Ers 31 Rhagfyr 2020, nid yw rheolau'r UE ar daliadau crwydro yn berthnasol mwyach yn y DU. Mae hyn yn golygu, fel cyrchfannau eraill, nad yw'r swm y gall eich darparwr symudol ei godi arnoch am ddefnyddio eich ffôn symudol yng ngwledydd yr UE, Norwy, Gwlad yr Iâ neu Liechtenstein wedi'i gapio mwyach.
Er bod y rhan fwyaf o ddarparwyr wedi nodi na fyddant yn ailgyflwyno nac yn codi taliadau ar unwaith, mae'n bosib y bydd rhai yn dewis gwneud hynny yn y dyfodol. Mae rhai mesurau diogelu defnyddwyr (e.e. negeseuon croeso, terfynau data crwydrol etc) yn parhau ar waith a byddant yn berthnasol ym mha wlad bynnag yr ydych yn defnyddio'ch ffôn symudol.
I gael arweiniad cyffredinol ar grwydro ac i'ch helpu i ddeall y mesurau diogelu sydd ar waith o hyd, rydym wedi llunio rhai cwestiynau cyffredin:
O dan reolau Ofcom, mae'n rhaid i ddarparwyr gyhoeddi manylion eu tariffau safonol, gan gynnwys taliadau crwydro safonol, ar eu gwefannau. Fodd bynnag, os ydych yn cael trafferth dod o hyd iddynt neu os ydych yn pryderu am y costau, siaradwch â'ch darparwr cyn i chi deithio er mwyn deall y taliadau ar gyfer y wlad rydych yn ymweld â hi ac i gael gwybod am unrhyw becynnau neu gyfraddau gostyngol y gallant eu cynnig.
Waeth ble rydych chi'n teithio, pan fyddwch chi'n mynd i wlad arall, mae'n rhaid i'ch darparwr anfon neges awtomatig atoch (oni bai eich bod wedi dewis peidio â derbyn y fath negeseuon) yn rhoi gwybod i chi am wybodaeth brisio sylfaenol.
Mae'n rhaid i gwmnïau roi o leiaf mis o rybudd i gwsmeriaid am unrhyw newidiadau i'w contract a fyddai'n eu rhoi o dan anfantais penodol. Yn y sefyllfaoedd hyn mae gan gwsmeriaid yr hawl i ymadael â'u contractau heb unrhyw dâl cosb. Mae gennym gyngor i gwsmeriaid ar sut mae'r rheolau hyn yn gweithio.
Oni bai eich bod wedi dewis terfyn gwahanol, mae'n ofynnol i ddarparwyr osod terfyn diffodd data o £45 (heb gynnwys TAW), ni waeth i le rydych chi’n teithio yn y byd.
Mae'n rhaid i’ch darparwr anfon neges rybudd i’ch dyfais symudol pan fyddwch yn cyrraedd 80% o’r terfyn data crwydrol y cytunwyd arno, a phan fyddwch chi wedi cyrraedd y terfyn yn llwyr (100%). Rhaid i weithredwyr roi’r gorau i godi am ddata ar y pwynt 100%, oni bai eich bod yn cytuno i barhau i ddefnyddio data.
I’ch helpu i reoli pryd y mae eich ffôn yn defnyddio data, gallwch ddiffodd data crwydrol ar eich ffôn.
Os ydych chi eisiau pori’r we’n rheolaidd ar eich ffôn, defnyddiwch fannau cyswllt wifi lleol yn hytrach na chysylltiad eich ffôn symudol â’r rhyngrwyd.
Fel rheol, gallwch gysylltu â wifi mewn lleoedd fel caffis, bwytai a gwestai, weithiau am ddim, neu gallwch chi dalu i ddefnyddio’r rhyngrwyd am gyfnod amser penodol. Mae rhai apiau ffôn yn gallu chwilio am rwydweithiau wifi ac ysgogi chi i gysylltu â nhw fel nad oes yn rhaid i chi wneud hyn eich hun.
Mae hyn yn arbennig o ddefnyddiol ar gyfer llwytho mapiau i lawr, gwirio e-bost neu bori rhwydweithiau cymdeithasol - byddai hyn i gyd fel arall yn cronni costau data trwy ddefnyddio cysylltiad rhyngrwyd eich ffôn symudol. Cofiwch, nid oes angen i chi roi data crwydrol ymlaen i gael mynediad i wifi. Ond mae hyn yn golygu y bydd angen i chi aros o fewn cyrraedd i’r wifi er mwyn osgoi colli eich cysylltiad. Os nad ydych chi wedi diffodd data crwydrol wrth ddefnyddio wifi a'ch bod yn colli’r signal wifi, efallai y bydd eich ffôn yn chwilio’n awtomatig am rwydwaith symudol i gynnal y cysylltiad ac felly, efallai, cronni ffioedd data.
Os nad ydych chi’n defnyddio wifi, peidiwch â gwneud pethau sy’n defnyddio llawer o ddata fel gwylio fideos, diweddaru cyfryngau cymdeithasol gyda lluniau neu lwytho cerddoriaeth i lawr. Hefyd, os ydych chi’n gwirio e-bost, peidiwch ag agor atodiadau mawr. Fel arall, efallai y byddai'n werth ystyried prynu cerdyn SIM ar gyfer y wlad rydych yn ymweld â hi.
Gweler ein canllaw am fwy o awgrymiadau ar osgoi cael biliau eithafol o fawr.
Os ydych yn byw mewn ardaloedd ar y ffin, yng Ngogledd Iwerddon er enghraifft, efallai y byddwch yn profi 'crwydro anfwriadol'. Dyma pryd y mae signal symudol mewn ardal ar y ffin yn gryfach o'r wlad dros y ffin e.e. Iwerddon.
Gall rhai darparwyr ddewis parhau i gynnig tariffau 'crwydro fel gartref' a allai atal crwydro anfwriadol rhag cronni taliadau ychwanegol. Fodd bynnag, os nad yw hyn yn wir, mae'n rhaid i ddarparwyr gymryd camau rhesymol i ddiogelu cwsmeriaid rhag talu'r taliadau ychwanegol hynny a rhaid iddynt ddarparu gwybodaeth am sut i osgoi crwydro anfwriadol.
Os oes gennych unrhyw bryderon am grwydro anfwriadol, mae Ofcom yn eich annog i siarad â'ch darparwr.
Mae'n bosib na fydd ffonau symudol a ddefnyddir mewn ardaloedd arfordirol neu ar y môr yn gallu cysylltu â rhwydweithiau 2G, 3G neu 4G ar y tir ac y byddant yn chwilio am gysylltiad lloeren y llong. Felly, gall taliadau fod yn uwch na chrwydro arferol.
Os credwch y bydd angen i chi ddefnyddio'ch ffôn ar y môr, holwch eich darparwr cyn i chi deithio i weld faint y bydd yn ei gostio i ddefnyddio'ch ffôn drwy gysylltiad lloeren. Gallech ystyried dewis rhwydwaith a ffafrir ar eich dyfais pan fyddwch ar y bad/llong er mwyn osgoi cysylltiadau lloeren ond gall signalau amrywio a bydd hyn yn golygu na fyddwch efallai yn derbyn galwadau na negeseuon testun pan fyddwch y tu hwnt i gyrraedd y rhwydwaith a ddewisir
Noder: Nid yw'r terfynau data byd-eang yn berthnasol i grwydro ar fferi neu long fordaith.
Byddwch yn arbennig o ofalus pan fyddwch chi’n mynd â’ch ffôn dramor gan fod lladron yn aml yn targedu twristiaid.
Dylech chi fod yn ofalus wrth ddefnyddio eich ffôn mewn lle cyhoeddus, cadwch eich ffôn gyda chi bob amser.
Mae llawer o ffonau clyfar yn costio cannoedd o bunnoedd, ac ar ben hynny mae lladron hefyd yn gallu cronni biliau enfawr ar ffonau sydd wedi'u dwyn.
Mae'n bosib y byddwch chi’n atebol am yr holl gostau sydd wedi cronni ar eich ffôn pan aiff ar goll hyd nes i chi roi gwybod i’ch darparwr ei fod ar goll neu wedi’i ddwyn.
Os bydd eich ffôn ar goll a chithau gyda Three, Virgin Mobile, Vodafone, EE neu O2 ar gyfer gwasanaethau symudol, ni ddylech ond bod yn gyfrifol am dalu hyd at uchafswm o £100 am unrhyw ddefnydd heb ei awdurdodi y tu hwnt i’ch lwfans - os byddwch chi’n rhoi gwybod iddyn nhw bod eich ffôn ar goll cyn pen 24 awr.
Os ydych chi gyda Vodafone ac nad ydych chi’n rhoi gwybod cyn pen 24 awr ond rydych chi’n rhoi gwybod bod eich ffôn ar goll cyn pen pum niwrnod, ddylech chi ond bod yn gyfrifol am dalu hyd at £500 am ddefnydd heb awdurdod y tu hwnt i’ch lwfans. Edrychwch ar gyhoeddiad Llywodraeth y DU.
Felly, os byddwch chi’n colli eich ffôn pan fyddwch chi dramor, mae’n bwysig dros ben i chi gysylltu â’ch darparwr cyn gynted â phosib er mwyn osgoi costau uchel o ganlyniad i ddefnyddio heb awdurdod. Hyd yn oed os oes cyfle bach y byddwch chi'n dod o hyd i’ch ffôn, mae hi’n werth holi eich darparwr a oes modd rhoi gwaharddiad dros dro ar eich cyfrif.
Ar ôl i chi roi gwybod bod eich ffôn ar goll neu wedi'i ddwyn, bydd eich darparwr yn gallu gwahardd eich SIM er mwyn stopio gwneud galwadau ar eich cyfrif. Gall eich darparwr hefyd stopio unrhyw un arall rhag defnyddio eich ffôn drwy rwystro ei IMEI, rhif cyfresol 15-digid unigryw. Gallwch weld eich rhif IMEI drwy roi *#06# yn eich ffôn neu drwy edrych y tu ôl i fatri eich ffôn. Gwnewch gofnod o’r rhif hwn, yn ogystal â gwneuthurydd a model eich ffôn, a chadwch yr wybodaeth hon mewn man diogel.
Gallwch chi hefyd lawrlwytho ap sy’n gallu tracio eich ffôn os aiff ar goll neu gael ei ddwyn, ac mae’n eich galluogi i ddileu manylion o bell - fel findmyiphone ac Android device manager.
Mae'n bosib y bydd rhai polisïau yswiriant ffonau symudol yn rhoi rhywfaint o warchodaeth rhag defnyddio heb awdurdod, felly mae’n werth edrych ar delerau ac amodau eich polisi, neu wneud hynny wrth ystyried polisi newydd.
Cofiwch, os byddwch chi’n penderfynu codi yswiriant ar eich ffôn symudol, efallai y bydd angen i chi roi gwybod i’ch cwmni yswiriant bod eich ffôn ar goll neu wedi'i ddwyn cyn pen cyfnod penodol hefyd.
Dylech chi roi gwybod i’ch cwmni ffôn symudol o hyd.
Gwnewch yn siŵr eich bod yn rhoi cod cyfrin ar eich ffôn a’ch SIM i’w gwneud hi’n anoddach i ladron ei ddefnyddio.
Mae canllaw yr Heddlu Metropolitan ar ddiogelu eich ffôn hefyd yn ffynhonnell gyngor ddefnyddiol ar sut y gallwch chi warchod eich hun rhag mynd yn ddioddefwr trosedd ffonau.
Darparwr | Deialu o’r DU | Deialu o Dramor |
3 | 333 (ffôn Three) 0333 373 3333 (unrhyw ffôn arall) | +44 7782 333 333 |
EE | 07953 966 250 | 44 7953 966 250 |
O2 | 0344 809 0202 (talu’n fisol), neu 0344 809 0222 (talu wrth ddefnyddio) | +44 344 809 0202 (talu’n fisol), +44 344 809 0222 (talu wrth ddefnyddio) |
Vodafone | 03333 040191 | +44 7836 191 191 (talu'n fisol) +44 7836 191 919 (talu wrth ddefnyddio) |
Tesco Mobile | 4455 (ffôn Tesco) 0345 301 4455 (unrhyw ffôn arall) | +44 845 3014455 |
Virgin Mobile | 789 (ffôn Virgin Media) 0345 6000 789 (unrhyw ffôn arall) | +44 7953 967 967 |