Mae’r gyfraith eisoes yn mynnu bod y llwyfannau hyn yn cymryd camau i ddiogelu pobl sy’n defnyddio eu gwefannau ac apiau rhag fideos niweidiol.

Ym mis Hydref, fe wnaethom gyhoeddi adroddiad yn tynnu sylw at ein pryderon nad oes gan wefannau bychan i oedolion yn y DU fesurau cadarn ar waith i atal plant rhag cael mynediad at bornograffi. Fe wnaethom rybuddio, os nad oedd gan y gwefannau i oedolion rydym yn eu rheoleiddio ar hyn o bryd gynllun clir ar gyfer cyflwyno mesurau sicrwydd oedran cadarn dros y flwyddyn nesaf, y gallent wynebu camau gorfodi.

Rydym hefyd yn poeni nad yw rhai gwefannau i oedolion yn y DU wedi rhoi gwybod i ni eu bod o fewn ein hawdurdodaeth. Felly, rydym yn adolygu sector ehangach y llwyfannau rhannu fideos i oedolion yn y DU i ganfod a oes llwyfannau eraill a allai fod o fewn cwmpas ein trefn bresennol, ac efallai nad oes ganddynt ddigon o fesurau ar waith i ddiogelu plant rhag cynnwys pornograffig.

Bydd ein rhaglen orfodi a lansiwyd heddiw yn edrych ar raddfa’r pryderon posibl ynghylch cydymffurfio yn y sector. Byddwn wedyn yn penderfynu a oes angen cymryd unrhyw gamau pellach – gan gynnwys ymchwiliadau ffurfiol.

Rydym yn disgwyl rhoi diweddariad ar gynnydd ar ôl pedwar mis.

Related content