Beth yw 5G?


5G yw’r genhedlaeth newydd o dechnoleg ddi-wifr.

Mae’n dilyn cenedlaethau technoleg symudol blaenorol fel 3G, a arweiniodd at lansio ffonau clyfar, a 4G, fu’n galluogi pori cyflymach, gan alluogi ni i wneud pethau fel gwylio fideos pan fyddwn ar grwydr.

Mae’r pedwar prif rwydwaith symudol yn y DU wedi lansio gwasanaethau 5G. Mae cwmnïau technoleg hefyd yn cyflwyno dyfeisiau 5G.

Mwy o ddata, mwy o ddyfeisiau cysylltiedig, ymateb sydyn

I ddechrau, mae 5G yn gyflymach o lawer na chenedlaethau blaenorol o dechnoleg ddi-wifr. Ond, nid cyflymder mo’r unig wahaniaeth. Mae 5G hefyd yn cynnig mwy o gapasiti, gan alluogi i filoedd o ddyfeisiau mewn ardal fach gysylltu ar yr un pryd.

Mae’r gostyngiad mewn oedi (sef y cyfnod rhwng cyfarwyddo dyfais ddi-wifr i berfformio gweithrediad a chwblhau'r gweithrediad hwnnw) yn golygu bod 5G yn ymateb yn well hefyd. Bydd hyn yn rhoi diwedd ar yr oedi sy’n gallu digwydd mewn gemau ar-lein rhwng yr hyn y mae chwaraewr yn ei wneud ar ei reolydd a’r hyn sy’n digwydd ar y sgrin.

Ond mae’r gwahaniaethau mwyaf yn mynd ymhell y tu hwnt i wella’r ffordd rydym yn defnyddio technoleg bresennol fel ffonau clyfar neu gonsolau gemau. Mae’r cysylltedd a’r capasiti y mae 5G yn ei gynnig yn darparu'r potensial ar gyfer gwasanaethau newydd ac blaengar.

Gall pobl a busnesau fod ar eu hennill ohono mewn ffyrdd niferus

Mae 5G eisoes yn cael ei ddefnyddio a’i brofi ar draws nifer o sectorau, gan greu buddion ar gyfer pobl a busnesau.

Er enghraifft, mae un cyngor lleol wedi gosod nodau 5G ar bolion golau i greu rhwydwaith i helpu cleifion gofal cymdeithasol. Hyd yn hyn mae wedi helpu i gysylltu cleifion a’u teuluoedd drwy realiti rhithwir, yn ogystal â galluogi i fiofonitorau ganfod bod cleifion yn dioddef o ddiffyg hylif. Mae hefyd yn cael ei ddefnyddio i gysylltu systemau fideo sy’n caniatáu i fferyllwyr wirio o bell a yw cleifion yn cymryd eu meddyginiaeth.

Mae 5G hefyd yn cael ei ddefnyddio mewn ffermio – un enghraifft o hyn yw peiriannau ffermio sy'n rheoli eu hunain. Mae peiriannau yn symud o amgylch y cae gan ddefnyddio synhwyrydd fideo, ac yn rhoi gwrtaith a phlaleiddiaid yn y lleoedd sydd eu hangen. Mae hyn yn helpu i arbed adnoddau a gwella effeithlonrwydd.

Mae 5G hefyd yn galluogi gwneuthurwyr i ddefnyddio peiriannau clyfar, sy’n darparu data amser real ac yn ymateb iddo gyda'r nod o wella effeithlonrwydd.

Gallai rhwydweithiau trafnidiaeth, awdurdodau lleol a chyrff cyhoeddus eraill ei ddefnyddio i wella gwasanaethau cyhoeddus fel parcio, rheoli traffig a goleuadau stryd.

Gallai hefyd arwain at newidiadau mawr mewn gofal iechyd. Er enghraifft, trwy alluogi technoleg all ganiatáu i fyfyrwyr meddygol ymarfer llawdriniaeth mewn amgylchedd rhithwir cysylltiedig sy’n adlewyrchu profiad go iawn, gan eu galluogi i ‘deimlo’ y llawdriniaeth y maent yn ei hymarfer hyd yn oed.

Ar hyn o bryd, mae un rhwydwaith symudol yn treialu ‘ambiwlansys clyfar’ a gyfarperir gyda thechnoleg 5G, a fydd yn ymchwilio i sut y gellir trin cleifion mewn argyfwng drwy gysylltu parafeddygon â staff mewn ysbytai.

Mae’r cysylltedd y mae 5G yn ei gynnig hefyd yn caniatáu i gymwysiadau sy'n bodoli eisoes weithio’n gyflymach ac yn fwy dibynadwy.

Nid yw'n peri unrhyw risg i iechyd

Yn y DU, mae Public Health England (PHE) yn arwain ar faterion iechyd sy’n ymwneud â meysydd electromagnetig o amleddau radio, neu donnau radio. Mae'n ddyletswydd arno hefyd i roi cyngor i Lywodraeth y DU ynglŷn ag unrhyw effeithiau y gallai allyriadau EMF eu cael ar iechyd pobl. O ran 5G, barn PHE yw: ‘y disgwylir y bydd y cyswllt cyffredinol yn parhau i fod yn isel o’i gymharu â’r canllawiau, a chan hynny, ni ddylai fod unrhyw effaith ar iechyd y cyhoedd’.

Rydym wedi mesur yr allyriadau maes electromagnetig o gyfarpar a ddefnyddir i drawsyrru signalau symudol a gwasanaethau di-wifr eraill am nifer o flynyddoedd. Rydym wedi ymestyn y rhaglen fesur hon i gynnwys yr amleddau sy’n cael eu defnyddio ar gyfer 5G.

Bu i ni fesur 16 o safleoedd 5G mewn amrywiaeth o ddinasoedd a threfi ar draws y DU, gan ganolbwyntio ar ardaloedd lle mae'r defnydd o ddyfeisiau symudol yn debygol o fod ar ei uchaf. Ym mhob safle, roedd yr allyriadau’n gyfran fach iawn o’r lefelau sydd wedi’u cynnwys mewn canllawiau rhyngwladol a sefydlwyd gan y Comisiwn Rhyngwladol ar Ddiogelu rhag Pelydriad nad yw’n Ïoneiddio (ICNIRP).

Mae mwy o wybodaeth ar gael am amlygiad i feysydd electromagnetig.

Rôl Ofcom mewn 5G

Rydym yn gweithio gyda Llywodraeth y DU a'r diwydiant i helpu’r DU i fod yn arweinydd byd-eang ym maes 5G.

Rydym wedi rhyddhau’r tonnau awyr sydd eu hangen er mwyn i ddyfeisiau 5G weithio, ac rydym wedi helpu cwmnïau i brofi gwasanaethau 5G, i helpu i roi dechrau da i wasanaethau arloesol newydd.

Rydym yn helpu busnesau bach a busnesau newydd trwy roi mynediad iddynt i'r tonnau awyr y mae arnynt eu hangen i sefydlu eu rhwydweithiau 5G lleol eu hunain. Mae’r tonnau awyr hyn wedi’u trwyddedu i gwmnïau ffonau symudol, ond nid ydynt yn cael eu defnyddio ganddynt.

Rydyn ni wedi gweithio gyda Llywodraeth y DU i gynhyrchu canllaw i 5G (PDF, 610.6 KB) y gall awdurdodau lleol a chyrff eraill ei ddefnyddio wrth ymdrin ag ymholiadau.

Beth yw sbectrwm?

Allwch chi ddim gweld na theimlo sbectrwm radio. Ond mae angen sbectrwm ar unrhyw ddyfais sy’n cyfathrebu’n ddiwifr - fel setiau teledu, allweddi ceir, monitorau babanod meicroffonau diwifr a lloerennau. Mae ffonau symudol yn defnyddio sbectrwm i gysylltu â mast lleol er mwyn i bobl allu gwneud galwadau ffôn a defnyddio'r rhyngrwyd.

Pam fod Ofcom yn rheoli'r defnydd o sbectrwm?

Dim ond hyn a hyn o sbectrwm sydd ar gael, felly mae angen ei reoli’n ofalus. Mae bandiau penodol o sbectrwm yn cael eu defnyddio at ddibenion gwahanol. Er enghraifft, mae cwmnïau ffonau symudol yn defnyddio gwahanol rannau o’r sbectrwm i gwmnïau teledu. Felly mae angen ei reoli i sicrhau nad oes ymyrraeth ar wasanaethau ac na amherir ar bobl ac ar fusnesau.