9 Chwefror 2023

Ofcom i adolygu cynyddu prisiau telathrebu yn unol â chwyddiant

Mae Ofcom wedi lansio adolygiad i archwilio a yw codi prisiau'n unol â chwyddiant yng nghanol contractau'n rhoi digon o sicrwydd ac eglurder i gwsmeriaid ffôn a band eang ynghylch yr hyn y gallant ddisgwyl ei dalu.

Mae gennym bryderon am raddau'r ansicrwydd y mae defnyddwyr yn ei wynebu ynghylch codi prisiau ar sail chwyddiant yn y dyfodol fel y pennir mewn contractau. Mae ansefydlogrwydd cyfraddau chwyddiant yn golygu y gall fod yn anodd gwybod – misoedd ymlaen llaw – yr hyn y bydd cynnydd gysylltiedig â chwyddiant mewn prisiau yn cyfateb iddo mewn punnoedd a cheiniogau pan fydd defnyddwyr yn ymrwymo i gontract.

Mae ein hymchwil gychwynnol wedi canfod nad yw tua thraean o gwsmeriaid symudol a band eang yn gwybod a oes gan eu darparwr hawl i godi eu pris ai beidio. Ymhlith y rhai sy'n gwybod y gall eu darparwr gynyddu eu pris, nid yw tua hanner yn gwybod sut y byddai hyn yn cael ei gyfrifo. Ac nid yw bron i hanner yr holl gwsmeriaid yn gwybod beth mae CPI a RPI yn ei fesur.[1]

Bydd ein hadolygiad yn archwilio'r materion hyn yn fanwl i weld a oes angen mesurau diogelu llymach.

Beth fydd ein hadolygiad yn edrych arno?

Bydd yr adolygiad hwn yn edrych yn benodol ar yr arfer o godi prisiau yn unol â chwyddiant a newidiadau canrannol yn ystod contractau, fel y cyflwynwyd gan nifer o gwmnïau telathrebu yn 2021.

Nid yw cyfraith defnyddwyr gyffredinol yn atal cwmnïau rhag codi eu prisiau yn ystod cyfnod y contract, ar yr amod eu bod yn gwneud hynny mewn ffordd deg. Mae llawer o gwmnïau telathrebu – ond nid pob un – yn dewis gwneud hyn. Mae rhai yn rhoi 30 diwrnod o rybudd i gwsmeriaid a'r hawl i adael heb gosb. Mae eraill yn nodi o'r cychwyn cyntaf y bydd prisiau cwsmeriaid yn codi yn ystod y contract.

Mae Ofcom wedi pennu rheolau llym sy'n golygu bod yn rhaid i ddarparwyr nodi'n glir y bydd prisiau'n codi yn ystod y contract cyn i gwsmeriaid gofrestru. Ym mis Rhagfyr, bu i ni lansio rhaglen orfodi ar wahân i weld a yw cwmnïau wedi bod yn glynu wrth y rheolau.[2]

Ar adeg pan fo cyllidebau cartrefi eisoes o dan straen sylweddol, mae'n hanfodol bod gan gwsmeriaid ddigon o sicrwydd ynghylch y prisiau y byddant yn eu talu dros gyfnod eu contract. Hyd yn oed i'r rhai sydd yn deall chwyddiant ac yn ymwybodol o'i lefel bresennol, nid yw'n bosib iddynt wybod beth fydd yn y dyfodol.

Mae angen i ni edrych yn fanylach ar y materion hyn i ystyried a oes angen i ni ymyrryd i sicrhau bod gan gwsmeriaid fwy o sicrwydd ac eglurder, o'r cychwyn cyntaf, am y prisiau y byddant yn eu talu dros gyfnod eu contract. Disgwyliwn gyhoeddi ein canfyddiadau cychwynnol yn ddiweddarach yn y flwyddyn.

Mae angen sicrwydd ac eglurder ar gwsmeriaid ynglŷn â'r hyn y byddan nhw'n ei dalu yn ystod eu contract. Ond gall y cynnydd mewn prisiau sy'n gysylltiedig â chwyddiant fod yn aneglur ac yn annarogan. Felly mae gennym bryderon bod darparwyr yn ei gwneud hi'n anodd i gwsmeriaid wybod beth i'w ddisgwyl.

Rydyn ni'n edrych yn drylwyr ar y mathau hyn o delerau contract, er mwyn deall yn llawn i ba raddau y mae cwsmeriaid wir yn gwybod beth maen nhw'n ymrwymo iddo, ac a oes angen mesurau diogelu llymach.

Yn y cyfamser, mae 'na rhai pethau syml y gall llawer o bobl eu gwneud heddiw i dorri eu biliau. Mae miliynau o gwsmeriaid naill ai allan o gontract neu gyda darparwr sy'n gadael iddyn nhw gerdded i ffwrdd os bydd prisiau'n codi. Felly rydyn ni'n annog pawb i wirio eu cyfrif a gweld beth yw eu hopsiynau.

Cristina Luna-Esteban, Cyfarwyddwr Diogelu Defnyddwyr Telathrebu Ofcom

Pam fod darparwyr yn codi eu prisiau?

Nid yw Ofcom yn gosod prisiau telathrebu manwerthol. Rydym yn cefnogi cystadleuaeth yn y sector telathrebu, gan fod hyn yn rhoi dewis i gwsmeriaid trwy gynnig amrywiaeth o ddarparwyr, gwasanaethau a phecynnau. Mae hyn yn golygu bod darparwyr yn cystadlu i ddenu a chadw cwsmeriaid newydd gyda gwell gwasanaethau a phrisiau.

Fodd bynnag, er mwyn i gystadleuaeth weithio, mae'n rhaid i ddefnyddwyr allu siopa o gwmpas yn hyderus, ac mae hynny'n golygu deall yn glir y prisiau y byddant yn eu talu.

Mae darparwyr telathrebu – fel pob busnes – yn wynebu sawl math o gynnydd yn eu costau. Mae buddsoddi mewn rhwydweithiau'n un o'r costau hyn. Er bod gwariant cyfartalog aelwydydd ar wasanaethau telathrebu wedi parhau'n ddi-newid mewn termau real dros y blynyddoedd diwethaf, ar yr un pryd mae cwsmeriaid wedi elwa o wasanaethau gwell a chyflymach, ac maent yn defnyddio mwy o ddata nag erioed o'r blaen.

Ac wrth i'r galw am ddata barhau i gynyddu, mae seilwaith band eang a symudol y Deyrnas Unedig yn gweld uwchraddiad y mae angen mawr amdano. Mae hyn yn gofyn am fuddsoddiad sylweddol gan gwmnïau telathrebu, sydd hefyd yn cynyddu capasiti eu rhwydweithiau i ddarparu ar gyfer cynnydd yn y defnydd o ddata.

Rydym yn rheoleiddio prisiau telathrebu cyfanwerthol mewn ffordd sy'n gosod yr amodau cywir i gwmnïau adeiladu'r rhwydweithiau cyflymach a mwy dibynadwy hyn. Yn gyffredinol, mae band eang 'cyfradd gigabit' cenhedlaeth nesaf a gwasanaethau symudol 5G bellach ar gael i saith o bob deg safle yn y DU – tua 21 miliwn o gartrefi.

Nodiadau

  1. Cyfwelodd Yonder â chyfanswm o 3,499 o bobl – 1,764 o gwsmeriaid symudol talu'n fisol a 1,735 o gwsmeriaid band eang sefydlog – rhwng 6 ac 11 Ionawr 2023, gan ddefnyddio methodoleg ar-lein. Gosodwyd cwotâu seiliedig ar ranbarth, oedran, rhywedd a statws gwaith, a phwysolwyd y data i fod yn gynrychioliadol o boblogaeth y DU yn genedlaethol.
  2. Mae ein rhaglen orfodi'n archwilio contractau yr ymrwymwyd iddynt rhwng 1 Mawrth 2021 a 16 Mehefin 2022. Ar 17 Mehefin 2022, fe wnaethom gryfhau ein rheolau fel bod cwsmeriaid bellach yn derbyn crynodeb ysgrifenedig o brif delerau eu contract cyn iddyn ymrwymo. Fe wnaethom hefyd gyflwyno arweiniad sy'n egluro y dylai darparwyr gynnwys enghreifftiau clir o sut y bydd unrhyw gynnydd chwyddiant cynlluniedig yn effeithio ar y pris y bydd cwsmeriaid yn ei dalu. Os yw'r cynnydd yn defnyddio mynegai chwyddiant fel CPI neu RPI, dylai darparwyr ddefnyddio'r ffigur diweddaraf. Gallai enghraifft o eiriad sy'n nodi cynnydd mewn prisiau ddweud: Ym mis Ebrill bob blwyddyn bydd eich pris yn codi fesul swm sy'n hafal i'r gyfradd CPI a gyhoeddwyd ym mis Mawrth y flwyddyn honno, plws 3.9%. Gan ddefnyddio'r gwerth CPI a gyhoeddwyd ym mis Ionawr 2023 o 10.5%, plws 3.9%, byddai hyn yn golygu y byddai eich pris misol o £40 yn codi i £45.76 o fis Ebrill 2023.

Related content