5 Ebrill 2023

Cynnig Ofcom i gyfeirio marchnad cwmwl y DU ar gyfer ymchwiliad

  • Amazon (AWS) a Microsoft yw prif ddarparwyr y gwasanaethau seilwaith cwmwl yn y DU
  • Mae astudiaeth Ofcom o’r farchnad wedi datgelu arferion a nodweddion a allai gyfyngu ar gystadleuaeth
  • Mae ffioedd uchel am drosglwyddo data allan, gostyngiadau ar wariant ymrwymedig a chyfyngiadau technegol yn ei gwneud hi’n anodd i gwsmeriaid busnes newid darparwr y cwmwl neu i ddefnyddio mwy nag un darparwr
  • Os na chaiff ei reoli, gallai cystadleuaeth ddirywio ymhellach mewn marchnad ddigidol sy’n gritigol i economi’r DU

Ar y pwynt hanner ffordd yn y gwaith o ymchwilio i wasanaethau cwmwl y DU, mae Ofcom yn cynnig cyfeirio’r farchnad at yr Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd er mwyn ymchwilio i’r mater ymhellach.

Mae ein hastudiaeth o’r farchnad wedi nodi dros dro’r nodweddion a’r arferion sy’n ei gwneud hi’n fwy anodd i gwsmeriaid newid a defnyddio nifer o gyflenwyr y cwmwl. Rydyn ni’n arbennig o bryderus ynghylch arferion Amazon a Microsoft oherwydd eu sefyllfa yn y farchnad.

Mae cyfrifiadura cwmwl wedi dod yn gritigol i lawer o fusnesau ar draws yr economi – gan gynnwys cwmnïau telegyfathrebiadau, darlledwyr a sefydliadau yn y sector cyhoeddus – ac mae wedi trawsnewid y ffordd maen nhw’n darparu’r gwasanaethau rydyn ni i gyd yn dibynnu arnyn nhw bob dydd. Mae’n defnyddio canolfannau data ledled y byd i ddarparu mynediad o bell at wasanaethau fel meddalwedd, storio a rhwydweithio.

Ym mis Hydref, fe wnaethom lansio astudiaeth o dan Ddeddf Menter 2002 i’r gwasanaethau seilwaith cwmwl yn y DU er mwyn asesu pa mor dda mae’r farchnad hon yn gweithio. Rydyn ni wedi edrych ar gryfder y gystadleuaeth ac unrhyw nodweddion a allai gyfyngu ar arloesedd a thwf yn y sector hwn drwy ei gwneud hi’n anodd i ddarparwyr cwmwl eraill ymuno â’r farchnad neu i gwmnïau llai ehangu.[1]

Gan fod y sector cwmwl yn dal i ddatblygu, rydyn ni wedi edrych ar sut mae’r farchnad yn gweithio heddiw a sut rydyn ni’n disgwyl iddi ddatblygu yn y dyfodol – gyda’r nod o ganfod unrhyw bryderon posibl o ran cystadleuaeth yn gynnar i’w hatal rhag cael eu sefydlu wrth i’r farchnad aeddfedu.

Ein canfyddiadau

Mae dau brif ddarparwr o wasanaethau seilwaith cwmwl yn y DU: Amazon Web Services (AWS) a Microsoft - gyda’i gilydd mae ganddyn nhw gyfran o 60-70% o’r farchnad. Google yw eu cystadleuydd agosaf gyda chyfran o 5-10%. Gyda’i gilydd, yr enw Saesneg ar y cwmnïau mawr hyn yw ‘hyperscalers’, ac mae’r mwyafrif helaeth o gwsmeriaid y cwmwl yn defnyddio eu gwasanaethau mewn rhyw ffordd.[2]

Er bod grymoedd marchnad cystadleuol yn dod â manteision i gwsmeriaid – yn enwedig pan fydd darparwyr yn cystadlu i ddenu cwsmeriaid newydd – ar ffurf cynnyrch arloesol a gostyngiadau, mae nodweddion eraill y farchnad yn peri pryder:

  • Ffioedd symud allan. Dyma’r taliadau y mae cwsmeriaid yn eu talu i drosglwyddo eu data allan o gwmwl ac mae’r cwmnïau mawr yn eu gosod ar gyfraddau llawer uwch na darparwyr eraill. Gall cost y ffioedd symud allan atal cwsmeriaid rhag defnyddio gwasanaethau gan fwy nag un darparwr cwmwl neu newid i ddarparwr arall.
  • Cyfyngiadau technegol ar ryngweithredu. Mae’r rhain yn cael eu gosod gan y prif gwmnïau sy’n atal rhai o’u gwasanaethau rhag gweithio’n effeithiol gyda gwasanaethau gan ddarparwyr eraill. Mae hyn yn golygu bod yn rhaid i gwsmeriaid wneud ymdrech ychwanegol i ail-ffurfweddu eu data a’u rhaglenni i weithio ar draws gwahanol gymylau.
  • Gostyngiadau ar wariant ymrwymedig. Gall y rhain fod o fudd i gwsmeriaid drwy leihau eu costau, ond mae’r ffordd mae’r gostyngiadau hyn yn cael eu strwythuro yn gallu cymell cwsmeriaid i ddefnyddio un cwmni mawr ar gyfer eu holl anghenion cwmwl neu’r rhan fwyaf ohonynt, hyd yn oed pan fydd dewisiadau gwell ar gael.
  • Gall y nodweddion marchnad hyn ei gwneud hi’n anodd i rai cwsmeriaid presennol daro bargen dda gyda’u darparwr. Mae arwyddion bod hyn yn achosi niwed yn barod, gyda thystiolaeth bod cwsmeriaid y cwmwl yn wynebu cynnydd sylweddol mewn prisiau pan fydd hi’n adeg adnewyddu eu contractau.

    Ar ben hynny, mae rhai cwsmeriaid yn poeni am eu gallu i newid a defnyddio nifer o ddarparwyr lle mae hyn yn cyfyngu ar eu gallu i ddewis a dethol y gwasanaethau gorau ar draws gwahanol ddarparwyr. Mae lefelau uchel o broffidioldeb arweinwyr y farchnad, AWS, a thwf sylweddol cyson yn elw Microsoft, yn dangos bod cyfyngiadau ar lefel gyffredinol y gystadleuaeth.

    Rydyn ni’n poeni y gallai cyfyngiadau ar allu cwsmeriaid i ddefnyddio mwy nag un darparwr ei gwneud hi’n anoddach i ddarparwyr cwmwl llai ennill busnes a chystadlu ag arweinwyr y farchnad. Mae crynhoad o ychydig o chwaraewyr eisoes mewn refeniw, ac mae perygl y gallai’r nodweddion rydyn ni wedi’u nodi arwain at grynhoad pellach yn y farchnad tuag at arweinwyr y farchnad.

    Felly, rydyn ni wedi cynnig cyfeirio’r farchnad seilwaith cwmwl at y CMA er mwyn ymchwilio i’r farchnad. Byddai hyn yn caniatáu i’r CMA archwilio natur a maint y rhwystrau ymhellach ac ystyried a oes ymyriadau a allai wella sut mae’r farchnad yn gweithio i gwsmeriaid ac, yn y pen draw, i ddefnyddwyr y DU.

    Byddai cyfeirio ar gyfer ymchwilio i’r farchnad yn gam pwysig i Ofcom ei gymryd. Mae ein cynnig yn adlewyrchu pwysigrwydd cyfrifiadura cwmwl i ddefnyddwyr a busnesau yn y DU, y pryderon sylweddol sydd gennym am y farchnad seilwaith cwmwl a’n cred mai’r CMA sydd yn y sefyllfa orau i ymgymryd ag ymchwiliad pellach. Byddwn yn parhau i weithio'n agos gyda'r CMA yn ystod ail hanner yr astudiaeth.

    Rydyn ni wedi gwneud ymchwiliad trylwyr i asgwrn cefn digidol ein heconomi ac wedi datgelu rhai arferion sy’n peri pryder, a hynny’n cynnwys rhai o’r cwmnïau technoleg mwyaf yn y byd.

    Mae rhwystrau mawr rhag newid eisoes yn niweidio cystadleuaeth mewn marchnad sy’n tyfu’n gyflym. Rydyn ni’n credu bod angen craffu’n fanylach i wneud yn siŵr ei fod yn gweithio’n dda i bobl a busnesau sy’n dibynnu ar y gwasanaethau hyn.

    Fergal Farragher, Cyfarwyddwr Ofcom sy'n gyfrifol am yr Astudiaeth o’r Farchnad

    Y camau nesaf

    Rydyn ni’n gwahodd adborth ar ein canfyddiadau interim ac ar ein cynnig i gyfeirio ar gyfer ymchwil i’r farchnad ar y cyflenwad o wasanaethau seilwaith cwmwl yn y DU, erbyn 17 Mai 2023.

    Rydyn ni’n bwriadu cyhoeddi adroddiad terfynol sy’n nodi ein canfyddiadau a’n hargymhellion, gan gynnwys ein penderfyniad ar gyfeirio ymchwil i’r farchnad, erbyn 5 Hydref 2023 fan bellaf.

    Market study commencement diagram

    Nodiadau i olygyddion

    1. Mae astudiaethau marchnad yn archwilio’r rhesymau pam nad yw marchnadoedd penodol yn gweithio’n dda er budd defnyddwyr. Rydyn ni’n ymgymryd â’r astudiaeth i’r farchnad cwmwl gan ddefnyddio ein pwerau fel awdurdod ar gyfer cystadleuaeth o dan Ddeddf Menter 2002.
    2. Cyfran y farchnad yn 2021 o’r cyflenwad yn ôl refeniw yn y farchnad gwasanaethau seilwaith cwmwl cyhoeddus yn y DU (ffynhonnell: dadansoddiad Ofcom o ddata a ddarparwyd mewn ymateb i’n ceisiadau am wybodaeth a data gan Synergy ac IDC):

      AWS

    Related content