Mae gan bob cartref a busnes yn y DU hawl cyfreithiol i ofyn am gysylltiad band eang teilwng a fforddiadwy.
O 20 Mawrth 2020 ymlaen, os na allwch chi gael cyflymder llwytho i lawr o 10Mbit yr eiliad a chyflymder llwytho i fyny o 1 Mbit yr eiliad, gallwch ofyn i uwchraddio eich cysylltiad. Gallwch wneud y cais hwn i BT. Does dim angen i chi fod yn gwsmer presennol gyda BT i wneud cais.
Efallai bod gan gwmnïau band eang lai o bobl i helpu oherwydd y coronafeirws (Covid-19). Felly cyn cysylltu gyda BT gyda'ch cais, rydyn ni'n argymhell eich bod yn ymweld â gwefan BT – os gallwch chi yn y man cyntaf -yn hytrach na'u ffonio. Yma, gallwch chi wirio os ydych chi'n gymwys a dod o hyd i mwy o wybodaeth ynghylch sut i wneud cais.
Pan rydych chi’n cysylltu â BT, bydd ganddynt 30 diwrnod i gadarnhau os ydych yn gymwys, a rhoi pris ar gyfer adeiladu eich cysylltiad.
Bydd eich cartef neu eich busnes yn gymwys os:
Os mai dim ond gwasanaeth teilwng sy’n costio mwy na £46.10 y mis sydd gennych ar hyn o bryd, bydd gennych hawl i ofyn am gysylltiad gwasanaeth cyffredinol hefyd.
Os yw’r gost o adeiladu neu uwchraddio eich cyfran chi o gysylltiad y rhwydwaith yn £3,400 neu lai, ni fydd rhaid i chi dalu am y gwaith hwn.
Os bydd yn costio mwy na £3,400 i gysylltu eich cartref, ac rydych chi dal eisiau cysylltiad, bydd rhaid i chi dalu’r costau ychwanegol. Os ydych chi eisiau gwneud hyn, bydd BT yn cynnal arolwg ac yn rhoi dyfynbris i chi cyn pen 60 diwrnod.
Byddwch yn talu’r un pris am eich gwasanaeth band eang newydd ag unrhyw un arall ar yr un pecyn, a dim mwy na £46.10 y mis.
Bydd y rhan fwyaf o bobl yn cael cysylltiad o fewn 12 mis, ond gall gymryd hyd at 24 mis i rai.
Os nad ydych yn gymwys, bydd BT yn dweud wrthych beth yw eich opsiynau:
Os bydd BT yn penderfynu nad ydych yn gymwys, dylent ddweud wrthych chi am eich hawl i herio’r penderfyniad hwn. Dylent ddweud wrthych chi sut i wneud cwyn hefyd.
Mae gan gwsmeriaid fynediad am ddim i gynlluniau dulliau amgen o ddatrys anghydfod. Bydd y cynlluniau hyn yn eich helpu i ddatrys eich problem os na fydd y cwyn wedi’i datrys ar ôl 8 wythnos, neu’n gynt os yw BT wedi penderfynu nad oes modd iddynt ddatrys y sefyllfa. Does dim angen i chi fod yn gwsmer presennol gyda BT i wneud cais.
Er nad yw Ofcom yn ymchwilio i gwynion unigol, mae eich help chi i dynnu sylw at broblemau yn rhan hanfodol o’n gwaith. Gallwch gwyno wrth Ofcom ar ein gwefan, neu drwy ein ffonio ar y llinell iaith Gymraeg ar 0300 123 2023 neu gallwch ffonio’r ganolfan cwynion canolog ar 0300 123 333 neu 020 7981 3040.
Eich hawl i ofyn am wasanaeth band eang teilwng (PDF, 433.9 KB)