Blwyddyn gyntaf Ofcom o reoleiddio llwyfannau rhannu fideos

20 Hydref 2022

Dyma adroddiad cyntaf Ofcom ar lwyfannau rhannu fideo (VSP) ers i ni gael ein penodi'n rheoleiddiwr statudol ar gyfer llwyfannau a sefydlir yn y DU.

Blwyddyn gyntaf Ofcom o reoleiddio llwyfannau rhannu fideos (PDF, 329.4 KB)

Mae rhan gyntaf yr adroddiad yn nodi ein canfyddiadau allweddol o'r flwyddyn gyntaf o reoleiddio (mis Hydref 2021 i fis Hydref 2022). Rydym hefyd yn esbonio ein hymagwedd at flwyddyn nesaf y gyfundrefn.

Mae ail ran yr adroddiad yn disgrifio'r mesurau mae llwyfannau wedi'u rhoi ar waith i ddiogelu eu defnyddwyr. Rydym wedi cynnwys yr wybodaeth hon i fod yn dryloyw am yr hyn y mae'r llwyfannau'n ei wneud, ac i godi ymwybyddiaeth o sut mae VSPs yn diogelu eu defnyddwyr rhag cynnwys niweidiol. Rydym yn adrodd ar y llwyfannau a ganlyn (Saesneg yn unig):

  1. TikTok
  2. Snapchat
  3. Twitch
  4. Vimeo
  5. BitChute
  6. VSPs bach
  7. OnlyFans
  8. VSPs bach i oedolion

Y dirwedd VSP

Rydym hefyd wedi cyhoeddi adroddiad ar y dirwedd VSP yn y DU. Mae'r adroddiad yn defnyddio ymchwil a dadansoddi a gomisiynwyd gan Ofcom i ddisgrifio cyd-destun cymhwyso mesurau amddiffyn gan ddarparwyr. Mae hefyd yn cyflwyno barn defnyddwyr am eu profiad o ddefnyddio VSP.

The VSP landcape: Understanding the video-sharing platform industry in the UK (PDF, 1.3 MB) (Saesneg yn unig)

Profiadau ac agweddau defnyddwyr VSP

Rydym wedi cyhoeddi'r tair set o ymchwil a ganlyn ochr yn ochr â'r adroddiad hwn (Saesneg yn unig):

Mae'r pryderon a'r mesurau a drafodir yn yr adroddiadau hyn yn mynd y tu hwnt i gwmpas y niwed a'r mesurau yn y ddeddfwriaeth VSP. Mae'r ymchwil yn cynnwys llwyfannau nad ydynt yn cael eu rheoleiddio gan Ofcom ar hyn o bryd o dan y gyfundrefn VSP, ond maent yn dal i ddarparu cyd-destun pwysig o ran deall y dirwedd VSP. Gan y rhai a gymerodd ran yn yr ymchwil, nid gan Ofcom, y mae'r holl safbwyntiau a fynegir yn yr adroddiadau hyn.