Atwrneiaeth a rheoli biliau trydydd parti


Ydych chi'n adnabod rhywun sydd angen help gyda'u materion ariannol? 

Mae atwrneiaeth a rheoli biliau trydydd parti ill dau yn cael eu defnyddio gan bobl sydd angen help i reoli eu materion. Mae'r wybodaeth hon ynghlych sut maen nhw'n gweithio yn y sector telegyfathrebiadau wedi cael ei pharatoi gan Ofcom gyda chymorth gan Swyddfa'r Gwarcheidwad Cyhoeddus.

Dylai fod gan ddarparwyr telegyfathrebiadau ddull gweithredu sy'n diogelu eu cwsmeriaid rhag trwyll ar yr un pryd â chaniatáu i bobl sydd ag awdurdod priodol helpu i weithredu cyfrifon pan fo'n briodol.

Mae rhai gwahaniaethau rhwng sut mae pethau'n gweithio yng Nghymru a Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon. Edrychwch ar yr adrannau perthnasol isod.

Cymru a Lloegr

Beth ydy atwrneiaeth arhosol?

Mae atwrneiaeth arhosol yn ddogfen gyfreithiol sy’n caniatáu i rywun (a elwir yn ‘rhoddwr’) benodi rhywun arall (a elwir yn ‘atwrnai’) i helpu i wneud penderfyniadau, neu i wneud penderfyniadau ar eu rhan, naill ai ar unwaith neu pan na fydd ganddynt y galluedd meddyliol i wneud hynny. Fel rheol mae’r atwrnai yn aelod o’r teulu, yn ffrind neu’n gyfreithiwr.

Nid oes gan rywun alluedd meddyliol os nad ydynt yn gallu deall, cofio neu weithredu ar wybodaeth briodol ac felly ni allant wneud penderfyniau penodol yn ddibynadwy drostynt eu hunain.

Mae dau fath o atwrneiaeth arhosol:

  • eiddo a materion ariannol
  • iechyd a lles

Dim ond atwrneiaeth arhosol eiddo a materion ariannol sy’n ddilys mewn perthynas â chyfrif telegyfathrebiadau, ac mae’n rhaid iddi fod wedi cael ei chofrestru gyda Swyddfa'r Gwarcheidwad Cyhoeddus cyn iddi allu dod i rym. Ar ôl cofrestru’r atwrneiaeth arhosol, dylai fod gan yr atwrnai yr un pŵer i reoli’r cyfrif â deiliad y cyfrif.

A oes mathau eraill o atwrneiaeth?

Atwrneiaeth arhosol ydy'r mwyaf cyffredin, gyda dros 1.8 miliwn wedi cofrestru. Fodd bynnag, efallai y byddwch chi’n dod ar draws trefniadau tebyg eraill.

Dirprwyon: Os nad oes rhywun wedi creu atwrneiaeth arhosol a'u bod yn colli eu galluedd meddyliol, gall y Llys Gwarchod benodi ‘dirprwy’ i weithredu yn yr un ffordd ag atwrnai. Bydd y gorchymyn llys yn nodi pa benderfyniadau mae modd i’r dirprwy eu gwneud ar ran y sawl sydd heb alluedd meddyliol.

Atwrneiaeth barhaus: cyn mis Hydref 2007, gallai rhywun greu atwrneiaeth barhaus mewn perthynas ag eiddo â chyllid. Nid oes modd gwneud atwrneiaeth barhaus mwyach, ond mae unrhyw atwrneiaeth barhaus sydd eisoes mewn grym yn dal yn ddilys os ydy’r rhoddwr wedi colli neu yn colli eu galluoedd meddyliol, ar yr amod eu bod wedi cofrestru gyda Swyddfa'r Gwarcheidwad Cyhoeddus.

Atwrneiaeth gyffredin: mae hyn yn galluogi rhywun i wneud penderfyniadau ariannol ar ran deiliad y cyfrif. Fodd bynnag, mae atwrneiaeth gyffredin yn stopio bod yn awdurdod cyfreithiol os bydd y rhoddwr yn colli galluedd meddyliol.

Penodai Budd-daliadau: mae’r Adran Gwaith a Phensiynau yn gallu cymeradwyo rhywun i weithredu fel penodai ar gyfer person sydd ag analluedd meddyliol neu sy’n ddifrifol anabl sy’n cael budd-daliadau. Mae’r penodai yn derbyn ac yn rheoli’r budd-daliadau; gall hyn gynnwys gwneud taliadau fel biliau cyfleustodau a thelegyfathrebiadau ar ran yr unigolyn.

Beth ydy rheoli biliau trydydd parti?

Mae Ofcom yn mynnu bod pob darparwr telegyfathrebiadau yn y DU yn cynnig rheoli biliau trydydd parti. Mae hyn yn caniatáu i gwsmer enwebu ffrind neu berthynas i helpu i reoli eu cyfrif. Gall y trydydd parti dderbyn copïau o filiau ac mae’n gallu talu’r biliau, ond nid yw’n atebol am y biliau.

Dylai’r cwsmer gysylltu â’u darparwr telegyfathrebiadau er mwyn trefnu hyn.

Sut mae atwrneiaeth arhosol yn wahanol i reoli biliau trydydd parti?

Mae atwrneiaeth arhosol yn rhoi’r un pŵer i atwrnai i reoli’r cyfrif â deiliad y cyfrif.

Mae rheoli biliau trydydd parti yn galluogi’r enwebai i siarad â´r darparwr am y cyfrif, cael copïau o filiau a thalu biliau.

Trafod y cyfrif gyda'r darparwr 

Derbyn copïau o'r biliau

Talu'r biliau

Cau'r cyfrif/gwneud newidiadau i'r cyfrif 

Rheoli biliau Trydydd Parti 

Ie

Ie

Ie

Na

Atwrneiaeth arhosol/dirprwyaeth/atwrneiaeth barhaus

Ie

Ie

Ie

Ie

Penodai Budd-daliadau

Ie

Ie

Ie

Ie

Sut mae rhoi gwybod i ddarparwr telegyfathrebiadau fod gen i atwrneiaeth?

Bydd angen i ddarparwyr telegyfathrebiadau gael tystiolaeth o’ch awdurdod i weithredu ar ran deiliad y cyfrif. Mae hyn yn debygol o fod yn ffurflen atwrneiaeth arhosol sydd wedi cael ei llenwi, ei llofnodi a’i chofrestru gyda Swyddfa'r Gwarcheidwad Cyhoeddus. Efallai y byddant hefyd yn gofyn am brawf o'ch enw a’ch cyfeiriad.

Bydd rhai darparwyr telegyfathrebiadau yn derbyn llungopi o’r atwrneiaeth arhosol gofrestredig; bydd eraill eisiau copi gyda stamp Swyddfa'r Gwarcheidwad Cyhoeddus ar bob tudalen neu gopi wedi’i lofnodi ar bob tudalen gan y rhoddwr, cyfreithiwr neu notari i gadarnhau bod hwn yn gopi go iawn o’r gwreiddiol. Dylai'r copi o’r atwrneiaeth arhosol gael ei ddychwelyd i chi ar gais.

Enghreifftiau

Mae fy mam wedi cael strôc ac mae hi mewn cartref gofal nawr. Mae hi wedi gwneud atwrneiaeth arhosol (eiddo a materion ariannol), gan fy enwi i yn atwrnai. Mae ei thŷ yn cael ei werthu, ac mae angen i mi gau ei chyfrif telegyfathrebiadau.

Dylai’r darparwr telegyfathrebiadau allu cau’r cyfrif ar ôl derbyn yr atwrneiaeth arhosol gofrestredig.

Mae fy nhad yn yr ysbyty ac mae wedi gwneud atwrneiaeth arhosol (eiddo a materion ariannol). Rwy’n atwrnai iddo ac yn dymuno cael copïau o’i filiau er mwyn i mi allu sicrhau na fydd ei linell ffôn yn cael ei thorri yn ystod ei arhosiad. Mae cyfrinair ar ei gyfrif, ond dydw i ddim yn gwybod y cyfrinair ac ni all ddweud wrtha i gan ei fod yn ddryslyd

Dylai’r darparwr telegyfathrebiadau dderbyn yr atwrneiaeth arhosol heb y cyfrinair i’r cyfrif yn yr amgylchiadau hyn. Maen nhw’n gallu defnyddio archwiliadau diogelwch eraill os oes angen.

Mae fy modryb yn cael gofal mewn uned dementia ac rwyf eisiau cau ei chyfrif telegyfathrebiadau. Mae rheoli biliau trydydd parti ar waith ganddi, a fi yw ei henwebai.

Ni fyddai rheoli biliau trydydd parti heb atwrneiaeth arhosol fel rheol yn caniatáu i chi gau’r cyfrif.  Fodd bynnag, mae’r darparwr telegyfathrebiadau yn debyg o dderbyn llythyr gan reolwr yr uned dementia neu feddyg teulu’r fodryb.

Mae fy mrawd wedi dioddef anaf i’w ben ac ni all reoli ei faterion ei hun mwyach. Rwy’n mynd i'r Llys Gwarchod i ofyn am orchymyn dirprwy, ond mae hyn yn debygol o gymryd dau i dri mis. Yn y cyfamser, mae’n talu am wasanaeth telegyfathrebiadau nad yw’n gallu ei ddefnyddio.

Efallai y bydd y darparwr telegyfathrebiadau yn fodlon derbyn llythyr gan yr ysbyty neu feddyg teulu er mwyn cau’r cyfrif yn yr amgylchiadau hyn. Os nad, gallech chi ofyn am atal y cyfrif nes cyhoeddi’r gorchymyn llys, sy’n golygu na fydd rhagor o ffioedd yn cronni.

Dolenni defnyddiol

Mwy o wybodaeth am atwrneiaeth arhosol

Llyfryn y Gymdeithas Alzheimer’s am atwrneiaeth

Mwy o wybodaeth am y cynllun penodai budd-daliadau