Canllaw i gostau galwadau

14 Chwefror 2023

0800, 0870, 090, 020... oherwydd bod yna gynifer o rifau ffôn gwahanol mae hi’n gallu bod yn anodd cadw llygad ar faint mae’n ei gostio i’w ffonio. Felly beth maen nhw i gyd yn ei olygu?

Er bod llawer o alwadau'n rhan o'r munudau cynhwysol, sy'n rhan o'ch contract – ac felly nid ydynt yn costio mwy – nid yw pob un ohonynt yn rhan o becynnau bwndel ac yn cael eu codi ar sail 'y funud' neu 'fesul galwad'. Gallwch ddarganfod isafswm ac uchafswm taliadau nodweddiadol isod.

Enghreifftiau yn unig ydy’r prisiau a ddylech chi ddim eu defnyddio fel rhestr bendant o gostau galwadau. Bydd y costau go iawn yn dibynnu ar eich darparwr gwasanaeth cyfathrebu a nifer o ffactorau fel cynlluniau ffonio unigol, yr adeg o’r dydd a’r union rif rydych chi’n ei ffonio. Dylech chi holi eich darparwr cyn i chi ddeialu.

Rhoi barn am y dudalen hon

Oedd y dudalen hon yn ddefnyddiol?