Iawndal awtomatig. Beth mae angen i chi ei wybod

28 Mawrth 2024

Mae ein cynllun iawndal awtomatig yn golygu y bydd cwsmeriaid band eang a llinell dir yn cael arian yn ôl o’u darparwr pan fydd pethau’n mynd o’i le, heb orfod gofyn amdano.

Ydy eich darparwr wedi ymrwymo i'r cynllun?

Mae'r cwmnïau canlynol wedi ymrwymo i'r cynllun:

  • BT (ymunodd 1 Ebrill 2019)
  • EE (ymunodd 4 Mai 2021)
  • Hyperoptic (ymunodd 28 Hydref 2019)
  • Plusnet (gan gynnwys John Lewis Broadband) (ymuodd 4 Mai 2022)
  • Sky (gan gynnwys NOW Broadband) (ymunodd 1 Ebrill 2019)
  • TalkTalk (ymunodd 1 Ebrill 2019)
  • Utility Warehouse (ymunodd 17 Chwefror 2020)
  • Virgin Media (ymunodd 1 Ebrill 2019)
  • Vodafone (ymunodd 3 Tachwedd 2021) (ar gyfer cwsmeriaid ar y rhwydwaith Openreach yn unig)
  • Zen Internet (ymunodd 1 Ebrill 2019)

Pryd y byddwch chi'n derbyn iawndal

Bydd cwmnïau sydd wedi ymrwymo i’r cynllun yn darparu iawndal am oedi i atgyweiriadau yn dilyn colli gwasanaeth, colli apwyntiadau atgyweirio, ac oedi wrth ddechrau gwasanaeth newydd.

Problem

Byddai gan gwsmer llinell dir neu fand eang hawl i gael iawndal os...Fain o iawndal
Oedi cyn trwsio ar ôl colli gwasanaethMae'r gwasanaeth wedi sopio gweithio a heb ei drwsio'n iawn ar ôl dau ddiwrnod gwaith llawn.£9.76 am bob diwrnod calendr dydy'r gwasanaeth heb ei drwsio. 
Methu apwyntiadauDydy peiriannydd ddim yn dod i apwyntiad sydd wedi cael ei drefnu, neu mae'n cael ei ganslo gyda llai na 24 awr o rybudd.£30.49 fesul apwyntiad sy'n cael ei fethu.
Oedi cyn dechrau gwasanaeth newdyddMae'r darparwr yn addo debrau gwasanaeth ar ddyddiad penodol ond yn methu gwneud hynny. £6.10 am bob diwrnod calendr o oedi, gan gynwys y dyddiad dechrau a fethwyd.

Mae taliadau iawndal yn codi bob blwyddyn yn unol â chwyddiant. Bydd taliadau'n codi o 1 Ebrill bob blwyddyn yn seiliedig ar y Mynegai Prisiau Defnyddwyr (CPI) ar 31 Hydref y flwyddyn flaenorol. Bydd y cynnydd yn y taliad yn berthnasol i unrhyw broblemau gwasanaeth newydd sy'n digwydd o 1 Ebrill.

Os yw eich llinell dir a band eang ill dau'n colli gwasanaeth ar yr un pryd, dim ond un taliad iawndal y byddwch yn ei dderbyn.

Beth y mae angen i chi ei wneud i dderbyn iawndal

Os nad yw eich gwasanaeth yn dechrau ar y dyddiad a gytunwyd, neu os collir eich apwyntiad peiriannwr, bydd eich darparwr yn talu iawndal yn awtomatig. Mae hyn yn golygu nad oes angen i chi gymryd unrhyw gamau i dderbyn yr iawndal.

Os aiff eich gwasanaeth band eang neu linell dir yn ddiffygiol, dim ond adrodd y nam i’r darparwr sydd angen i chi ei wneud.  Os nad yw’r gwasanaeth wedi ei atgyweirio ar ôl dau ddiwrnod gwaith llawn, ni fydd yn rhaid i chi ofyn am iawndal neu gysylltu gyda’ch darparwr eto, gan fydd gan eich darparwr systemau ar waith sy’n golygu byddwch chi’n dechrau derbyn iawndal yn awtomatig os ydy’r gwaith atgyweirio'n cymryd mwy o amser na’r disgwyl.

Byddwch yn derbyn £9.76 yn ychwanegol os nad yw'r gwasanaeth wedi ei atgyweirio fewn dau ddiwrnod gwaith llawn wedi i chi gwyno amdano, ac yna £9.76 ar gyfer bob diwrnod llawn wedi hynny os chaiff ei atgyweirio.

Pa wasanaethau sy'n gymwys ar gyfer taliadau iawndal

Mae’r cynllun yn berthnasol i bob cynnyrch band eang a llinell dir sefydlog. Nid yw, fodd bynnag, yn berthnasol i gynhyrchion busnes.

Pryd y dylech chi dderbyn yr iawndal

Ni ddylai iawndal gael ei dalu’n hwyrach na:

  • 30 niwrnod calendr ar ôl datrys unrhyw oedi i ddechrau gwasanaeth newydd neu os caiff y gwasanaeth ei ganslo;
  • 30 niwrnod calendr ar ôl datrys colli gwasanaeth neu os caiff y gwasanaeth ei ganslo;
  • 30 niwrnod calendr yn dilyn dyddiad apwyntiad a gollwyd

Sut fydd yr iawndal yn cael ei dalu

Oni bai eich bod yn dod i gytundeb fel arall, bydd yr iawndal ar ffurf credyd ar eich bil. Bydd y credyd hwn yn ymddangos ar eich cyfrif o fewn y terfynau amser uchod ond gallai ymddangos ar eich bil yn ddiweddarach.

Gall eich darparwr gynnig dulliau iawndal amgen sydd o’r un gwerth neu uwch, cyhyd â'u bod yn eich hysbysu am faint y gallech chi dderbyn ar ffurf credyd ar eich bil.

O dan ba amgylchiadau efallai na fydd darparwr yn talu iawndal awtomatig o dan y cynllun?

Os collir y gwasanaeth o ganlyniad i offer neu weithgarwch yn eich cartref, nid oes hawl gennych i gael iawndal o’r cynllun.

Yn yr un modd, ni fyddwch yn derbyn iawndal os ydych chi’n torri’ch cytundeb, os mai chi a achosodd i'r gwasanaeth fethu neu os ydych chi'n ei atal rhag cael ei ddatrys - er enghraifft, os ydych chi’n gofyn am apwyntiad peiriannydd sy’n hwyrach na’r un a gynigwyd. gan achosi oedi wrth atgyweirio'r gwasanaeth.

Gall ddarparwyr roi cap ar yr iawndal y maent yn ei dalu. Ar ôl i’r 30 niwrnod wedi taliad iawndal awtomatig fynd heibio, gallant anfon hysbysiad stopio i chi i'ch hysbysu y bydd taliadau iawndal awtomatig yn dod i ben ar ôl 30 niwrnod ychwanegol.

Wedi hynny, bydd angen i’ch darparwr gymryd camau rhesymol i gynnig gwasanaeth amgen addas. Os na allant gynnig gwasanaeth amgen addas, bydd hawl gennych o hyd i dderbyn iawndal awtomatig o’r cynllun.

Oni bai bod esemptiad penodol yn berthnasol, mae'r cynllun yn mynnu i lofnodeion dalu iawndal awtomatig i gwsmeriaid os yw'r broblem wedi'i hachosi gan ddigwyddiad sydd y tu hwnt i reolaeth y cwsmer neu'r darparwr. Enghreifftiau o hyn yw tywydd eithafol, streiciau a gweithredoedd trydydd partïon.

Pan fydd llofnodeion yn hawlio eithriad i dalu iawndal awtomatig, rydym yn disgwyl iddynt gyfleu'n glir y rhesymau dros hynny i'w cwsmeriaid, a pharhau i weithredu er lles eu cwsmeriaid. At hynny, pan nad yw llofnodeion yn talu iawndal awtomatig am resymau dilys a bod cwsmeriaid heb wasanaeth, ni ddylid codi tâl ar gwsmeriaid am wasanaeth nad ydynt yn ei dderbyn.

Beth os nad ydych chi'n derbyn yr iawndal y credwch y dylech ei gael?

Os nad ydych yn derbyn yr iawndal y credwch fod gennych hawl iddo o dan y cynllun, trafodwch hynny ymhellach gyda’ch darparwr.  Gall cwynion sydd heb eu datrys gael eu hanfon drwy wasanaeth datrys anghydfod  amgen a gymeradwyir gan Ofcom.

Gweler y cod ymarfer llawn am fwy o fanylder.