9 Tachwedd 2023

Diogelwch ar-lein – beth yw rôl Ofcom, a beth mae'n ei olygu i chi?

Yn ddiweddar, daeth y Bil Diogelwch Ar-lein yn Ddeddf Diogelwch Ar-lein, sy'n golygu ei bod bellach yn gyfraith.

Mae hyn yn golygu mai Ofcom bellach yw’r rheoleiddiwr diogelwch ar-lein yn ffurfiol, ac mae ganddo gyfrifoldeb i helpu gwneud gwasanaethau ar-lein yn fwy diogel i bobl sy’n eu defnyddio.

Bydd yn rhaid i wasanaethau sy'n dod o dan ein cylch gwaith ddilyn rhai rheolau, gan gynnwys amddiffyn defnyddwyr rhag cynnwys a gweithgarwch anghyfreithlon ar-lein, yn ogystal ag amddiffyn plant rhag cynnwys niweidiol. Ymhlith yr enghreifftiau o gynnwys anghyfreithlon mae deunydd yn ymwneud â cham-drin plant yn rhywiol, terfysgaeth, twyll, gwerthu cyffuriau neu arfau anghyfreithlon, a chynnwys sy'n annog hunan-niwed neu hunanladdiad.

Mae'r gwasanaethau hyn yn cynnwys:

  • gwasanaethau sy'n lletya cynnwys sy’n cael ei gynhyrchu gan ddefnyddwyr (fel cyfryngau cymdeithasol);
  • peiriannau chwilio;
  • gwasanaethau sy'n lletya cynnwys pornograffig;
  • gwasanaethau negeseua; a
  • llwyfannau rhannu fideos a sefydlwyd yn y DU (VSPs).

Mae'r rheolau'n wahanol ar gyfer pob un o'r gwahanol fathau hyn o wasanaeth. Efallai y bydd gan rai gwasanaethau ddyletswyddau eraill i'w bodloni, fel bod:

  • gan bobl fwy o ddewis a rheolaeth dros yr hyn maen nhw'n ei weld ar-lein;
  • gwasanaethau yn fwy tryloyw a gellir eu dwyn i gyfrif am eu gweithredoedd; ac fel bod
  • gwasanaethau'n amddiffyn rhyddid mynegiant.

Beth yw rôl Ofcom mewn diogelwch ar-lein?

Yn syml, ein rôl ni yw sicrhau bod gwasanaethau sy’n cael eu rheoleiddio’n cymryd camau priodol i amddiffyn eu defnyddwyr.

Nid ydym yn gyfrifol am ddileu cynnwys ar-lein, ac ni fyddwn yn ei gwneud yn ofynnol i gwmnïau ddileu cynnwys, na chyfrifon penodol. Ein gwaith ni yw helpu i adeiladu bywyd mwy diogel ar-lein drwy sicrhau bod gan gwmnïau systemau effeithiol ar waith i atal niwed ac amddiffyn y bobl sy'n defnyddio eu gwasanaethau.

Bydd gennym ystod o offer i sicrhau bod gwasanaethau'n dilyn y rheolau - gan gynnwys nodi codau ymarfer a chanllawiau i gwmnïau sy'n dod o dan gwmpas y ddeddfwriaeth newydd. Rydym bellach yn ymgynghori ar y rhain, a bydd y rheolau newydd yn dod i rym unwaith y bydd y codau a'r canllawiau yn cael eu cymeradwyo gan Senedd y Du.

O dan y rheolau newydd hyn, bydd gennym bwerau i gymryd camau gorfodi, gan gynnwys rhoi dirwyon i wasanaethau os ydynt yn methu â chydymffurfio â'u dyletswyddau. Nid yw ein pwerau wedi'u cyfyngu i ddarparwyr gwasanaeth sydd wedi'u lleoli yn y DU.

A fydd Ofcom yn ymchwilio i gynnwys y mae pobl yn ei bostio ar-lein?

Yn wahanol i'n gwaith o reoleiddio cynnwys a ddarlledir ar y teledu a'r radio, nid rôl Ofcom mewn diogelwch ar-lein yw penderfynu a ddylai postiadau penodol neu gynnwys arall fod ar gael neu beidio, nac ychwaith a yw'n cydymffurfio â safonau penodol. Yn hytrach, ein rôl ni yw sicrhau bod gan safleoedd cyfryngau cymdeithasol a gwasanaethau ar-lein eraill sy’n cael eu rheoleiddio systemau a phrosesau priodol ar waith i amddiffyn eu defnyddwyr.

Mae’n bwysig nodi, yn ein rôl fel y rheoleiddiwr diogelwch ar-lein, y byddwn ni bob amser yn ystyried hawliau pobl, gan gynnwys rhyddid mynegiant a phreifatrwydd.

Beth i'w wneud os ydych chi wedi gweld rhywbeth niweidiol ar-lein

Os ydych chi wedi gweld rhywbeth ar-lein rydych chi'n teimlo sy'n niweidiol, dylech gwyno yn y lle cyntaf i’r gwasanaeth ar-lein lle gwelsoch chi’r cynnwys, nid i Ofcom. Peidiwch â rhannu'r cynnwys, gan y bydd hyn ond yn helpu iddo gael ei weld gan eraill.

Os ydych wedi rhoi gwybod am gynnwys ac yn pryderu nad yw'r gwasanaeth ar-lein wedi cymryd camau, gallwch gwyno i Ofcom drwy ein porth cwynion ar-lein.

Noder – dim ond am y gwasanaethau ar-lein yr ydym yn eu rheoleiddio y gallwch gwyno i ni.

Ni allwn ymateb i gwynion unigol nac ymchwilio iddynt. Fodd bynnag, rydym yn defnyddio cwynion i'n helpu i asesu a yw gwasanaethau sydd wedi’u rheoleiddio yn amddiffyn eu defnyddwyr yn briodol ac a ddylem gymryd unrhyw gamau.

Mae adnoddau a gwasanaethau cymorth a all eich helpu os ydych chi wedi gweld cynnwys anghyfreithlon, niweidiol neu ofidus ar-lein.

Mwy o wybodaeth

Am fwy o fanylion am bopeth a grybwyllir yma, ewch i adran diogelwch ar-lein ein gwefan.

Related content