Gwasanaethau cyfathrebiadau i bobl anabl


Mae Ofcom yn ei gwneud yn ofynnol i ddarparwyr cyfathrebu ddarparu amrywiaeth o wasanaethau sydd wedi'u cynllunio er budd pobl anabl, gan gynnwys:

  • mynediad at wasanaeth cyfnewid testun 'cenhedlaeth nesaf' cymeradwy ar gyfer galwadau i bobl sydd â nam ar y clyw neu'r lleferydd, gyda thariffau arbennig i ddigolledu cwsmeriaid anabl am yr amser ychwanegol y mae'r galwadau hyn yn ei gymryd.  Gellir cyrchu cyfnewid testun cenhedlaeth nesaf o offer prif ffrwd megis cyfrifiaduron, llechi a ffonau clyfar yn ogystal ag o ffonau testun. I gael gwybod mwy am y gwasanaeth hwn, ewch i RelayUK neu gweler canllaw defnyddwyr Ofcom.
  • mynediad at wasanaeth cyfnewid fideo brys cymeradwy ar gyfer defnyddwyr Iaith Arwyddion Prydeinig (BSL) byddar. Gellir cael mynediad at y gwasanaeth hwn o unrhyw ddyfais gysylltiedig, megis PC, tabled neu ffôn clyfar, trwy wefan 999BSL neu ap 999BSL. Mae'n rhad ac am ddim i'w ddefnyddio ac mae'r data a ddefnyddir ar gyfer yr alwad ar gyfradd sero. Am fwy o wybodaeth ewch i wefan 999BSL.
  • mynediad at SMS brys (symudol yn unig) trwy ddefnyddio'r rhifau galwadau brys "112" a "999" heb unrhyw dâl am bobl sydd â nam ar eu clyw neu leferydd y mae angen iddynt gysylltu â'r gwasanaethau brys.  I ddefnyddio'r gwasanaeth hwn, tecstiwch 'register' i 999 neu 112.  Dim ond tua munud y mae cofrestru'n ei gymryd, felly mae'n bosib cofrestru mewn argyfwng, ond argymhellir cofrestru ymlaen llaw yn gryf. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i RelayUK.
  • mynediad at ymholiadau cyfeiriadur am ddim gyda chysylltiad galwadau trwodd ar gyfer pobl na allant ddefnyddio cyfeirlyfr printiedig oherwydd anabledd.
  • blaenoriaeth wrth drwsio diffygion (llinell dir a band eang ond nid symudol) ar gyfer unrhyw un anabl sydd angen gwaith atgyweirio gwirioneddol ar frys. Mae'n rhaid i daliadau am hyn beidio â bod yn fwy na thâl safonol y darparwr am wasanaeth trwsio diffyg.
  • rheoli bil trydydd parti ar gyfer unrhyw gwsmer anabl, gan alluogi ffrind neu berthynas enwebedig i weithredu ar eu rhan o ran rheoli biliau.
  • cyfathrebiadau sy'n ymwneud â gwasanaethau cyfathrebu mewn fformat rhesymol dderbyniol megis print mawr a Braille. Mae hyn ar gais gan gwsmer sydd angen y fath fformat oherwydd eu hanabledd.

Mae Erthyglau i'r Deillion Articles for the Blind sef gwasanaeth post am ddim i bobl ddall ac â nam ar eu golwg y mae'n rhaid i'r Post Brenhinol eu darparu sy'n hepgor yr holl gostau danfon:

  • Llyfrau, deunyddiau printiedig, llythyrau, mapiau cerfwedd
  • Cyfryngau sain ac electronig
  • Offer megis chwyddwydrau a chymhorthion symudedd.

Mae angen i chi gofrestru ymlaen llaw ar gyfer rhai o'r gwasanaethau hyn – cysylltwch â'ch darparwr cyfathrebu neu'r Post Brenhinol am wybodaeth ynglŷn â sut i wneud hyn. Mae'n ofynnol i ddarparwyr cyfathrebu roi cyhoeddusrwydd i'r gwasanaethau sydd ar gael i bobl anabl.

Mae Rhwydwaith Rheoleiddwyr y DU (UKRN) hefyd wedi cyhoeddicyngor ynghylch y cymorth ychwanegol sydd ar gael i bobl hŷn, sâl, neu anabl wrth ddefnyddio gwasanaethau megis nwy, trydan, dŵr, ffonau a chludiant cyhoeddus.

Erbyn hyn gall defnyddwyr BSL byddar ffonio'r gwasanaethau brys yn eu hiaith gyntaf.

Mae Ofcom wedi mynnu bod cwmnïau telathrebu'n darparu cyfnewid fideo brys yn y DU. Bydd hyn yn ei gwneud yn haws i ddefnyddwyr Iaith Arwyddion Prydeinig byddar gael yr help sydd ei angen arnynt, fel yr heddlu, ambiwlans neu frigâd dân, mewn argyfwng.

Bydd cyfnewid testun brys a SMS brys yn parhau i fod ar gael ochr yn ochr â chyfnewid fideo brys.

Hoffem ddiolch i'r bobl fyddar sydd wedi ymgyrchu dros y newid hwn, ac sydd wedi rhoi cyngor i Ofcom.

I ddefnyddio cyfnewid fideo brys, bydd angen dyfais gysylltiedig arnoch fel ffôn clyfar, llechen neu gyfrifiadur. Gellir cael mynediad i gyfnewid fideo brys drwy wefan benodedig neu'r ap 999BSL. Lawrlwythwch yr ap 999BSL i'ch ffôn neu lechen, ac anogwch eich ffrindiau a theulu byddar i wneud yr un peth. Cyfeiriad y wefan yw 999bsl.co.uk.

Pum peth allweddol am gyfnewid fideo brys:

  1. Ar gael 24 awr y dydd
  2. Am ddim i'w ddefnyddio
  3. Mae'r gwasanaethau brys yn trin galwadau BSL 999 yn yr un modd yn union â galwadau llais 999 - mae ganddynt yr un flaenoriaeth ac yn cael eu hateb gan yr un staff yn yr ystafell argyfwng.
  4. Yn yr un modd yn union â galwadau llais 999, darperir eich lleoliad fel arfer i'r gwasanaethau brys
  5. Mae'r staff yn ddehonglwyr cymwysedig a phrofiadol

Crëwyd y fideo hwn gan Ofcom. Ni yw rheoleiddiwr y DU ar gyfer gwasanaethau cyfathrebu gan gynnwys band eang, ffôn cartref a gwasanaethau symudol, yn ogystal â theledu, radio a'r post.

Cwestiwn Cyffredin 1: A ellir cael mynediad i gyfnewid fideo brys o'r tu allan i'r DU?

Mae'n bosib y gallai pobl wneud galwadau cyfnewid fideo brys o'r tu allan i'r DU, ond dim ond ag ystafelloedd rheoli 999 yn y DU y gellir cysylltu'r galwadau. Mae galwadau llais 999 weithiau'n cael eu derbyn o'r tu allan i'r DU, e.e. o ffonau symudol yn agos i'r ffin ag Iwerddon. Ymdrinnir â'r galwadau hyn gan awdurdodau brys y DU, felly mae hyn yn gyfwerth.

Cwestiwn Cyffredin 2: Beth os oes angen i mi gofrestru i ddefnyddio Wi-Fi, er enghraifft ar drên neu mewn gwesty?

Mae'n bosib y bydd angen cofrestru i ddefnyddio Wi-Fi ar drên neu mewn gwesty. Allwn ni ddim reoli sut mae busnesau preifat yn rheoli eu rhwydweithiau. Fodd bynnag, mae'n rhaid i gyfnewid fideo brys fod yn gyfradd sero o dan reolau Ofcom, felly dylai fod modd i ddefnyddwyr ddefnyddio eu dyfeisiau eu hunain gyda data symudol am ddim, heb redeg allan o ddata na chodi tâl ychwanegol.