Diffodd rhwydweithiau symudol 3G y DU: beth mae angen i chi ei wybod

06 Mawrth 2024

Bydd y rhwydweithiau 3G symudol yn cael eu diffodd yn raddol dros y blynyddoedd nesaf. Dyma beth mae hyn yn ei olygu i chi fel cwsmer.

Ar hyn o bryd mae gwasanaethau symudol y DU yn defnyddio pedair 'cenhedlaeth' wahanol o dechnoleg symudol: 2G, 3G, 4G a 5G. Mae rhwydweithiau 3G wedi bodoli ers 2003 ac maent yn cael eu defnyddio ar gyfer galwadau, negeseuon testun, a gwasanaethau data cyflymder is.

Mae'r darparwyr symudol wedi penderfynu diffodd eu rhwydweithiau 3G, gan ddechrau yn gynnar eleni. Bydd hyn yn effeithio ar gwsmeriaid ar y rhwydweithiau hynny sy'n defnyddio dyfeisiau a gwasanaethau symudol hŷn.  Os oes gennych ddyfais neu wasanaeth symudol 4G neu 5G, mae'r newid hwn yn annhebygol o effeithio arnoch chi ac efallai mai dim ond diweddaru’r feddalwedd neu’r gosodiadau y bydd angen i chi ei wneud.

Mae rhwydweithiau 3G yn dibynnu ar dechnoleg hŷn sy'n llai effeithlon

Mae darparwyr symudol yn diffodd eu rhwydweithiau 3G i greu lle ar gyfer y rhwydweithiau 4G a 5G mwy soffistigedig. Gall cwsmeriaid gael gwasanaethau gwell, cyflymach a mwy dibynadwy drwy 4G a 5G.

Mae'r darparwyr yn diffodd eu rhwydweithiau ar adegau gwahanol

Mae pob darparwr symudol yn gosod ei amserlen ei hun ar gyfer diffodd ei rwydwaith 3G. Efallai y bydd yr amseriadau hyn yn newid, a dylech wirio gwefan eich darparwr symudol am yr wybodaeth ddiweddaraf:

  • Mae Vodafone yn bwriadu cwblhau'r broses ddiffodd yn gynnar yn 2024.
  • Mae EE yn bwriadu diffodd yn gynnar yn 2024, gan ddechrau ym mis Ionawr.
  • Mae Three yn disgwyl diffodd erbyn diwedd 2024.
  • Mae O2 yn bwriadu diffodd yn 2025.

Dyma'r pedwar prif ddarparwr rhwydwaith symudol yn y DU. Mae pob cwmni symudol arall yn darparu eu gwasanaethau dros y rhwydweithiau hyn. Er enghraifft:

Bydd amseriadau diffodd 3G y darparwyr hyn yr un fath â'r rhwydwaith y maent yn ei ddefnyddio.

Bydd eich darparwr symudol yn dweud wrthych a ydych wedi'ch effeithio

Bydd eich darparwr symudol yn cysylltu â chi i roi gwybod i chi a yw’n effeithio arnoch chi a pha gamau y bydd angen i chi eu cymryd. Efallai y bydd modd i chi hefyd wirio gosodiadau eich dyfais i weld a oes 4G ar gael arni – gwiriwch hyn o dan 'mobile networks' neu 'mobile data’.

Os oes gennych ddyfais fwy diweddar, mae'n bosib na fydd angen i chi wneud unrhyw beth

Os ydych eisoes yn defnyddio dyfais 4G neu 5G mwy diweddar, ni ddylai fod angen i chi wneud unrhyw beth.  Efallai y bydd angen diweddaru meddalwedd neu osodiadau rhai dyfeisiau 4G o hyd i sicrhau bod unrhyw alwadau rydych chi'n eu gwneud yn defnyddio'r rhwydwaith cywir.  Bydd eich darparwr yn dweud wrthych a yw hynny'n wir ac yn egluro sut i wneud y diweddariadau angenrheidiol.

Os oes gennych ddyfais hŷn, bydd angen i chi gael un newydd

Os ydych chi'n defnyddio dyfais hŷn nad yw'n caniatáu i chi ddefnyddio 4G neu 5G, bydd angen i chi gael un newydd i barhau i gael mynediad at eich data symudol. Unwaith eto, bydd eich darparwr yn dweud wrthych a yw hyn yn berthnasol i chi, felly cadwch lygad am unrhyw negeseuon y maent yn eu hanfon atoch chi. Dylent roi digonedd o rybudd i chi fel bod gennych amser i ddod o hyd i'r ddyfais gywir ar eich cyfer.

Os ydych chi'n poeni na fyddwch yn gallu fforddio dyfais newydd, dywedwch wrth eich darparwr. Efallai y byddan nhw'n gallu cynnig cefnogaeth ychwanegol a’ch helpu i ddod o hyd i opsiynau fforddiadwy. Mae'n werth siopa o gwmpas hefyd - mae ffonau 4G sylfaenol ar gael o gyn lleied â £10.

Bydd cwsmeriaid sydd â dyfais hŷn ar rwydweithiau EE, Vodafone ac O2 yn gallu gwneud galwadau ac anfon negeseuon testun o hyd ar ôl i 3G gael ei ddiffodd. Gall y gwasanaethau hyn ddefnyddio'r rhwydwaith 2G nad yw'n cael ei ddiffodd eto. Ond nid oedd y rhwydwaith 2G wedi'i ddylunio i gyrchu gwasanaethau data, felly ni fydd cwsmeriaid sydd â dyfeisiau hŷn yn gallu cael mynediad i'r rhan fwyaf o'u gwasanaethau data symudol mwyach ar ôl i 3G gael ei ddiffodd (ond pan fydd dyfeisiau hŷn yn gallu cysylltu â Wi-Fi, gall cwsmeriaid ei ddefnyddio i gael mynediad at wasanaethau data).

Nid oes gan Three rwydwaith 2G, felly os ydych chi'n defnyddio rhwydwaith Three ar ddyfais hŷn nad yw’n caniatáu i chi ddefnyddio 4G neu 5G, bydd angen i chi gael un newydd er mwyn sicrhau eich bod yn gallu parhau i wneud galwadau, anfon negeseuon testun a chael mynediad at ddata symudol ar ôl 2024.

Cysylltwch â ffrindiau a theulu rydych chi'n meddwl y gallai’r newidiadau hyn effeithio arnynt i weld a oes angen unrhyw gymorth arnynt i ddeall beth sydd angen ei wneud.

Os ydych chi’n prynu dyfais, gwnewch yn siŵr ei bod yn cefnogi 4G

Os ydych chi’n prynu dyfais, yn enwedig gan werthwr trydydd parti (fel marchnadoedd ar-lein neu mewn archfarchnad), gwnewch yn siŵr ei bod yn cefnogi rhwydwaith 4G os ydych chi am ei defnyddio i gael gafael ar wasanaethau data symudol. Dylai’r gwerthwr ddweud wrthych pa rwydweithiau (a elwir weithiau’n ‘dechnolegau’) y gall y ddyfais eu defnyddio.

Mae’n bosib y bydd hyn yn effeithio ar fathau eraill o ddyfeisiau

Efallai fod dyfeisiau eraill, fel larymau gofal, larymau diogelwch a therfynellau talu hefyd yn defnyddio’r rhwydwaith 3G. Os oes gennych chi un o’r dyfeisiau hyn, efallai y bydd angen eu huwchraddio i wneud yn siŵr eu bod yn dal yn gweithio ar ôl diffodd y rhwydweithiau 3G. Holwch gyflenwr eich dyfais neu ddarparwr eich gwasanaeth i weld a fydd hyn yn effeithio ar eich dyfais.

Bydd 2G yn cael ei ddiffodd erbyn 2033

Mae'r holl ddarparwyr ffonau symudol wedi cadarnhau i Lywodraeth y DU nad ydynt yn bwriadu cynnig eu gwasanaethau 2G (na 3G) y tu hwnt i 2033.

Rydyn ni'n disgwyl y bydd darparwyr symudol yn dechrau gwneud cynlluniau i ddiffodd eu rhwydweithiau 2G rywbryd ar ôl iddynt ddiffodd eu rhwydweithiau 3G. Nid oes unrhyw un o'r darparwyr wedi pennu dyddiad penodol eto, mae EE wedi dweud y bydd yn diffodd 2G ‘yn ddiweddarach y degawd hwn’. Byddwn yn diweddaru'r cyngor hwn pan fydd rhagor o fanylion ar gael.

Mae rhwydweithiau 2G a 3G hefyd yn cael eu diffodd ar draws y byd

Mae rhwydweithiau 2G a 3G yn cael eu diffodd yn raddol ar draws y byd; yn UDA, mae'r holl rwydweithiau 3G eisoes wedi cael eu diffodd. Mae gan bob gwlad amserlen ddiffodd wahanol.

Os ydych chi'n teithio i wlad lle mae'r proses ddiffodd eisoes wedi dechrau, efallai y bydd yn effeithio ar eich profiad crwydro. Mewn rhai achosion, mae'n bosibl na fydd modd i chi wneud galwadau na chael mynediad at ddata oni bai eich bod wedi'ch cysylltu â Wi-Fi (yn enwedig os oes gennych fodel ffôn hŷn). Siaradwch â'ch darparwr cyn i chi adael y DU a darllen ein cyngor cysylltiedig ar ddefnyddio eich ffôn dramor.

Mwy o wybodaeth

Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau neu bryderon ynghylch diffodd 3G, cysylltwch â'ch darparwr symudol.

Rydyn ni hefyd wedi cyhoeddi gwybodaeth am sut rydyn ni’n disgwyl i ddarparwyr symudol fynd ati i ddiffodd eu rhwydweithiau.

Rhoi barn am y dudalen hon

Oedd y dudalen hon yn ddefnyddiol?